Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (09:00 - 09:05)

Papur X – Cofnodion cyfarfod mis Mawrth

 

Cofnodion:

  • Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau gan Jennifer Long.
  • Nododd y Cadeirydd y newidiadau staffio diweddar yn yr ysgrifenyddiaeth ac yn y tîm ehangach.
  • Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mawrth.

Camau i’w cymryd:

  • Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 a 13 Mawrth 2025.

 

2.

Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Rhan dau o'r ymgynghoriad(09:05-10:30)

Papur 2 – Ymatebion ymgynghoriad

Papur 2a - Cyflwyniad PowerPoint ar ymatebion i ran dau o’r ymgynghoriad

 

Cofnodion:

  • Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'r Ymgynghoriad ar Ran 2 o'r adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd, gan ganolbwyntio ar Dâl Aelodau, Cymorth Ychwanegol a Chymorth Staffio.
  • Cytunodd y Bwrdd i ystyried nifer o gynigion ymhellach yn y cyfarfod nesaf gyda'r bwriad o wneud penderfyniadau terfynol yng nghyfarfod mis Gorffennaf.

 

3.

Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: rhagdybiaethau cost (11:15-11:35)

Papur 3 – Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd – rhagdybiaethau cost

 

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd y rhagdybiaethau cost ar gyfer y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd a chytunodd i drafod y mater ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

4.

4. Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Cyhoeddi a symleiddio (11:35 - 11:50)

Papur 4 – Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Cyhoeddi a symleiddio

 

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd ei ddull ar gyfer cyhoeddi’r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd a chytunodd i drafod y mater ymhellach yn y cyfarfod nesaf.

5.

Papur diweddaru (11.50)

Papur 5 – Papur diweddaru

 

Cofnodion:

  • Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i'w waith a’i flaenraglen waith.