Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Busnes yr wythnos hon

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu’r datganiadau canlynol:

 

Dydd Mawrth 15 Mehefin 2021

 

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu (60 munud)

Dydd Mercher 16 Mehefin 2021

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid  Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd (45 munud)

 

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm.

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm. 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddechrau Cyfarfod Llawn dydd Mercher am 12.30 ac i ohirio Dadl Fer Jack Sargeant tan ddydd Mercher nesaf.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol (45 munud)

 

Dydd Mawrth 29 Mehefin 2021

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Hybu Cydraddoldeb LGBTQ+ yng Nghymru (45 munud)

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 7 Gorffennaf 2021 –

 

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 23 Mehefin:

NDM7704 Huw Irranca–Davies (Ogwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod cytundeb gwasanaethau bysiau o fis Mawrth 2021 yn ymrwymo £37.2 miliwn o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

2. Yn nodi bod y cytundeb yn ymrwymo i ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan ddiwallu anghenion teithwyr yn well.

3. Yn nodi bod y cytundeb hefyd yn ceisio ailadeiladu nawdd ar ôl COVID-19, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau, fel y mae amodau'n caniatáu.

4. Yn nodi ymhellach y cyhoeddwyd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, sy'n cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys:

a) ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau;

b) datblygu deddfwriaeth bysiau newydd i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau lleol;

c) darparu gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector; a

d) sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi cynlluniau ac amserlenni manwl ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau ar wasanaethau bysiau yn Llwybr Newydd.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau lleol ledled Cymru ar y strategaeth ac wrth ail-lunio gwasanaethau bysiau i ddiwallu'r anghenion trafnidiaeth a nodwyd gan y cymunedau hynny.

Cytundeb Gwasanaeth Bysiau - Mawrth 2021

Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021

Cefnogwyr:

 

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Hefin David (Caerffili)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)

 

 

4.

Sefydlu Pwyllgorau a’u cylch gwaith

4.1

Pwyllgorau'r Chweched Senedd

Cofnodion:

Cylchoedd gorchwyl y Pwyllgorau

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod ymhellach gyda'u grwpiau.

 

 

5.

Comisiwn y Senedd

5.1

Comisiwn y Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod ymhellach gyda'u grwpiau.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Newid drosodd yn y Siambr

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i adael y Siambr yn gyflym, ac i'r rhai sy'n dod i mewn i beidio â gwneud hynny nes bod y gloch wedi'i chanu. Bydd hyn yn caniatáu i lanhawyr a staff TGCh weithio'n fwy effeithlon a diogel.

 

Cwestiynau ysgrifenedig

 

Cododd Siân Gwenllian y mater o ansawdd yr atebion ysgrifenedig a dderbynnir gan y llywodraeth, a gofynnodd iddo gael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes siarad â swyddogion yn unigol i ganfod beth yw’r trafferthion, er mwyn llywio papur ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol. 

 

Cwestiwn a Drosglwyddwyd

 

Cododd Darren Millar y mater o drosglwyddo cwestiwn Gareth Davies i'w ateb yn ysgrifenedig gan y llywodraeth, o Weinidog y Gymraeg ac Addysg i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn yn ymwneud ag addysg feddygol yn y gogledd, sydd ar hyn o bryd o fewn portffolio’r Gymraeg ac Addysg. Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth o'r farn bod hyn yn fater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o gofio bod datblygu addysg feddygol yn y gogledd yn gofyn am archwilio materion iechyd ehangach.