Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda C - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.05)

Papur 1 – Cofnodion y cyfarfod ar 26 Medi

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Myfyriodd y Cadeirydd ar y cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda'r Grwpiau Cynrychioliadol, y sesiynau Galw Heibio a gynhaliwyd â’r Aelodau, a’r cyfarfodydd a gynhaliwyd â’r Prif Weithredwr a’r Comisiwn.

 

Ar ddechrau’r cyfarfod, croesawodd y Cadeirydd Simon Hart, y Prif Swyddog Cyllid Dros Dro. Rhoddodd Simon y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am drafodaethau’r Comisiwn ar y gyllideb atodol.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2024.

 

Camau i’w cymryd:

 

Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2024.

 

2.

Ymgynghoriad yr Hydref: Ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer y Seithfed Senedd (9.05 - 11.00)

Papur 2 – Ymgynghoriad drafft

 

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd eiriad a dull gweithredu’r ymgynghoriad, a chytunodd ar y materion hyn. Bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar gynigion cychwynnol ynghylch y canlynol: llety dros nos, swyddfeydd etholaethol a chostau ymgysylltu, a chymorth i Grwpiau’r Senedd. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi ar 25 Hydref, a bydd yn dod i ben ar 6 Rhagfyr. 

 

Camau i’w cymryd:

 

Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi'r ymgynghoriad i'w gyhoeddi a'i ddosbarthu.

 

3.

Ystyriaeth Gychwynnol o Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2025-26 (11:15 - 12.00)

Rhagolwg Economaidd (PowerPoint)

Papur 3 – Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2025-26 

 

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad llafar gan Martin Jennings (Pennaeth Uned Craffu Ariannol y Tîm Ymchwil) ar yr hinsawdd economaidd bresennol a’r rhagolygon, gan gynnwys dyfarniadau cyflog yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Trafododd y Bwrdd y goblygiadau posibl i'r Penderfyniad.

 

Cytunodd y Bwrdd ar gwmpas yr adolygiad blynyddol ar gyfer 2025/26, a’i ddull gweithredu ar gyfer yr ymgynghoriad.

 

Penderfyniad

 

Cytunodd y Bwrdd ar gwmpas yr adolygiad, a bydd yn cynnal trafodaethau pellach ar y mater yn y cyfarfod ym mis Tachwedd.

 

4.

Gohebiaeth gan y Prif Weithredwr (12.00-12.15)

Papur 4 – Llythyr gan y Prif Weithredwr

Papur 4 - Atodiad

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd lythyr y Prif Weithredwr ynghylch y dehongliad o'r Penderfyniad. Roedd y Bwrdd yn cytuno â dehongliad y Comisiwn.

 

Penderfyniad:

 

Yr Ysgrifenyddiaeth i ddrafftio ymateb i'r Prif Weithredwr

 

5.

Tâl cydnabyddiaeth Cadeirydd y Pwyllgor (12.30 - 12.45)

Papur 5 – Pwyllgor Senedd yn y Dyfodol

 

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd y penderfyniad y mae’n ofynnol iddo ei wneud ar y cyflog ychwanegol sydd i'w dalu i Gadeirydd Pwyllgor Senedd y Dyfodol.

 

Nododd y Bwrdd fod Cadeirydd Pwyllgor Senedd y Dyfodol eisoes yn cael cyflog deiliad swydd ychwanegol, ac felly ni fydd yn cael ail gyflog ychwanegol. 

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Bwrdd y dylai Cadeirydd Pwyllgor Senedd y Dyfodol gael ei dalu ar y gyfradd uwch.

 

Cytunodd y Bwrdd i ystyried, cyn y Seithfed Senedd, y cyfraddau uwch ac is o gyflog ychwanegol a delir i Gadeiryddion y Pwyllgorau, sef y cyfraddau y darperir ar eu cyfer ar hyn o bryd yn y Penderfyniad.

 

Yr Ysgrifenyddiaeth i ddrafftio llythyr at y Llywydd, mewn perthynas â phenderfyniad y Bwrdd ynghylch talu’r gyfradd uwch i Gadeirydd Pwyllgor Senedd y Dyfodol.

 

 

6.

Diweddariad blynyddol gan Dîm Diogelwch y Senedd(12.45 - 13:00)

Papur 6 – Diweddariad

Cofnodion:

Nododd y Bwrdd y diweddariad a gafwyd gan dîm Diogelwch y Senedd.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Bwrdd i barhau i gael diweddariadau blynyddol gan y tîm Diogelwch.

 

7.

Papur diweddaru (13.45 - 13.15)

Papur 7 – Papur diweddaru (gan gynnwys diweddariad ar adroddiad y Gyllideb gan y tîm Cyllid a’r adolygiad chwarterol o gyllideb y Bwrdd)

 

Cofnodion:

Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i'w waith a’i flaenraglen waith.

 

Nododd y Bwrdd y gwaith a'r ymdrech a welwyd gan yr ysgrifenyddiaeth a'r tîm ehangach o ran hwyluso trafodaethau’r Bwrdd ar faterion, a nododd ei fod yn gwerthfawrogi hyn.

 

Camau i’w cymryd:

 

Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod terfynol y Bwrdd presennol ar 11 Medi 2025.

 

 

Unrhyw Fater Arall

 

Cadarnhaodd aelodau’r Bwrdd eu presenoldeb ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir ddydd Iau 28 Tachwedd 2024.

 

Roedd y Bwrdd am ddiolch i’r aelodau hynny o’r Ysgrifenyddiaeth sydd wedi gadael y tîm yn ddiweddar a diolch yn ffurfiol i Syr David Hanson, a ymddiswyddodd o'r Bwrdd yn ddiweddar.