Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd David Rees a Jane Dodds eu hymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm.

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm. 

 

Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes sicrhau, os bydd yr Aelodau’n bresennol yn y Siambr cyn ac ar ôl y toriad, y dylent barhau i ddefnyddio’r un sedd.

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau o’r gofynion i ddatgan buddiannau perthnasol, lle bo hynny’n briodol, cyn cyfrannu at y trafodion. Bydd y Swyddfa Gyflwyno hefyd yn cyhoeddi nodyn i'r holl Aelodau.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd canlyniad balot cyntaf y Chweched Senedd ar gyfer Bil Aelod yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 28 Medi 2021 -

 

·         Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol (45 munud) - Gohiriwyd

Dydd Mawrth 5 Hydref 2021 -

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (45 mun)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y Stori Hyd yma’ (45 munud)

·         Dadl: Datganoli Pwerau Trethu Newydd (60 munud)

 

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i’r Trefnydd drefnu cyfle i’r Aelodau drafod cyflwyno pasys COVID a gofynnwyd pa mor aml y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud datganiadau ar COVID yn y dyfodol. Dywedodd y Trefnydd y byddai’n ymgynghori â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y materion hyn.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 13 Hydref –

 

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau - Dewis cynnig ar gyfer dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 29 Medi:

NNDM7773 Luke Fletcher

Rhun ap Iorwerth

Paul Davies

Janet Finch-Saunders

Jenny Rathbone

Jack Sargeant

Delyth Jewell

Altaf Hussain

Jane Dodds

Rhys ab Owen

Peredur Owen Griffiths

Mabon ap Gwynfor

Sioned A Williams

Gareth L Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) effaith sylweddol pandemig COVID-19 ar bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru a phobl y mae dementia yn effeithio arnynt;

b) pwysigrwydd gofalwyr di-dâl o ran sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gallu gweithredu yn ystod y pandemig.

2.  Yn nodi ymhellach yr angen am ddiagnosis cywir o ddementia i ganiatáu i ofalwyr di-dâl, y systemau iechyd a gofal cymdeithasol a chyrff a darparwyr gwasanaethau eraill gynllunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gywir, fel y nodir yn y cynllun gweithredu cenedlaethol ar ddementia.

3.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ariannu ymchwil i ddatblygu dulliau diagnostig cywir i sicrhau bod pobl sy'n cael diagnosis o ddementia yn gallu cael y cymorth cywir ar unwaith ar ôl cael diagnosis;

b) ariannu cymorth ôl-ddiagnostig ar gyfer pob math o ddementia ledled Cymru;

c) sefydlu arsyllfa ddata dementia genedlaethol i sicrhau cywirdeb mewn data dementia a chasglu, dadansoddi a lledaenu data ar ddementia i bob darparwr gwasanaeth sy'n dymuno cael gafael ar ddata i helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau dementia ledled Cymru.

Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia 2018-22

 

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu’r ddadl ar y ddeiseb.

 

 

4.2

Ceisiadau o ran amserlen pwyllgorau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes geisiadau o ran amserlen gan nifer o bwyllgorau ac effaith yr Agoriad Swyddogol ar fusnes y Senedd. Nododd y llythyrau gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, a chytunodd ar y camau gweithredu canlynol:

 

·         Pwyllgor Cyllid – cyfarfodydd ychwanegol fore dydd Gwener 8 Hydref, bore dydd Llun 18 Hydref, bore dydd Gwener 19 Tachwedd a bore dydd Mercher 22 Rhagfyr;

·         Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg - cyfarfodydd ychwanegol fore dydd Llun 18 Hydref a naill ai bore dydd Llun 13 Rhagfyr neu ddydd Gwener 17 Rhagfyr (bore a/neu brynhawn);

·         Pwyllgor y Llywydd – cyfarfod ychwanegol fore dydd Llun 11 Hydref;

·         Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol – cyfarfod ychwanegol fore dydd Mercher 20 Hydref;

·         Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith – slot cyfarfod amgen fore dydd Mercher 20 Hydref;

·         Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig – slot cyfarfod amgen brynhawn dydd Llun 18 Hydref neu ddydd Gwener 22 Hydref (bore a/neu brynhawn);

·         Pwyllgor Safonau – hyblygrwydd i gwrdd fore dydd Mawrth os oes angen gwneud hynny er mwyn ystyried cwyn; a

·         Pwyllgor Deisebau - gofyn am symud yn barhaol o slot fore Llun i slot brynhawn Llun.

 

4.3

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ei ymateb i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i nodi ei ddull o fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd. 

 

 

5.

Sefydlu pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl

5.1

Pwyllgorau'r Chweched Senedd - Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r chwe aelod yn cynnwys cadeiryddion pwyllgorau, i’w henwebu gan y grwpiau (3 Llafur, 2 o’r Ceidwadwyr ac 1 Plaid Cymru). Byddai’r Rheolwyr Busnes yn trafod cynigion ar gyfer aelodau dirprwyol y pwyllgor gyda’u grwpiau, ac yn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

 

6.

Dyddiadau’r toriadau

6.1

Dyddiadau ar gyfer toriadau'r Senedd 2021 - 2022

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig yn 2021, yn ogystal â hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg yn 2022, a chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf yn 2022.

 

 

Unrhyw fater arall

Trefniadau’r Agoriad Swyddogol

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer yr agoriad swyddogol a chytunodd i roi adborth ar ôl ymgynghori â'u grwpiau.