Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd Darren Miller ei ymddiheuriadau ac roedd Russell George yn bresennol yn ei le.

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm.

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i agenda heddiw:

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Diweddariad ar COVID-19 (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol - Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (45 munud)

 

Mae'r datganiad ar 'Cymru Iachach' a'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ill dau wedi'u gohirio tan 11 Ionawr.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm. 

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am ei bwriad i gyhoeddi canlyniadau etholiad Senedd Ieuenctid Cymru ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, cyn galw’r busnes ffurfiol.

 

Nododd y Llywydd y bwriedir i’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ddechrau ar 1 Rhagfyr. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi bod yn gohebu â'r Prif Weinidog am fanylion y cytundeb ac wedi gofyn am i wybodaeth am sut y bydd yn gweithio'n ymarferol gael ei rhannu ag Aelodau'r Senedd cyn gynted â phosibl. Unwaith y bydd y wybodaeth hon ar gael, dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu gwneud datganiad i'r Cyfarfod Llawn ar unrhyw effaith y gallai'r trefniadau ei chael ar weithrediad Busnes y Senedd.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021 –

 

  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu - Diweddariad (60 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio'r Dreth Gyngor yng Nghymru (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Casgliad yr Adolygiad Ffiniau Etholiadol (45 munud) - datganiad ysgrifenedig

 

Dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021 –

 

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cefnogi’r bwriad i greu Banc Cymunedol i Gymru (45 munud)
  • Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (30 munud)

 

Dydd Mawrth 11 Ionawr 2022 -

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach (45 munud) - gohiriwyd o 30 Tachwedd 2021

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 12 Ionawr 2022 -

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Dyled a'r pandemig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer y Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Cofnodion:

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen gyda dyddiad cau diwygiedig o 8 Ebrill 2022, ar gais y Pwyllgor Cyllid, ar gyfer cyflwyno adroddiad Cyfnod 1.

 

 

4.2

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a'r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y cyfnod eithriadol o dynn ar gyfer craffu a chytunodd, o ystyried nad oedd pwyllgorau'n debygol o allu bodloni'r terfyn amser adrodd o 2 Rhagfyr a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, y byddai'n bosibl gosod adroddiadau pwyllgorau ar unrhyw adeg cyn cynnal dadl y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr.

 

Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau o 9 Rhagfyr ar gyfer cyflwyno adroddiad arno. Nododd y Rheolwyr Busnes y cyfnod cywasgedig ar gyfer craffu.

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru.

 

 

 

5.

Cyfarfod Llawn

5.1

Llythyr gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i Aelodau o'r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn ar yr adegau y gofynnwyd amdanynt a nodwyd y rhesymau pam nad oedd y pwyllgor wedi gallu dod o hyd i slot cyfarfod arall y tro hwn.

 

 

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn

Cofnodion:

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am ragor o wybodaeth am statws presennol penderfyniadau sy'n ymwneud â dyfodol yr adeilad cyn iddynt wneud penderfyniad ynghylch a ddylid cytuno i drefnu dadl.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Gofynnodd Jane Dodds AS am eglurder ynghylch y sefyllfa o ran Aelodau'n gwisgo gorchuddion wyneb yn y Siambr pan nad ydynt yn siarad, gan nodi bod gwisgo masgiau wedi dod yn bwysicach ac yn fwy cyffredin yng ngoleuni'r amrywiolyn Covid-19 newydd. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r holl Aelodau o'r cyngor presennol y dylid gwisgo gorchuddion wyneb yn y Siambr pan nad yw Aelodau'n siarad a dywedodd y byddai'n ystyried y cyngor presennol ymhellach ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau os oes angen.