Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 1 Mawrth 2022 -

 

  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 – y camau nesaf (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau (15 munud)
  • Dadl:  Cymraeg 2050 Adroddiad Blynyddol 2020-21 (60 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar y Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau hyd at fore 1 Mawrth 2022, yn hytrach na 3 Mawrth, yng ngoleuni'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y ddadl.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 9 Mawrth 2022 -

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i drefnu Dadl Aelodau arall dros dro ar 23 Mawrth 2022.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

5.

Amserlen y Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

6.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Fformat cyfranogiad yn y Cyfarfod Llawn

 

Yn y cyfarfod nesaf, byddai'r Pwyllgor Busnes yn ystyried fformat y Cyfarfod Llawn ar ôl y toriad hanner tymor.  Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i drafod safbwyntiau cychwynnol ar gyfranogiad hybrid ar gyfer y tymor hir, a fyddai'n llywio papur i'w ystyried ar ôl yr hanner tymor.