Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.50pm.

Dydd Mercher  

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm. 

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes ei bod yn bwriadu gwneud datganiad o gydymdeimlad yn dilyn marwolaeth Syr David Amess AS ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw, wedi’i ddilyn gan funud o dawelwch. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd Arweinwyr y Pleidiau a Jane Dodds hefyd yn talu teyrnged yn dilyn y funud o dawelwch.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 2 Tachwedd 2021 –

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Strategaeth Sero-Net (60 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Lleihau allyriadau o gynhyrchu ynni (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rhaglen Ôl–osod er mwyn Optimeiddio 2 – Cynhesrwydd Fforddiadwy Arbennig (45 munud)

 

Dydd Mercher 9 Tachwedd 2021 –

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 (45 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 17 Tachwedd 2021 –

 

·         Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23 (30 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn gofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Bwyd (Cymru) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Busnes y Senedd

4.1

Dadl Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn - Craffu ar Weithredu Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar y cyd rhwng y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar graffu ar weithredu cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015).

 

Tynnodd y Trefnydd sylw at y ffaith bod datganiad y llywodraeth y cyfeirir ato yn y llythyr yn ychwanegol at, ac nid yn lle, ymateb i'r adroddiad ar y testun hwn a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ddiwedd y Bumed Senedd.

 

 

5.

Y Rheolau Sefydlog

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cais i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i ganiatáu dirprwyon yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac eithrio wrth ystyried cwynion. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddiwygio Rheol Sefydlog 22 fel rhan o'i adolygiad o'r Rheolau Sefydlog.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y llywodraeth yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 yr wythnos hon, ac felly'n cynnig bod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm yn cael ei ymestyn o 21 Hydref i 11 Tachwedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r estyniad.

 

Ymgysylltu ag Ewrop

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes enwebiadau i Aelodau gynrychioli'r Senedd ar y canlynol:

 

·         Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop; a

·         Phwyllgor y Rhanbarthau - Grŵp Cyswllt y DU

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod enwebiadau gyda'r nod o sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau; byddai penderfyniad yn cael ei wneud y tu allan i'r pwyllgor.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried cydbwysedd rhwng y rhywiau pan gynigir newidiadau i aelodaeth pwyllgorau'r Senedd.

 

Trefniadau’r Cyfarfod Llawn yn ystod Lefel Rhybudd 0

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau i adolygu nifer yr Aelodau sy'n gallu bod yn y Cyfarfod Llawn yn bersonol.  Byddai unrhyw newidiadau yn seiliedig ar reoliadau a chanllawiau iechyd cyhoeddus perthnasol ac yn destun asesiadau risg.