Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graem e Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.

 

Dydd Mercher 

 

  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 30 mins)
  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm. 

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes ymhellach y posibilrwydd o wneud 30 munud yn amseriad diofyn ar gyfer datganiadau’r llywodraeth. Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth wedi cwtogi'r amser a neilltuwyd i rai datganiadau yn ystod yr wythnosau nesaf ac y byddai'n parhau i adolygu hyn hyd nes doriad y Pasg.

 

 

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 22 Mawrth 2022 -

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Gronfa Tai â Gofal (45 munud) – tynnwyd yn ôl

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (30 munud) - gohiriwyd tan 29 Mawrth

 

Dydd Mawrth 29 Mawrth 2022 –

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 (45 30 mins)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio Ardrethi Annomestig (30 munud)

·         Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022 (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 27 Ebrill 2022 –

 

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 23 Mawrth 2022:

 

NNDM7953 Mike Hedges

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod adeiladau crefyddol, gan gynnwys eglwysi a chapeli, yn parhau i gael eu cau ledled Cymru.

2.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r gwahanol enwadau yng Nghymru i drafod dyfodol yr adeiladau hyn.

Cyd-gyflwynwyr

Rhys ab Owen

Jane Dodds

Darren Millar

Wedi’i gefnogi gan

Alun Davies

Sam Rowlands

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd:

 

  • i gyfeirio’r Memorandwm ar Fil Iaith Arwyddion Prydain i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau o 26 Mai ar gyfer cyflwyno adroddiad.
  • i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol at bwyllgor i graffu arno yn sgil cyflwyno gwelliannau hwyr a’r amserlen ar gyfer y cyfnodau sy’n weddill mewn perthynas â’r Bil yn San Steffan.

 

5.

Amserlen y Senedd

5.1

Dyddiadau Toriadau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig yn 2022.

 

 

5.2

Trefniadau Cyflwyno yn Ystod Toriad y Pasg, Calan Mai a Hanner Tymor y Sulgwyn 2022

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes:

 

  • ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn a gwelliannau i Filiau yn ystod toriad y Pasg;
  • i gytuno ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig yn ystod toriad y Pasg.
  • i nodi’r newidiadau i’r trefniadau cyflwyno, sy’n ofynnol o ganlyniad i Ŵyl Banc Calan Mai, Gŵyl Banc y Sulgwyn a Gŵyl Banc y Jiwbilî Platinwm.

 

Nododd y Trefnydd fod diwrnod braint i staff Llywodraeth Cymru ddydd Llun 6 Mehefin 2022 a gofynnodd nad oedd sesiynau craffu pwyllgorau gyda Gweinidogion yn cael eu trefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw.

 

 

6.

Amserlen y Pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais y Pwyllgor am slot cyfarfod ychwanegol ar 28 Mawrth.

 

 

6.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais y Pwyllgor am slot cyfarfod ychwanegol yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 28 Mawrth.

 

 

7.

Enwebiadau i bwyllgorau Ewropeaidd

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes fod gohebiaeth wedi’i chyfnewid rhwng Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Gydraddoldeb, Ffyniant Bro a Chymunedau a’r Llywydd ynghylch enwebiadau’r Senedd ar gyfer dirprwyaeth y DU i’r Gyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol yng Nghyngor Ewrop, a chytunodd i drafod y mater pellach unwaith y ceir ymateb gan y Gweinidog. Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion am nodyn cefndir ar enwebiadau blaenorol i Gyngor Ewrop.

 

 

7.1

Llythyr gan y Gweinidog Gwladol dros Gydraddoldeb, Ffyniant Bro a Chymunedau

7.2

Llythyr gan y Llywydd at y Gweinidog Gwladol dros Gydraddoldeb, Ffyniant Bro a Chymunedau