Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Daniel Hurford
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Diweddariad Economaidd(16:00 - 16:15) PowerPoint Rhagolygon
Economaidd Cofnodion: · Nododd y Bwrdd y cyflwyniad ar y rhagolygon economaidd cyfredol. |
|
|
Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2025-26 (16:15-17:30) Eitem 2 - Adolygiad
Blynyddol a Llythyr drafft ynghylch y Penderfyniad Eitem 2 - Ymatebion
i'r ymgynghoriad Cofnodion: · Nododd y
Bwrdd yr ymatebion i'r cynigion yn yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar
gyfer 2025-26. Cytunodd y Bwrdd ar ei newidiadau terfynol i'r Penderfyniad,
sydd i'w gyhoeddi ar 31 Mawrth 2025. · Cytunodd
y Bwrdd i lofnodi'r Penderfyniad diwygiedig ar gyfer 2025-26 a'i lythyr ar y
Penderfyniad y tu allan i'r cyfarfod. Cam gweithredu: · Yr
Ysgrifenyddiaeth i baratoi a dosbarthu’r Penderfyniad terfynol a llythyr y
Penderfyniad i'r Bwrdd. |
|
|
Cyflwyniad y Cadeirydd (9:00 - 9:05) Eitem 3 –
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Chwefror Cofnodion: · Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. · Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ym mis Chwefror. Cam gweithredu: · Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2025. |
|
|
Adolygiad Staffio (9:05 - 10:15) PowerPoint - Cynigion
ynghylch yr Adolygiad Staffio yn dilyn gwaith meincnodi gyda Beamans Cofnodion: ·
Cytunodd y Bwrdd ar ei gynigion terfynol ar gyfer yr
adolygiad o gyflogau a graddfeydd staff, a fydd yn cael eu cynnwys yn yr
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Ymgynghoriad Rhan Dau ·
Diolchodd y Bwrdd i Beamans am y gwaith ar yr adolygiad
hwn. |
|
|
Y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr (10:30 - 10:50) Eitem 5 - Diweddariad Cofnodion: · Cytunodd y Bwrdd ar newidiadau arfaethedig
ychwanegol i'r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr i'w cynnwys yn yr
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Ymgynghoriad Rhan Dau. |
|
|
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Rhan 1 o'r Ymgynghoriad (10.50 - 11.10) Eitem 6 – Adroddiad
drafft Cofnodion: ·
Cytunodd y Bwrdd ar ei Adroddiad drafft ar ymgynghoriad
Rhan Un, yn amodol ar ychydig o newidiadau bach. ·
Cytunodd y Bwrdd y byddai'r Adroddiad yn cael ei gyhoeddi
erbyn diwedd mis Mawrth, ochr yn ochr ag ymgynghoriad Rhan Dau. Byddai'r
Adroddiad yn amlinellu ei ddull arfaethedig o fwrw ymlaen â'r cynigion, a bydd
penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud yn dilyn yr adborth yn sgil
ymgynghoriad Rhan Dau. |
|
|
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Rhan 2 o'r Ymgynghoriad ( (11:10 - 11:40) Eitem 7 - yn
cynnwys papur Atodiad – dogfen
ymgynghori ddrafft Cofnodion: · Trafododd y Bwrdd ei gynigion terfynol ar
gyfer yr ymgynghoriad Rhan Dau a chytunodd arnynt, a bydd yr ymgynghoriad hwn
yn canolbwyntio ar: Gyflog a chymorth personol yr Aelodau; Swyddfa'r etholaeth
ac ymgysylltu ag etholwyr; a Chymorth staffio i’r Aelodau. |
|
|
Adolygiad Diwedd Tymor(12:10 - 12:30) Eitem 8 – Manyleb
Ddrafft Cofnodion: · Ystyriodd y Bwrdd ei ddull ar gyfer cynnal
yr adolygiad Diwedd Tymor a chymeradwyodd y fanyleb ddrafft ar gyfer yr
adolygiad. |
|
|
Cynllun Pensiwn yr Aelodau - Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (12:30 - 12:50) Eitem 9 – Papur
eglurhaol Cofnodion: · Adolygodd y Bwrdd y Memorandwm
Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Comisiwn, y Bwrdd a’r Bwrdd Pensiynau, sydd wedi'i
ddiweddaru i adlewyrchu penodi’r Gweinyddwr Trydydd Parti, a gofynion Cod
Ymarfer Cyffredinol y Rheoleiddiwr Pensiynau. |
|
|
Papur Diweddariad (12:50 - 13:00) Eitem 10 – Papur
diweddariad Cofnodion: · Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amryw
faterion sy'n berthnasol i'w waith a hefyd ei flaenraglen waith. |
|
|
Unrhyw fater arall (13:00) |
PDF 292 KB