Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, roedd Russell George yn bresennol yn ei le.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth bellach am y mater o gyfranogi o bell mewn trafodion, yn benodol a ddylid nodi bod gan Aelodau hawl i gyfranogi o bell a'r disgwyliadau mewn perthynas â phresenoldeb Gweinidogion mewn pwyllgorau. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y materion hyn wrth gytuno ar y cynigion terfynol yn y cyfarfod nesaf.

 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

 

Nododd y Trefnydd fod y Llywodraeth wedi aildrefnu busnes dydd Mawrth ac y bydd y dadleuon a'r cyfnod pleidleisio yn cael eu cynnal ar ddiwedd y sesiwn, yn dilyn gohirio darlith gyfansoddiadol a drefnwyd yn flaenorol ar gyfer y noson hon.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. 

 

Cadarnhaodd y Llywydd amseriad Datganiad Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, gan gynnwys y bydd gan y siaradwr cyntaf o'r grŵp Llafur hyd at bum munud ar gyfer eu cyfraniad.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022 -

 

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)

o   Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithasau Tai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022

o   Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022

o   Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022

o   Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022

·         Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 (10 munud)

·         Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 (30 munud)

·         Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2022 (15 munud)

·         Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (10 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 12 Medi 2022 –

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Ynni adnewyddadwy yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

 

3.4

Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022:

 

NNDM8038 Luke Fletcher

NNDM8038

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) cyflwyno cytundeb tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb tenantiaeth enghreifftiol Senedd y DU a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021;

b) cynnig cyfres o fesurau a fyddai'n sicrhau nad yw perchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol yn cael eu trin yn annheg o ganlyniad i'r math o lety y maent yn byw ynddo;

c) caniatáu mai'r sefyllfa ddiofyn gyfreithiol yw caniatáu anifeiliaid anwes mewn tai cymdeithasol a'r sector rhentu preifat, oni bai bod rheswm y gellir ei gyfiawnhau dros beidio â gwneud hynny;

d) ymestyn caniatáu anifeiliaid anwes mewn llochesi a llety i bobl ddigartref.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Chyfansoddiad am newidiadau i'r amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a chytunodd i ymestyn y terfynau amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar yr Ystyriaeth Gychwynnol hyd at 16 Rhagfyr 2022 ac Ystyriaeth Fanwl gan Bwyllgor hyd at 3 Mawrth 2023.

 

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am estyniad i'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil Caffael a chytunodd i ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau hyd at 10 Tachwedd 2022.

 

 

5.

Trefniadau cyflwyno

5.1

Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf 2022

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn a’r trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig yn ystod toriad yr haf .

 

 

6.

Y Rheolau Sefydlog

7.1

Adolygiad o Reol Sefydlog 12.41 A-H ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y Rheolau Sefydlog dros dro (12.41A-H) ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant a chytunodd i gynnig i'r Senedd y caiff y rhain eu hymestyn tan 1 Ebrill 2023 er mwyn galluogi adolygiad llawn o'r darpariaethau yn ddiweddarach, ar ôl i'r adolygiad presennol o Reol Sefydlog 34 a chyfranogi o bell ddod i ben.