Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.00pm.

Dydd Mercher  

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm. 

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i agenda heddiw:

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd - Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg - Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg (30 munud)

 

Dywedodd Darren Millar wrth y Pwyllgor Busnes mai ef fydd yn gofyn cwestiynau Arweinwyr y Pleidiau ar ran arweinydd grŵp y Ceidwadwyr heddiw.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 30 Tachwedd 2021 –

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Cynllun Gweithredu Digartrefedd (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trawsnewid Proffesiynau Iechyd Perthynol (45 munud) - wedi'i dynnu'n ôl

 

Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021 –

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid  Hinsawdd: Ymchwil Manwl ar Ynni Adnewyddadwy (45 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhenti Tir) (15 munud) – gohiriwyd tan 14 Rhagfyr

 

Tynnodd y Llywydd sylw at y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru a gofynnodd i'r Trefnydd a fydd datganiad yn cael ei drefnu cyn i'r Cytundeb ddod i rym ar 1 Rhagfyr. Dywedodd y Trefnydd y bydd y Rhaglen Lywodraethu yn cael ei diweddaru ac y bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad cyn y Nadolig.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 15 Rhagfyr 2021 -

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-Sefydliadol Rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 1 Rhagfyr:

 

NNDM7842 Mabon ap Gwynfor

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu dull gweithredu llwybr canser sengl Llywodraeth Cymru.

2. Yn cydnabod:

a) mai canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru a bod 19,600 o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru (2016-2018).

b) bod COVID-19 wedi gwaethygu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru, gyda thua 1,700 yn llai o bobl yn dechrau triniaeth canser rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.

c) bod amseroedd aros canser GIG Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos mai 61.8 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, canran llawer is na'r targed perfformiad llwybr canser tybiedig o 75 y cant.

d) hyd yn oed cyn y pandemig, fod Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes delweddu, endosgopi, patholeg, oncoleg nad yw'n lawfeddygol a nyrsys arbenigol.

e) heb fuddsoddiad aml-flwyddyn mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff i lenwi swyddi gwag cyfredol, na fydd gan Gymru'r staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser, ymdopi â'r galw yn y dyfodol, neu wneud cynnydd tuag at uchelgeisiau i roi diagnosis a thrin mwy o ganserau yn gynnar.

f) bod Cynghrair Canser Cymru wedi beirniadu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, am beidio â darparu gweledigaeth glir i gefnogi gwasanaethau canser i adfer o effaith y pandemig a gwella cyfraddau goroesi ymhellach.  

g) mai Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir, y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod un gan bob gwlad.

3. Yn croesawu'r cynlluniau peilot clinig diagnostig cyflym llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a bod Rhwydwaith Canser Cymru wedi darparu cyllid i bob bwrdd iechyd arall i ddatblygu clinigau diagnostig cyflym.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar gyfer canser, gan gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith;

b) mynd i'r afael â phrinder staff hirsefydlog o fewn gwasanaethau canser a diagnostig;

c) ystyried sut y gellid cymhwyso'r argymhellion yn adolygiad yr Athro Syr Mike Richards o wasanaethau diagnostig yn Lloegr yng Nghymru.

 

Wedi’i gefnogi gan:

 

Sioned Williams

Rhun ap Iorwerth

Paul Davies

Jane Dodds

Siân Gwenllian

Altaf Hussain

Sam Rowlands

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 15 Rhagfyr 2021:

 

NNDM7843 Rhys Ab Owen

Alun Davies

Jane Dodds

Heledd Fychan

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n cael eu cyflwyno i'r Senedd.

2. Yn cydnabod bod hyn o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn ceisio defnyddio deddfwriaeth Senedd y DU i roi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru mewn grym a Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru ein democratiaeth, erydu'r setliad datganoli a lleihau pwerau'r Senedd.

3. Yn credu y dylai'r Senedd roi holl ddeddfwriaeth sylfaenol sylweddol ac arwyddocaol mewn grym yn hytrach na gwneud hynny drwy'r broses cynigion cydsyniad deddfwriaethol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) weithio gyda Phwyllgor Busnes y Senedd i adolygu'r broses ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben;

b) egluro egwyddorion pryd y defnyddir cynigion cydsyniad deddfwriaethol;

c) gweithio gyda'r Llywydd i ofyn am adolygiad brys o'r effaith ar y setliad datganoli a phwerau'r Senedd o ganlyniad i ddeddfwriaeth y DU. 

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Deddfau Trethi Cymru ac ati. (Pŵer i Addasu)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Cyllid er mwyn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

4.2

Llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad diwygiedig o 9 Rhagfyr ar gyfer y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir);

 

 

5.

Amserlen y Pwyllgorau

5.1

Ceisiadau am gyfarfodydd ychwanegol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i roi caniatâd i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai gynnal cyfarfod ychwanegol yn ymwneud â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad rhwng 1 a 9 Rhagfyr, yng ngoleuni'r oedi wrth osod Memorandwm Atodol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cyfarfodydd ychwanegol canlynol ar gyfer pwyllgorau:

 

  • Y Pwyllgor Cyllid - Dydd Iau 16 Rhagfyr 2021;
  • Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Dydd Gwener 21 Ionawr; a’r
  • Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - dydd Llun 14 Chwefror;

Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd y dyddiadau cyfarfodydd ychwanegol canlynol ar gyfer y Pwyllgor Cyllid at ddibenion craffu ar y gyllideb a'r Bil Treth:

 

  • Dydd Mercher 22 Rhagfyr 2021.
  • Dydd Gwener 14 Ionawr
  • Dydd Gwener 21 Ionawr
  • Dydd Gwener 28 Ionawr
  • Dydd Gwener 11 Chwefror; a
  • Dydd Mercher 16 Chwefror.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y gall y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynnal cyfarfod ychwanegol ym mis Chwefror neu fis Mawrth 2022 ar gyfer gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a gall y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg drefnu cyfarfod ychwanegol yn ystod wythnos warchodedig mis Chwefror 2022 i gytuno ar ei adroddiad ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), ar yr amod nad yw’r cyfarfodydd hynny yn achosi unrhyw wrthdaro o ran aelodaeth.

 

 

 

6.

Y Rheolau Sefydlog

6.1

Trothwy llofnodion ar gyfer deisebau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i godi'r trothwy ar gyfer deisebau, ac y dylai adroddiad yn nodi'r newid sydd ei angen gael ei ddarparu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes hefyd i'r Pwyllgor Deisebau fonitro effaith trothwy newydd ar nifer y deisebau a dderbynnir ac a ystyrir, gan nodi na ddylai capasiti fod yn rhwystr i ddeisebau gael eu hystyried.