Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (9:00 - 9:05)

Papur 1a – Cofnodion cyfarfod mis Tachwedd

Papur 1b – Cofnodion cyfarfod mis Rhagfyr

Cofnodion:

§  Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

§  Talodd y Cadeirydd deyrnged i Mike Redhouse yn dilyn ei farwolaeth a soniodd am ei amser gyda’r Bwrdd. Cytunodd y Bwrdd y bydd colled fawr ar ei ôl a nododd fod datganiad o deyrnged wedi'i bostio ar wefan y Bwrdd.

§  Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar ym mis Tachwedd a Rhagfyr.

Camau i’w cymryd:

§  Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd a 12 Rhagfyr 2024.

 

2.

Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Ymgynghoriad Rhan Un (9:05 - 9:45)

Papur 2 – Adolygiad o'r ymatebion i Ymgynghoriad Rhan Un

Cofnodion:

§  Ystyriodd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad Rhan Un ar gostau swyddfa, llety dros nos a chymorth i grwpiau gwleidyddol. Roedd y Bwrdd yn bwriadu bwrw ymlaen â'r mwyafrif o'i gynigion gwreiddiol, yn amodol ar benderfyniadau terfynol yn nhymor yr haf yn dilyn ei ymgynghoriad Rhan Dau.

Penderfyniad:

§  Cytunodd y Bwrdd y byddai adroddiad ôl-ymgynghoriad, yn crynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn amlinellu dull gweithredu arfaethedig y Bwrdd, yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth.

Camau i’w cymryd:

§    Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd ynghylch y cynigion ar gyfer trosglwyddo arian.

 

3.

Adolygiad Staffio (Beamans) (9:45 - 10:45)

Papur 3 – Papur Staffio  

Papur 3 – Atodiad A

Papur 3 – Atodiad B

Papur 3 – Atodiad C

Papur 3 – Atodiad D  

 

 

Cofnodion:

§    Rhoddodd Beamans gyflwyniad i’r Bwrdd, a chytunwyd ar y fframwaith dosbarthu Teuluoedd Swyddi drafft, yn amodol ar rai mân newidiadau. Roedd yr adborth cyffredinol gan Aelodau a staff cymorth yn ystod y cyfnod profi yn adeiladol ar y cyfan.

§    Ystyriodd y Bwrdd y dadansoddiad meincnodi cyflog cychwynnol o gyflogau staff cymorth yn ôl Beamans, a bydd hyn yn cael ei drafod ymhellach yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd i gael gwybodaeth wedi’i diweddaru a darparu safbwyntiau pellach cyn cyfarfod y Bwrdd ar 13 Mawrth, drwy gyfarfod ar-lein neu drwy e-bost.

Camau i’w cymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod ychwanegol os oes angen.

 

4.

Cyflog a Chefnogaeth Bersonol i'r Aelodau (11:30 - 12:15)

Papur 4a – Cyflogau’r Aelodau

Papur 4b – Teithio

 

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd amrywiaeth o gynigion ar gyfer ymgynghori ar gyflogau Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd, gan gynnwys lefel y cyflog, a meincnodi â rolau eraill, yr opsiynau mynegeio blynyddol a chyflogau deiliaid swyddi ychwanegol.

Penderfyniad:

§    Cynigion cyflog a chymorth yr Aelodau y cytunwyd arnynt i'w cynnwys yn ymgynghoriad Rhan Dau a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth.

 

5.

Cynllun Pensiwn Aelodau o'r Senedd (13:00 - 13:15)

Papur 5a – Rhwymedi McCloud ar gyfer Cynllun Pensiwn yr Aelodau

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd y sefyllfa ddiweddaraf o ran rhwymedi McCloud i Aelodau.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Bwrdd Pensiynau yn cadarnhau y byddai'n darparu hyd at £250 i'r Aelodau yr effeithir arnynt tuag at gostau cael cyngor ariannol annibynnol.

 

6.

Papur Diweddaru (13:15 - 13:30)

Papur 6 – Papur Diweddaru

Cofnodion:

§  Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amryw faterion sy'n berthnasol i'w waith a hefyd ei flaenraglen waith.

§  Nododd y Bwrdd fod archwiliad mewnol Comisiwn y Senedd o dreuliau Aelodau ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 yn cadarnhau bod lefel ‘sylweddol’ o sicrwydd. Bu'r Bwrdd yn trafod y cynnig archwilio mewnol i gryfhau'r polisi drwy nodi rhestr o wariant derbyniadwy.  

Penderfyniad:

  • Cytunodd y Bwrdd, yn unol â’i egwyddorion a’i amcan o symleiddio, nad oedd y Penderfyniad yn ei gofyn am gynnwys rhestr benodedig o eitemau gwariant derbyniadwy cymharol isel eu gwerth.  

Camau i’w cymryd:

§  Y Bwrdd i ymateb i'r Pwyllgor Busnes ynghylch yr ymgynghoriad ar ei adolygiad o'r pwyllgorau a chefnogaeth ddeddfwriaethol i Filiau Cyhoeddus a Biliau Aelodau.

§  Yr Ysgrifenyddiaeth i hysbysu’r Bwrdd pan fydd Comisiwn y Senedd wedi cymeradwyo penodiad aelodau newydd y Bwrdd.

 

7.

Unrhyw fater arall (13:30 - 13:45)

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd y bwriad i ddiwygio polisi preifatrwydd y Bwrdd.