Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (12:45 - 12:50)

·       Papur 1: Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cofnodion:

  • Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
  • Nododd y Bwrdd farwolaeth drist Hefin David AS ym mis Awst.
  • Nododd y Bwrdd hefyd farwolaeth Syr George Reid ym mis Awst, a wasanaethodd fel cadeirydd cyntaf y Bwrdd tan 2013.
  • Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf

Cam gweithredu:

  • Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2025.

 

2.

Symleiddio a Drafftio'r Penderfyniad: Penodau 3 a 6 (12:50-13:30)

  • Papur 2: Symleiddio a Drafftio'r Penderfyniad: Penodau 3 a 6 (12:50-13:30)

Cofnodion:

§  Derbyniodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad thematig ynghylch symleiddio a thrafododd sut i roi mwy o eglurder i Aelodau a staff cymorth, lleihau dyblygu, a'r dull o gyfeirio at ganllawiau neu bolisïau Comisiwn y Senedd wrth ddrafftio'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd.

§  Nododd y Bwrdd y byddai angen ystyried yr adolygiad sydd ar ddod o’r Rheolau a’r Canllawiau ar gyfer Defnyddio Adnoddau’r Senedd, gan y gallai hyn effeithio ar y rheolau a’r cyfeiriadau sydd yn y Penderfyniad.

§  Adolygodd y Bwrdd Benodau drafft diwygiedig 3 a 6, a oedd yn adlewyrchu penderfyniadau polisi'r Bwrdd a wnaed ym mis Gorffennaf a'r arddull drafftio a gyflwynwyd drwy'r adolygiad symleiddio. Nododd y Bwrdd y bydd yn adolygu penodau pellach maes o law.

§  Trafododd y Bwrdd ei gynllun i gyhoeddi Penderfyniad llawn drafft ar gyfer y Seithfed Senedd i ymgynghori arno’n ddiweddarach yn yr hydref. Bydd y Bwrdd yn ceisio barn ar eglurder a dehongliad ei ddrafftio, yn hytrach na'r penderfyniadau polisi a wnaed ym mis Gorffennaf.

 

3.

Adolygiad staffio - Cyfnod 3 (13:30-14.15)

Papur 3 – Rôl y Bwrdd wrth osod y fframwaith cyflogaeth ar gyfer staff.

Cyflwyniad PowerPoint: Cyfnod 3 ar delerau ac amodau staff/rôl y Bwrdd yn y fframwaith Cyflogaeth.

Cofnodion:

§  Trafododd y Bwrdd ei rôl o ran ennu'r fframwaith cyflogaeth ar gyfer staff a gyflogir gan Aelodau o'r Senedd, gan gynnwys mandadu’r contract cyflogaeth a chanllawiau neu bolisïau penodol sy'n ymwneud â materion cyflogaeth.

§  Trafododd y Bwrdd amryw faterion staffio a nodwyd drwy ymgynghoriadau diweddar neu adborth gan grwpiau cynrychioliadol.

§  Cytunodd i geisio rhagor o wybodaeth, gyda'r bwriad o gytuno pa faterion staffio sydd angen eu trafod ymhellach yn y Seithfed Senedd.

 

4.

Papur Diweddaru ac Unrhyw fusnes arall (14:15)

  • Papur 4 – Papur diweddaru

Cofnodion:

§  Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amryw faterion sy'n berthnasol i'w waith a’i flaenraglen waith.

§  Trafododd y Bwrdd y posibilrwydd o ddarparu Llawlyfr i Aelodau’r Senedd.