Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

                                  

Dydd Mawrth

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Etholiadau Llywodraeth Leol (30 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.15pm.

 

Dydd Mercher 

 

Nododd y Pwyllgor Busnes bod Plaid Cymru yn bwriadu newid ei haelod ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus o Cefin Campbell i Rhys ab Owen. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu i’r Ddadl Fer gael ei chynnal gan nad oedd y pwnc ar gyfer y ddadl wedi’i gyflwyno erbyn y terfyn amser.

 

Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod yfory:

 

  • Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 mun)
  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 17 Mai 2022 -

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Lleihau’r risg o fod yn agored i lifogydd a’r adolygiad annibynnol o lifogydd 2020-21 (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022 (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y diwygiad a ganlyn i’r busnes ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 25 Mai 2022 –

 

·         Dadl ar Ddeiseb P-06-1249: Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â syndrom tourette yng Nghymru (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 8 Mehefin 2022 -

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022erbyn bore dydd Mawrth 17 Mai 2022.

 

 

5.

Amserlen y Senedd

5.1

Dyddiadau toriadau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a Nadolig 2022, a chytunwyd ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a Phasg 2023. 

 

Toriad

Dyddiadau

Hanner Tymor y Sulgwyn

 

Dydd Llun 30 Mai 2022 – dydd Sul 5 Mehefin 2022

Toriad yr Haf

Dydd Llun 18 Gorffennaf 2022 – dydd Sul 11 Medi 2022

Hanner Tymor yr Hydref

 

Dydd Llun 31 Hydref 2022 – dydd Sul 6 Tachwedd 2022

Toriad y Nadolig

 

Dydd Llun 19 Rhagfyr 2022 - dydd Sul 8 Ionawr 2022

*Toriad y Gwanwyn

Dydd Llun 20 Chwefror 2023 - Dydd Sul 26 Chwefror 2023

*Toriad y Pasg

Dydd Llun 3 Ebrill 2023 - dydd Sul 23 Ebrill 2023

 

* Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.

 

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais y Pwyllgor Deisebau am ddadl ynghylch deiseb P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr ar gyfer pobl â syndrom Tourette yng Nghymru, i’w threfnu ar gyfer 25 Mai. 

 

 

7.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Cynulliad Partneriaeth Seneddol

Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai Alun Davies AS a Samuel Kurtz AS yn cynrychioli’r Senedd yng nghyfarfod cyntaf Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE ar 12-13 Mai. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n dychwelyd at drafodaeth ynghylch aelodaeth barhaol mewn cyfarfod yn y dyfodol.