Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Crynodeb o ymatebion i’r Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd: Ymgynghoriad Rhan Un (11.30 – 12.15) 

PowerPoint

 

Cofnodion:

§   Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd ymddiheuriadau gan Mike, Anna ac Angharad.

§  Nododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad Rhan Un hyd yn hyn a chytunodd i drafod materion yn ymwneud â rhai o'r cynigion yn fanylach yng nghyfarfod mis Chwefror.

 

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd i drafod ei gynigion ar gyfer Penderfyniad y Seithfed Senedd yng ngoleuni’r ymatebion i’r ymgynghoriad yng nghyfarfod mis Chwefror. 

 

2.

Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad 2025/26 – Drafft o Ddogfen yr Ymgynghoriad (12.15 – 12.30) 

Papur eglurhaol - Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad 2025/26

Atodiad A – Ymgynghoriad drafft

 

Cofnodion:

§  Cytunodd y Bwrdd ar destun drafft y llythyr ymgynghori a chytunodd y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi ar 8 Ionawr i redeg tan 19 Chwefror.

Cam i’w gymryd: 

§    Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi'r ddogfen ymgynghori, a'r ohebiaeth gysylltiedig yn barod i’w cyhoeddi.

§    Bydd Aelodau a'u staff yn cael gwybod am y cyhoeddiad a dyddiad cau yr ymgynghoriad, sef 19 Chwefror.

 

3.

Adolygiad Diwedd Tymor o effeithlonrwydd y Bwrdd: ystyried ymdriniaeth (12.30 – 13.15) 

PowerPoint

 

Cofnodion:

§  Bu'r Bwrdd yn trafod cwmpas ei adolygiad diwedd tymor a'r dull gweithredu a chytunodd i drafod manyleb a chylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad ym mis Chwefror.

 

4.

Gohebiaeth a Diweddariadau Llafar (13.15-13.30) 

Cofnodion:

§  Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth a ddaeth i law ers y cyfarfod diwethaf.