Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl

2.1

Pwyllgorau'r Chweched Senedd - cylchoedd gorchwyl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar deitlau a chylchoedd gorchwyl y pwyllgorau, a chytunodd i wneud cynigion i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn yfory. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog a Pwyllgor y Llywydd yn ddiweddarach.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wneud cynnig yfory ar gyfer dyrannu cadeiryddion rhwng grwpiau gwleidyddol.

 

Y pwyllgorau sydd i'w sefydlu a dyrannu cadeiryddion yw fel a ganlyn:

 

·         Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;

·         Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Ceidwadwyr Cymreig;

·         Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Ceidwadwyr Cymreig;

·         Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Plaid Cymru;

·         Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Llafur;

·         Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Plaid Cymru;

·         Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Llafur;

·         Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;

·         Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;

·         Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Llafur

·         Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur;

·         Y Pwyllgor Deisebau - Llafur.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai fod gan bob pwyllgor polisi a deddfwriaeth chwe Aelod, a phob pwyllgor arbenigol bedwar, ar wahân i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a fydd â phump, fel y'u rhagnodir yn y Rheolau Sefydlog.

 

Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor y byddai enwebiadau ac etholiadau ar gyfer Cadeiryddion yn cael eu cynnal ddydd Mawrth nesaf, gyda'r bwriad o gytuno ar aelodaeth cynifer â phosibl o bwyllgorau sy'n weddill ddydd Mercher nesaf.

 

 

2.2

Pwyllgorau'r Chweched Senedd - Cyfrifoldebau Gweinidogol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried y papur dros nos a chadarnhau eu bod yn fodlon bod y cyfrifoldebau Gweinidogol i gyd yn dod o dan gylchoedd gorchwyl y pwyllgorau, fel sy'n ofynnol gan Reol Sefydlog 16.4(ii).

 

 

2.3

Pwyllgorau Chweched Senedd - adroddiad drafft

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i'r adroddiad gael ei ddiwygio yng ngoleuni'r trafodaethau heddiw, fel y gellid cytuno arno y tu allan i'r Pwyllgor a'i osod yfory.

 

 

3.

Comisiwn y Senedd

3.1

Comisiwn y Senedd

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y tri Aelod a gynigiwyd gan y grwpiau gwleidyddol fel Comisiynwyr y Senedd: Plaid Cymru – Rhun ap Iorwerth; Ceidwadwyr - Janet Finch-Saunders; Llafur - Ken Skates.

 

Cytunodd mwyafrif y Pwyllgor Busnes mai Joyce Watson fyddai'r aelod ychwanegol, roedd Darren Millar yn gwrthwynebu i'r pedwerydd aelod ddod o'r grŵp Llafur.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig i benodi Comisiynwyr y Senedd i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn yfory.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Y Gyllideb Atodol Gyntaf

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i roi blaenoriaeth i gytuno ar aelodaeth y Pwyllgor Cyllid er mwyn sicrhau y gall y Pwyllgor graffu ar y gyllideb atodol.