Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Daniel Hurford
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Dydd Mercher 27 Tachwedd
|
|
|
Adolygiad o Gyflog Aelodau (16.00 - 16.45) Papur 1 – Diweddariad Cofnodion: §
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. § Cafodd y Bwrdd adborth o drafodaethau’r Cadeirydd ag
Aelodau a rhanddeiliaid ar gyflogau’r Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd. § Bydd y Bwrdd yn trafod y materion hyn ymhellach yng
nghyfarfod y Bwrdd ym mis Chwefror. |
|
|
Cadeiryddion Pwyllgor sy'n Rhannu Swydd (llythyr gan y Pwyllgor Busnes) (16.45 - 17.00) Papur 2 – Papur
eglurhaol Atodiad A – Llythyr
gan y Pwyllgor Busnes Atodiad B – Ymateb
drafft i'r Pwyllgor Busnes Cofnodion: §
Trafododd y
Bwrdd ei ymateb i lythyr oddi wrth y Pwyllgor Busnes ynghylch ei ystyriaeth o
rannu swyddi Cadeiryddion Pwyllgorau. § Cytunodd y Bwrdd ar ei ymateb yn amodol ar fân newid. Penderfyniad: § Cytunodd y Bwrdd ar ei ymateb i’r Pwyllgor Busnes. |
|
|
Thursday 28 November |
|
|
Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.05) Papur 3 – Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref Cofnodion: § Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Penderfyniad: § Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2024. Cam i’w
gymryd: § Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17
Hydref 2024. |
|
|
Diweddariad Economaidd (9.05 - 9.30) PowerPoint Rhagolygon Economaidd Cofnodion: § Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am yr economi yn dilyn y newidiadau diweddaraf i gyfradd
sylfaenol Banc Lloegr a Chyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU. |
|
|
Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2025-26 (9.30 - 10.15) (9.30 - 10.15) Papur 4 – Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad ar Dâl a
Lwfansau’r Aelodau ar gyfer 2025-26 Cofnodion: § Trafododd y Bwrdd gyfres o gynigion ar yr ymgynghoriad sy’n rhan o’r
Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad ar gyfer 2025/26. Penderfyniad § Cytunodd y Bwrdd ar y cynigion i’w cynnwys yn
yr ymgynghoriad a bydd yn cytuno ar y ddogfen ymgynghori derfynol yn ei
gyfarfod ym mis Rhagfyr cyn cyhoeddi’r ymgynghoriad ar 8 Ionawr 2025. |
|
|
Darpariaethau Colli Swydd, Ailsefydlu a Diswyddo (10.15- 10.50) Papur 5 – Papur eglurhaol Papur 5.1 – Colli swydd Papur 5.2 – Diswyddo staff Papur 5.3 – Aelodau o'r Teulu Cofnodion: §
Bu’r Bwrdd yn trafod nifer o
faterion yn ymwneud ag adsefydlu a dirwyn materion i ben ar gyfer Aelodau a
thaliadau diswyddo staff cymorth ar ddiwedd y Chweched Senedd. §
Cytunodd
y Bwrdd i gynnwys y materion hyn yn yr ymgynghoriad ar yr Adolygiad Blynyddol
o’r Penderfyniad ar gyfer 2025/26. |
|
|
Mynegeio cyflogau Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd (11.00 - 11.20) Cyflwyniad
PowerPoint Cofnodion: § Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan y Gwasanaeth
Ymchwil ar opsiynau ar gyfer mynegeio cyflogau’r Aelodau a’r Staff ar gyfer y
Seithfed Senedd. |
|
|
Diweddariad ar yr adolygiad symleiddio (11.20 - 12.00) Papur 6 – Diweddariad ar yr adolygiad symleiddio Cofnodion: § Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am yr
adolygiad symleiddio, gan gynnwys dwy bennod ddrafft 'enghreifftiol'. § Cymeradwyodd y Bwrdd y gwaith a wnaed hyd yma
a’r penodau 'enghreifftiol' a ddarparwyd. § Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu, maes o law, at
y Prif Weithredwr ynghylch y dull arfaethedig o ymdrin â materion megis y
prosesau ar gyfer gwneud hawliad ac apelio. |
|
|
Adolygiad Staffio (Cam 2 a 3) (12.30 - 14.00) Papur 7 – Cyflwyniad gan Beamans ar y Fframwaith cyflogau a graddfeydd
drafft Papur 8 – Diweddariad ar adolygiad Papur 8 - Atodiad - Cyllideb
Staffio'r Aelod - Papur Tystiolaeth Cofnodion: § Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan Beamans ac
ystyriodd y fframwaith graddio Teuluoedd Swyddi drafft. § Nodwyd y byddai cynrychiolwyr o blith yr
Aelodau a staff yn profi’r fframwaith drafft ac y byddai’r Bwrdd yn trafod y
mater ymhellach yn gynnar yn 2025 cyn ymgynghori ar y fframwaith cyflogau a
graddfeydd newydd a lwfansau staffio yn y gwanwyn. Penderfyniad: § Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Prif
Weithredwr ynghylch yr amserlen weithredu. |
|
|
Papur diweddaru (14.00 - 14.15) Papur 9 – Papur diweddaru (gan gynnwys diweddariad ar
adroddiad y Gyllideb gan y tîm Cyllid a’r adolygiad chwarterol o gyllideb y
Bwrdd) Cofnodion: §
Nododd y
Bwrdd y diweddariadau ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i'w waith a’i
flaenraglen waith. |
PDF 293 KB