Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (09:00 - 09:05)

Papur 1 – Cofnodion y cyfarfod diwethaf

 

Cofnodion:

  • Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
  • Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin.

 

Camau i’w cymryd

 

  • Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2025.

 

2.

Ystyriaeth bellach o ymatebion ymgynghori Rhan 2 (09.05 - 10.00)

Papur 2 – Cynigion rhan dau ar gyfer y Seithfed Senedd

 

Cofnodion:

  • Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth bellach i nifer o gynigion mewn perthynas â Rhan 2 o’r ymgynghoriad yn dilyn ystyriaeth gychwynnol yng nghyfarfod 9 Mehefin. 
  • Cytunodd y Bwrdd i wneud penderfyniadau terfynol yn y cyfarfod ar 10 Gorffennaf gyda'r bwriad o gyhoeddi ei benderfyniadau yn yr haf.

 

3.

Cymorth i Grwpiau'r Senedd(10.00 - 11.00)

Papur 3 – Cynigion ar gyfer y Seithfed Senedd

 

Cofnodion:

·       Trafododd y Bwrdd y cynigion ar gyfer Cymorth i Grwpiau'r Senedd yng ngoleuni canlyniad Rhan 2 o’r ymgynghoriad a'r fframwaith cyflog a graddfeydd arfaethedig. Cytunwyd i ystyried y mater ymhellach yn y cyfarfod ar 10 Gorffennaf.

 

4.

Cyhoeddi'r Penderfyniad (11.15- 11.45)

Papur 4 – Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Cyhoeddi

 

Cofnodion:

·       Trafododd y Bwrdd ei ddull ar gyfer cyhoeddi ei benderfyniadau a’r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd.

·       Cytunwyd i ysgrifennu at y Llywydd yn nodi ei ddull dau gam arfaethedig o gyhoeddi ei benderfyniadau ar gyfer y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd yn yr haf a'r Penderfyniad drafft llawn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cytunodd y Bwrdd y dylid cyhoeddi ei benderfyniadau ar ffurf atodiad i'r Penderfyniad presennol, ochr yn ochr â dogfen Gryno ac adroddiad ar Ran 2 o’r ymgynghoriad. Bydd y Penderfyniad drafft llawn yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

·       Cytunodd y Bwrdd i drafod y mater ymhellach yn y cyfarfod ar 10 Gorffennaf gyda'r bwriad o wneud ei benderfyniadau terfynol ar gyfer y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd a chadarnhau ei drefniadau cyhoeddi terfynol.

 

5.

Unrhyw fater arall (11.45)