Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu dau ddatganiad at agenda dydd Mawrth:

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Fforddiadwyedd, Ail Gartrefi a'r Gymraeg (45 munud)

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm – Y Camau Nesaf (45 munud)

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes hefyd at y ffaith mai hi fyddai'n ateb cwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos hon, a byddai'r datganiad ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn cael ei gyflwyno gan y Cwnsler Cyffredinol, yn absenoldeb y Prif Weinidog.

 

Dydd Mawrth

 

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.

Dydd Mercher  

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer gyntaf.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 13 Gorffennaf 2021

 

·         Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Confensiwn ar ein Dyfodol Cyfansoddiadol (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid  Hinsawdd: Coed a Phren (30 munud)

 

Dydd Mercher 14 Gorffennaf 2021

 

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Cynllun Rheoli Coronafeirws (45 munud)

Dydd Mawrth 14 Medi 2021

 

·                     Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd (145 munud) 

 

Cododd Darren Millar a Sian Gwenllian bryderon am gyhoeddiadau polisi sylweddol gan Lywodraeth Cymru sy'n cael eu gwneud i'r cyfryngau yn hytrach nag i'r Senedd.

 

Dywedodd y Llywydd mai ei barn hi ers tro oedd y dylai cyhoeddiadau polisi sylweddol gael eu gwneud yn y Cyfarfod Llawn, ac y byddai'n parhau i ddefnyddio ei disgresiwn i dderbyn Cwestiynau Amserol yn ymwneud â materion o'r fath. Diolchodd y Trefnydd i'r Rheolwyr Busnes am godi'r mater a chytunodd i gyflwyno eu pryderon i Weinidogion.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 22 Medi 2021 –

 

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Memoranda, a  chytunodd i gyfeirio'r Memorandwm ar Fil y Lluoedd Arfog at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 21 Hydref 2021.

 

 

4.2

Llythyrau gan Gadeiryddion Pwyllgorau ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i fynd i gyfarfod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 12 Gorffennaf, ac wedi cael cais i fynd i gyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith cyn toriad yr haf, ac y bydd yn ymateb maes o law.

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y ffaith bod y llywodraeth wedi ymestyn yr amser ar gyfer y ddadl ar y Memorandwm ar 14 Medi i 45 munud. Bydd y Gweinidog yn ymateb i argymhellion y pwyllgorau yn ystod y ddadl.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod y llywodraeth ar hyn o bryd yn aros am ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i gais i aildrefnu Trydydd Darlleniad yr Arglwyddi er mwyn rhoi mwy o amser i gynnal gwaith craffu yn y Senedd.

 

 

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Femorandwm y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd.

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a allai fod yn dymuno gwahodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i fod yn bresennol, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 14 Hydref 2021. Gofynnodd y Pwyllgor am bapur i egluro ble y dylai cyfiawnder a phlismona gael eu cynnwys yng nghylchoedd gorchwyl y pwyllgorau.

 

 

5.

Trefniadau cyflwyno

5.1

Trefniadau cyflwyno yn ystod yr haf 2021

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod toriad yr haf a chytunodd ar y trefniadau arferol ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig.

 

 

6.

Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl

6.1

Sefydlu pwyllgorau: aelodaeth ac amserlen sy'n weddill

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyraniadau aelodaeth y pwyllgorau, gan gynnwys dyrannu lle i Jane Dodds ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen sy'n caniatáu i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyfarfod yn wythnosol, gyda phob pwyllgor arall yn cyfarfod bob pythefnos. Bydd rhai pwyllgorau hefyd yn cael y dewis o slot ychwanegol mewn rhai wythnosau penodol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y gallai'r Pwyllgor Cyllid gynnal cyfarfodydd ychwanegol at ddibenion craffu ar y gyllideb.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd ar amserlen y pwyllgorau ar gyfer wythnos olaf y tymor, gyda disgwyliad y byddai pwyllgorau'n cyfarfod yn gyfan gwbl rithiol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yfory.

 

 

6.2

Pwyllgorau'r Chweched Senedd: Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod gyda'u grwpiau a dychwelyd at y mater yng nghyfarfod yr wythnos nesaf. 

 

 

6.3

Pwyllgorau'r Chweched Senedd: Pwyllgor y Llywydd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mai'r Dirprwy Lywydd ddylai gadeirio Pwyllgor y Llywydd, ac i ychwanegu cynigion i sefydlu'r pwyllgor a chytuno ar ei aelodaeth i agenda dydd Mercher nesaf.

 

 

7.

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23

7.1

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid ynghylch amserlen y gyllideb a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod cyntaf ym mis Medi.

 

 

8.

Papurau i'w nodi

8.1

Llythyrau gan Andrew RT Davies AS a Paul Davies AS

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyrau, gyda'u cynnwys wedi'i drafod o dan eitem amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Gwaith gweithdrefnol

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd yr ysgrifenyddiaeth yn darparu papur ar ôl toriad yr haf ar ddull y Pwyllgor Busnes o weithredu ar gyfer adolygiad gweithdrefnol. Mynegodd y Llywydd yr hoffai i'r Pwyllgor gynnal sesiynau ychwanegol, yn gyhoeddus, er mwyn ystyried materion gweithdrefnol, o ystyried penderfyniad y Pwyllgor i beidio â chynnwys gweithdrefnau o fewn cylch gwaith pwyllgor arall.

 

Balot Aelod

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd yn cyhoeddi yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma y cynhelir balot gyntaf y Senedd hon ar gyfer Biliau Aelodau ar 22 Medi. Bydd gwybodaeth am y broses yn cael ei dosbarthu i'r Aelodau cyn diwedd y dydd.

 

Datganiadau llafar

 

Dywedodd y Trefnydd fod rhai Aelodau wedi bod yn dyfynnu o destun datganiadau llafar drafft a roddwyd iddynt o dan embargo, yn hytrach na'r datganiad fel y'i cyflwynwyd, ac nad oedd hyn yn briodol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i atgoffa eu Haelodau bod angen gwirio datganiadau yn erbyn y rhai a gyflwynir yn y Siambr.