Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm.

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm. 

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at newid teitl eitem ddydd Mawrth:

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y Stori Hyd Yma ' Rhoi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar waith yn genedlaethol  (45 munud)

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes ei bod yn bwriadu caniatáu amser ychwanegol i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus gyfrannu yn ystod yr eitem, yng ngoleuni'r ffaith bod y datganiad yn cynnwys cyfeiriad at adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 19 Hydref 2021 –

 

·         Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol (45 munud)

·         Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2021 (10 munud)

Dydd Mercher 20 Hydref 2021 –

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid  Hinsawdd: Diweddariad ar y Metro (45 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 3 Tachwedd 2021 –

 

  • Dadl ar ddeiseb P-05-912 Cynorthwyo Teuluoedd sy’n Colli Plant a Phobl Ifanc yn Sydyn ac yn Annisgwyl (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 13 Hydref:

 

NDM7794 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi pwysigrwydd ynni adnewyddadwy wrth geisio lleihau ein hôl-troed carbon.

2. Yn cytuno bod angen sicrhau fod pob datblygiad ynni yn dod a budd i’r cymunedau lle’u lleolir.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, unai drwy reoliadau neu ddeddfwriaeth newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith cymunedol a chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio.

 

Cefnogwyr:

 

Janet Finch-Saunders

Altaf Hussain

Tom Giffard

Heledd Fychan

Sioned Williams

Luke Fletcher

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chyhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021erbyn dydd Llun18 Hydref.  

 

 

4.2

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - Amserlen

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a gohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. O ystyried perthnasedd y pwnc, cytunodd y Pwyllgor y byddai copi o’r ohebiaeth hefyd yn cael ei anfon at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu dadl ar ddeiseb ‘P-06-1208: Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth’.

 

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Cofnodion:

Dros dro, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i'r Pwyllgor gwrdd ar 21 Hydref, yn amodol ar gadarnhad o ran aelodaeth y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

 

 

5.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cofnodion:

Dros dro, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y ceisiadau a ganlyn gan y pwyllgor am slotiau cyfarfod ychwanegol:

 

·         Dydd Mercher 20 Hydref 2021;

·         Dydd Iau 18 Tachwedd 2021; a

·         Dydd Mercher 15 Rhagfyr 2021.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai pwyllgorau anelu at wneud ceisiadau bob tymor am slotiau cyfarfodydd ychwanegol, lle bo hynny'n bosibl.

 

 

6.

Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl

6.1

Pwyllgorau'r Chweched Senedd - Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Cofnodion:

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu yn flaenorol y dylai’r Pwyllgor gael chwe aelod, a fyddai’n cynnwys cadeiryddion pwyllgorau, i’w henwebu gan y grwpiau - 3 Llafur, 2 o’r Ceidwadwyr, 1 Plaid Cymru. 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gallai dirprwyon fod yn unrhyw Aelod o grŵp, ac eithrio Arweinwyr y Pleidiau. Roedd yn cytuno hefyd y dylai'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gwrdd unwaith y tymor, yn ddelfrydol mewn lleoliad y tu allan i Gaerdydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r cynigion i sefydlu'r Pwyllgor gael eu cymryd yfory, a fyddai'n gofyn am atal Rheolau Sefydlog.

 

 

6.2

Sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer datblygu cynigion polisi ar Ddiwygio'r Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y dylid sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd gyda'r cylch gwaith a ganlyn:

 

·         Ystyried y casgliadau a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Bumed Senedd.

·         Erbyn 31 Mai 2022, gwneud argymhellion o ran cyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru i Ddiwygio'r Senedd.

·         I gael ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig yr aelodaeth a ganlyn:

 

·         Cadeirydd - Huw Irranca-Davies AS (fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad) mewn rôl heb bleidlais;

·         Y Llywydd - hefyd mewn rôl heb bleidlais; a

·         pedwar Aelod arall, gydag un o bob un o bedair plaid wleidyddol y Senedd. Cynigir pleidleisio wedi'i bwysoli, gyda phob un o'r pedwar Aelod yn cael pleidlais sy'n cyfateb i nifer yr Aelodau yn eu grŵp, neu un bleidlais os nad oes ganddynt grŵp.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig bod yn rhaid i argymhellion y Pwyllgor i'r Senedd gael eu hategu gan bleidlais wedi'i phwysoli o 40 o leiaf. Awgrymwyd hefyd y dylai unrhyw ddadl ar adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor fod yn destun uwchfwyafrif yn y Cyfarfod Llawn.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r cynigion perthnasol gael eu cymryd yfory, a fyddai'n gofyn am atal Rheolau Sefydlog.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddrwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) hyd at 11 Tachwedd 2021, yn dilyn gwybodaeth newydd am amserlen y Bil yn San Steffan.