Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.05)

Papur 1 – Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai

 

Cofnodion:

§    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymunodd Mike Redhouse, David Hanson, Hugh Widdis a Jane Roberts yn rhithwir.

§    Gofynnodd y Cadeirydd i Daniel Hurford roi diweddariad ar y gwelliant i Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a gyflwynwyd gan Adam Price AS ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 3  ar 2 Gorffennaf 2024. Tynnwyd y gwelliant yn ôl.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai 2024.

Cam i’w gymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai 2024.

 

2.

Adolygiad thematig o gymorth staffio (9.05 - 10.45)

Papur 2 – Ymatebion i’r ymgynghoriad Cam 2 a phenderfyniad terfynol ar yr opsiwn a ffefrir

Papur 3 – Cwmpasu Cam 3

 

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i Gam 2 yr ymgynghoriad Cymorth Staffio ac ystyriodd yr opsiynau ar gyfer y camau nesaf. Nodwyd hefyd y trafodaethau defnyddiol a gafwyd yn ystod cyfarfodydd Grŵp Cynrychiolwyr yr Aelodau au Staff Cymorth a gynhaliwyd ddydd Mercher 3 Gorffennaf.

§    Bu'r Bwrdd hefyd yn ystyried y materion y mae angen mynd i'r afael â hwy fel rhan o Gam 3 yr adolygiad thematig o Gymorth Staffio.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd i symud ymlaen i Gam 2 yr adolygiad thematig o Gymorth Staffio gyda'r opsiwn o deuluoedd swyddi.

§    Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi crynodeb dienw o'r ymatebion i Gam 2 yr ymgynghoriad Cymorth Staffio.

§    Cytunodd y Bwrdd ar y dull amlinellol ar gyfer Cam 3 yr adolygiad staffio.

§    Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Prif Weithredwr i ofyn am ragor o wybodaeth am lefel y cymorth i'r Aelodau a ddarperir gan y Comisiwn.

Cam i’w gymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i ddrafftio gohebiaeth at holl ymatebwyr Cam 2 yr ymgynghoriad Cymorth Staffio.

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu cyhoeddi crynodeb dienw o'r ymatebion i Gam 2 yr ymgynghoriad Cymorth Staffio.

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i ddrafftio gohebiaeth i'r Prif Weithredwr ynghylch cymorth y Comisiwn a ddarperir i’r Aelodau.

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi papur ar ddarpariaethau trosglwyddiadau sy'n ymwneud â'r holl adolygiadau thematig perthnasol.

 

3.

Cyllideb Ddrafft y Bwrdd Taliadau 2025/26 (10.45 - 11.00)

Papur 4 – Cyllideb ddrafft 2025/26

 

 

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd y wybodaeth yn y papur ynghylch cyllideb ddrafft y Bwrdd ar gyfer 2025/26.

Penderfyniad

§    Cadarnhaodd y Bwrdd ei fod yn fodlon ar y gyllideb arfaethedig.

Cam i’w gymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i ddrafftio gohebiaeth i Gomisiwn y Senedd yn cyflwyno cyllideb y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar gyfer 2025/26.

 

4.

Adolygiad Thematig o Daliadau i Aelodau - Colli swydd(11.30 - 12.15)

Papur 5 – Colli swydd: ystyriaeth gychwynnol o’r cynigion polisi

 

 

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd y gwahanol opsiynau a nodwyd yn y papur a mynegodd farn ar y rhain.

§    Ystyriodd y Bwrdd yr effaith a'r canlyniadau anfwriadol yn ymwneud â'r gwahanol opsiynau a gofynnodd i waith pellach gael ei wneud o ran hyn ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi.

Cam i’w gymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i ofyn am gyngor gan y Gwasanaethau Cyfreithiol ynghylch geiriad perthnasol y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd.

 

5.

Adolygiad Thematig o Daliadau i Aelodau - Gwariant ar lety preswyl (12.15 - 13.00)

Papur 6 – Gwariant ar lety preswyl: ystyriaeth gychwynnol o’r cynigion polisi

 

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd yr opsiynau a nodwyd yn y papur ynghylch y newidiadau posibl i Wariant ar Lety Preswyl a chadarnhaodd gynlluniau ar gyfer ymgynghori.

Cam i’w gymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at y Prif Weithredwr ynghylch Strategaeth Gynaliadwyedd Comisiwn y Senedd.

 

6.

Diweddariad Economaidd (13.45 - 14.00)

Eitem lafar – Adroddiad wedi’i ddiweddaru ar y farchnad economaidd

 

 

Cofnodion:

§    Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan Martin Jennings ar yr hinsawdd economaidd bresennol a’r rhagolygon.

 

7.

Adolygiad Thematig - Ffyrdd o weithio (14.00 - 14.45)(14.00 - 14.45)

Papur 7 – Ystyriaeth gychwynnol o’r cynigion polisi mewn perthynas â’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr

 

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd y cynigion a nodwyd ynghylch y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr.

§    Nododd Syr David Hanson, arweinydd y Bwrdd ar gyfer yr adolygiad thematig hwn, yr hyn nad yw’n hysbys ar hyn o bryd ynghylch y Seithfed Senedd – cymorth y Comisiwn i’r Aelodau a’r ffiniau etholaethol newydd.

§    Nododd y Bwrdd yr elfennau o’r adolygiad thematig o ran Ffyrdd o Weithio a oedd i'w hystyried ochr yn ochr â'r adolygiad thematig o ran Symleiddio.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd ar y meysydd arfaethedig i'w cynnwys yn ei ymgynghoriad yn yr Hydref a chytunodd i ystyried materion pellach yn ei gyfarfod ym mis Medi.

 

8.

Papur diweddaru (14.45 - 15.00)

Papur 8 – Papur diweddaru

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i'w waith a hefyd ei flaenraglen waith.

§    Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth a ddaeth i law ac a gyhoeddwyd ers y cyfarfod diwethaf.

Cam i’w gymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i gysylltu â Chomisiwn y Senedd ynghylch dyddiad yn gynnar yn yr hydref ar gyfer y cyfarfod nesaf i ddatblygu deialog y Bwrdd/Comisiwn.

 

Unrhyw Fater Arall

§    Cadarnhaodd aelodau’r Bwrdd pwy fydd yn bresennol ar gyfer y cyfarfod nesaf sydd i’w gynnal ddydd Iau 26 Chwefror 2024.