Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.05)

Papur 1 – Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf

 

Cofnodion:

§    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

§    Nododd y Cadeirydd newidiadau staffio diweddar yn yr ysgrifenyddiaeth a'r tîm ehangach a rhannodd ei dirnadaeth o’i chyfarfod â'r Prif Weithredwr.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2024.

Camau i’w cymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2024.

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu i Simon Hart, Pennaeth Cyllid Dros Dro, i ddod i un o gyfarfodydd nesaf y Bwrdd neu i gyfarfod â'r Cadeirydd ar wahân.

 

2.

Adolygiadau Thematig: materion cyffredinol (9.05 - 9.45)

Papur 2.1 (PowerPoint) – Dull Trosglwyddo yn y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd

Papur 2.2 – Cymorth uniongyrchol i’r Aelodau gan y Comisiwn

 

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd y dull gweithredu ar gyfer trosglwyddo arian yn y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd, gan roi ystyriaeth i’r trefniadau presennol a dulliau Seneddau eraill y DU.

§    Hefyd, trafododd y Bwrdd ymateb y Comisiwn ynghylch cymorth uniongyrchol gan y Comisiwn i Aelodau. Cafodd y Bwrdd yr ymateb yn fuddiol iawn a thynnodd sylw at ehanger a dyfnder y cymorth a ddarperir gan y Comisiwn i'r Aelodau.

Penderfyniad:

§    Bu'r Bwrdd yn trafod trosglwyddiadau arian o fewn y Penderfyniad a meysydd posibl i'w hystyried yn ei ymgynghoriad yn yr hydref. Cytunodd y Bwrdd i gael rhagor o wybodaeth a thrafod ei ddull gweithredu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

3.

PPSA (9.45 - 10.45)

Papur 3 (PowerPoint) – Cynigion polisi i’w hystyried

 

Cofnodion:

§    Gwnaeth y Bwrdd ystyried a thrafod modelau ar gyfer dull diwygiedig o ddarparu Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ar gyfer y Seithfed Senedd, yn dilyn ei waith adolygu thematig diweddar, a’i ddull gweithredu ar gyfer ymgynghoriad yr hydref sydd i ddod.

Penderfyniad

§    Cytunodd y Bwrdd ar ei gynigion polisi allweddol ar gyfer ymgynghoriad yn yr hydref.

 

4.

Adolygiad Thematig o Daliadau i'r Aelodau - Gwariant ar lety preswyl (10.45 - 11.15)

Papur 4 (PowerPoint) – Cynigion gwariant ar lety preswyl diwygiedig (wedi’u llywio gan gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau)

 

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd opsiynau gwahanol a myfyriodd ar y cynnig cychwynnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau ar gyfer etholaethau ar gyfer y Seithfed Senedd.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd ar ei gynigion polisi allweddol ar gyfer ymgynghoriad yn yr hydref.

 

5.

Adolygiad Thematig o Ffyrdd o Weithio (11.30 - 12.00)

Papur 5 – Ystyriaeth derfynol o’r cynigion polisi ynghylch y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr

 

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd gynigion polisi ar gyfer y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr (OCLF) ac a oedd angen unrhyw newidiadau ar gyfer y Seithfed Senedd.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd ar ei gynigion polisi allweddol ar gyfer ymgynghoriad yn yr hydref.

§    Cytunodd y Bwrdd y byddai Hugh Widdis yn gweithredu fel arweinydd y Bwrdd ar gyfer gweddill yr adolygiad thematig hwn, yn dilyn ymddiswyddiad Syr David Hanson ym mis Gorffennaf.

 

6.

Ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer y Seithfed Senedd (12.00 - 12.30)

Papur 6 – Amlinelliad o’r dull ymgynghori, gan gynnwys pennod ymgynghori ddrafft ar y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr.

 

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd y dull gweithredu arfaethedig ar gyfer ymgynghori yn yr hydref ar y cynigion ar gyfer y Seithfed Senedd. Bydd y Bwrdd yn cymeradwyo’r ymgynghoriad yn ei gyfarfod ar 17 Hydref.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd ar ei gynigion ar gyfer ymgynghoriad yr hydref, gan ganolbwyntio ar y Gronfa Costau Swyddfa ac Ymgysylltu ag Etholwyr, Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol a Gwariant ar Lety Preswyl.

 

7.

Cyflogi aelodau o'r teulu gan Aelodau (12.30 - 12.45)

Papur 7 – Papur esboniadol a chyngor gan y gwasanaethau cyfreithiol

 

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd gyngor cyfreithiol ynghylch cyflogi aelodau o’r teulu gan Aelodau.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd i gael cyngor pellach ar y mater hwn.

 

8.

Papur diweddaru(12.45 - 13.00)

Papur 8 – Papur diweddaru (gan gynnwys diweddariad ar adroddiad y Gyllideb gan y tîm Cyllid a’r adolygiad chwarterol o gyllideb y Bwrdd)

 

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i'w waith a’i flaenraglen waith.

§    Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad ar recriwtio ar gyfer aelodau newydd y Bwrdd a gofynnodd am gopi o'r matrics sgiliau.

Camau i’w cymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod terfynol y Bwrdd presennol ar 11 Medi 2025.