Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynadledda C - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Daniel Hurford
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad gan y Cadeirydd (09:00 - 09:05) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin
Cofnodion: § Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. §
Cytunodd
y Bwrdd ar gofnodion cyfarfod 19 Mehefin. |
|
|
Y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Penderfyniadau (09:05 - 10:45) Papur 2 – Cynigion Rhan Un a Rhan Dau: Penderfyniadau Atodiad – Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb Cofnodion: §
Penderfynodd y Bwrdd weithredu ei holl gynigion, ar wahân
i un, fel y nodir yn ei ddogfennau ymgynghori Rhan Un a Rhan Dau, gyda rhai
diwygiadau. § Penderfynodd y Bwrdd
weithredu ei gynigion ar gyfer Tâl Aelodau. § Penderfynodd y Bwrdd
weithredu'r mwyafrif o'i gynigion ar gyfer Llety Dros Nos. Mae'r Bwrdd yn
awyddus i gytuno ar ei gynnig bod gan bob Aelod sydd â phrif breswylfa yn yr
Ardal Fewnol hawl i hawlio swm cyfwerth â’r hyn sy'n cyfateb i 6 noson o lety
dros nos, yn amodol ar y cynllun peilot parhaus. § Penderfynodd y Bwrdd
weithredu ei gynigion Teithio ar gyfer Staff Cymorth, ond roedd yn dymuno
ychwanegu eglurhad pellach mai dim ond ar gyfer teithio achlysurol i Dŷ
Hywel yw teithiau o'r fath ar gyfer staff sydd wedi'u lleoli mewn swyddfeydd
etholaethol. § Penderfynodd y Bwrdd
weithredu ei gynigion ar gyfer Swyddfa ac Ymgysylltu Etholaethol gyda gwelliant
bach ar gyfer Aelodau sy'n dychwelyd nad ydynt yn sefydlu swyddfa newydd. Bydd
yr holl Aelodau sy'n sefydlu swyddfa newydd yn gallu hawlio 'costau cychwyn
swyddfa' o hyd at £6,500; ond, bydd Aelodau sy'n dychwelyd sy'n cadw’u
swyddfeydd presennol yn gallu hawlio hyd at £2,500 o gostau 'adnewyddu'. §
Penderfynodd y Bwrdd weithredu ei gynigion ar gyfer Staff
Cymorth. §
Cytunodd y Bwrdd ar y cynigion ar gyfer newidiadau i
ddarpariaethau'r Penderfyniad ar ddisodli'r 'Lwfans Cymorth Pleidiau
Gwleidyddol' gyda 'Chymorth i Grwpiau’r Senedd'. Mae'r Bwrdd yn bwriadu egluro
mai'r rhagdybiaeth, fel nawr, yw y byddai Cymorth i Grwpiau yn cael ei
ddefnyddio yn bennaf i gyflogi staff gydag unrhyw arian yn weddill yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer cymorth allanol, cyfyngedig o ran amser, fel datblygu
polisi neu ymchwil. §
cytunodd y Bwrdd mai'r 'bloc adeiladu' fesul Aelod ar
gyfer y fformiwla ddosbarthu newydd fydd £60,000 o ddechrau'r Seithfed Senedd.
Nododd y Bwrdd adolygiad parhaus y Pwyllgor Busnes o Reolau Sefydlog, ond mae
wedi gwneud ei benderfyniad ar y rhagdybiaeth y bydd meintiau grwpiau yn y
Seithfed Senedd yn yr ystod is o opsiynau Pwyllgorau Senedd y Dydofol. §
cytunodd y Bwrdd i gyflwyno 'isafswm' cyllido ar gyfer
grwpiau a gynrychiolir mewn llywodraeth glymblaid, i gydnabod y gallai'r
'gostyngiad llywodraeth' a gymhwysir i'r fformiwla fesul Aelod effeithio ar
grwpiau clymblaid llai i'r graddau y byddai'n cyfyngu ar eu gallu i gyflogi
swyddog digonol i’r grŵp. Bydd yr isafswm yn seiliedig ar gyllideb o 3
gwaith y cyflogau uchaf o’r rolau uwch mewn swyddfa grŵp (Pennaeth Staff,
Uwch Gynghorydd a Band 1) a byddai'n berthnasol ar gyfer grwpiau o 18 Aelod neu
is. |
|
|
Y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Cyfathrebu (11:00 - 11:30) Papur 3 – Cynllun Cyfathrebu Papur 3a – Adroddiad Ymgynghori Rhan Dau Papur 3b – Crynodeb Drafft o’r Penderfyniad Papur 3c - Atodiad Drafft i'r Penderfyniad Cofnodion: § Cytunodd y Bwrdd i
gyhoeddi ei benderfyniadau mewn dau gam. §
Caiff penderfyniadau eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Gorffennaf
ar wefan y Bwrdd Taliadau Annibynnol drwy'r cyhoeddiadau canlynol; o
gohebiaeth i'r Aelodau a Chomisiwn y Senedd. o
Cyhoeddi adroddiad ymgynghori Rhan Dau. o
Crynodeb o’r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: o
Atodi penderfyniadau'r Bwrdd i'r Penderfyniad cyfredol. §
Caiff y Penderfyniad drafft llawn ei gyhoeddi ddiwedd yr
hydref, ar gyfer ymgynghori ar y drafftio, eglurder a dehongli. §
Cytunodd y Bwrdd y bydd rhagdybiaethau cyllidebol yn cael
eu cynnwys a'u cyhoeddi yng Nghyllideb ddrafft y Comisiwn ddiwedd mis Medi. §
Fodd bynnag, bydd cyflogau a chyllidebau unigol a
benderfynir gan y Bwrdd yn cael eu cyhoeddi yn y ddogfen Grynodeb ac atodiad
i'r Penderfyniad. |
|
|
Penderfyniad Eithriadol 2025-26 (11:30 - 11:50) Papur 4 – Adolygiad staffio Cofnodion: § Cytunodd y Bwrdd ar ei
gynnig y byddai'n darparu’r Aelodau â hyd at £1,275 i bob Aelod ar gyfer cyngor
allanol arbenigol (cyngor na ellir ei gael gan y Comisiwn) ar weithredu'r
adolygiad cyflog a graddio yn ystod 2025-26. §
Nododd y Bwrdd, gan ei fod eisoes wedi gwneud
penderfyniad ynghylch cymorth staffio ar gyfer 2025-26, bod angen penderfyniad
eithriadol ar y ddarpariaeth newydd hon. Caiff hyn ei osod ochr yn ochr â'r
atodiad newydd i'r Penderfyniad (fel uchod) erbyn diwedd mis Gorffennaf. |
|
|
Adroddiad Blynyddol Drafft 2024-25 (11:50 - 12:15) Papur 5 - Papur eglurhaol ar gyfer Adroddiad Blynyddol
Drafft 2024-25 Papur 5a – Adroddiad blynyddol drafft Papur 5b – Diweddariad ar adolygiad canol tymor Cofnodion: § Cytunodd y Bwrdd ar ei
Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024-25, a nododd ei fod wedi cwblhau ei gynllun gweithredu
ar gyfer yr Adolygiad Effeithiolrwydd Canol Tymor. Caiff yr Adroddiad Blynyddol
ei gyhoeddi ar wefan y Bwrdd erbyn diwedd mis Gorffennaf. Cam gweithredu: §
Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu
cyhoeddi a gosod yr Adroddiad Blynyddol. |
|
|
Cyllideb drafft y Bwrdd Taliadau - 2026-27 (12:45 - 13:15) Papur 6 – Cyllideb y Bwrdd 2026/27 Cofnodion: § Ystyriodd y Bwrdd y
gyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27 a chytuno bod y gyllideb derfynol, yn dilyn gwaith
pellach rhwng y tîm clercio a swyddogion Comisiwn y Senedd, yn cael ei
chymeradwyo gan y Cadeirydd a'i chyflwyno i Gomisiwn y Senedd i'w hystyried fel
rhan o'i broses gynllunio cyllidebol. |
|
|
Papur diweddaru (13:15-13:35) Papur 7 – Papur diweddaru Cofnodion: § Nododd y Bwrdd y
diweddariadau ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i'w waith a hefyd ei
flaenraglen waith. § Nododd
y Bwrdd ohebiaeth a ddaeth i law ac a anfonwyd ers y cyfarfod diwethaf. § Nododd
y Bwrdd ddiweddariadau ar y rhwymedi McCloud, a'r Grŵp Cynghori Polisi
newydd ar gyfer y Llawlyfr Staff Cymorth. |
|
|
Unrhyw fusnes arall (13:35) AOB |
PDF 290 KB