Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda B - Ty_Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2024-25 - Llythyr y Penderfyniad Terfynol a'r Penderfyniad fel y'i diwygiwyd (16.30 - 17.00)

Papur 1 – Llythyr y penderfyniad terfynol

Papur 2 – Y Penderfyniad fel y’i diwygiwyd (fersiwn newidiadau wedi’u tracio)

Papur 3 – Y Penderfyniad fel y’i diwygiwyd (fersiwn glân)

Cofnodion:

§    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymunodd Mike Redhouse a David Hanson yn rhithwir.

§    Bu’r Bwrdd yn ystyried y cyfarfodydd cynharach a gynhaliwyd gyda'r Grwpiau Cynrychioliadol, sesiynau galw heibio i’r Aelodau a chyfarfodydd gyda'r Prif Weithredwr.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd ar y Penderfyniad diwygiedig ar gyfer 2023-24 a’r llythyr penderfyniad cysylltiedig, yn amodol ar rai diwygiadau fel y nodwyd yn y cyfarfod.

§    Cytunodd y Bwrdd hefyd i gyhoeddi fersiwn o'r Penderfyniad â newidiadau wedi’u tracio a chynnwys atodiad yn y llythyr penderfyniad yn nodi cyfanswm cyfraddau costau busnes a chyllidebau staffio'r Aelodau.

§    Nododd y Bwrdd yr amserlen ar gyfer cyhoeddi a chytunodd i anfon y llythyr penderfyniad at bawb a oedd wedi ymateb i'r ymgynghoriad.

Cam i’w gymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu i osod a chyhoeddi y Penderfyniad a’r llythyr penderfyniad cyn dechrau'r flwyddyn ariannol newydd. 

 

2.

Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.05)

Papur 4 – Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Chwefror

Cofnodion:

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Chwefror.

Cam i’w gymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Chwefror.

3.

Adolygiad Thematig a Chynllunio Penderfyniad Drafft (9.05 - 10.45)

Papur 5 – Adolygiad Thematig a Chynllunio Penderfyniad Drafft

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd y themâu sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â’i bum adolygiad thematig a thrafododd y camau nesaf ar gyfer cyflawni’r Penderfyniad ar gyfer Seithfed Senedd. Roedd y themâu yn cynnwys:

-      y cydbwysedd rhwng hyblygrwydd a rhagnodi yn y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd, gan sicrhau digon o ddisgresiwn a hyblygrwydd i Aelodau a darparu fframwaith cymesur o atebolrwydd a thryloywder;

-      y cydbwysedd o ran cefnogaeth unigol ac ar y cyd i Aelodau yn y Senedd nesaf; 

-      y cydbwysedd a’r berthynas rhwng adnoddau a chymorth a ddarperir i’r Aelodau drwy’r Penderfyniad a chan Gomisiwn y Senedd.

§    Bu'r Bwrdd hefyd yn adolygu amserlennu cyn y bwriedir cyhoeddi Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd yn haf 2025, gan nodi sawl her a chyfyngiad, gan gynnwys diwygio'r Senedd ac amserlen cyllideb y Comisiwn.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi ei Benderfyniad terfynol, gan nodi y dylid ei adolygu’n rheolaidd, ac fe wnaeth ailddatgan amcanion yr adolygiad thematig.

4.

Adroddiad Adolygiad Thematig Cyflog a Graddio Staff (11.00 - 12.30)

Papur 6 – Trafodaeth ar ganfyddiadau â Beamans ac adroddiad drafft

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd y cyflwyniad cryno a ddarparwyd gan Beamans, a derbyniodd ac thrafododd yr adroddiad drafft ar gyfer Cam 1 yr adolygiad thematig Cyflog a Graddio Staff.

Cam i’w gymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i ddarparu unrhyw sylwadau ar yr adroddiad drafft i Beamans.

§    Cytunodd y Bwrdd i drafod yr adroddiad terfynol, ei ymateb a’r opsiynau ar gyfer Cam 2 yr adolygiad thematig yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mai.

5.

Adolygiad Thematig Cyflog Aelodau (Ffrwd Waith Un: Cyflog yr Aelodau) (13.15 - 14.15)

Papur 7 – Manyleb ddrafft ar gyfer ffrwd waith 1

Cofnodion:

§    Nododd y Cadeirydd fod ymateb y Prif Weithredwr i'r ymgynghoriad wedi gofyn am gyfeirio'n benodol at y Comisiwn yn y cylch gorchwyl. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r newid hwn yn cael ei wneud a chytunwyd ar y cylch gorchwyl terfynol.

§    Trafododd y Bwrdd waith ymchwil cymharol ryngwladol yn ymwneud â chyflog Aelodau etholedig.

§    Trafododd y Bwrdd fanyleb amlinellol ar gyfer yr adolygiad thematig Cyflog yr Aelodau.

§    Nododd y Bwrdd yr ystyriaethau cydraddoldeb ar gyfer yr adolygiad thematig hwn.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd ar y cylch gorchwyl terfynol ar gyfer yr adolygiad thematig.

§    Cytunodd y Bwrdd i fwrw ymlaen â chaffael adolygiad o gyflog yr Aelodau i’w gynnal yn allanol, gyda'r fanyleb a'r broses derfynol yn cael eu goruchwylio gan y Cadeirydd gyda chefnogaeth yr Ysgrifenyddiaeth.

6.

Adolygiad Thematig - Diewddariad Ffyrdd o weithio (14.15 - 14.45)

Papur 8 – Diweddariad ac ystyried materion ar gyfer y Seithfed Senedd

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd y diweddariad ar yr adolygiad thematig ynghylch Ffyrdd o Weithio.

§    Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd y ddeialog arfaethedig rhwng y Comisiwn a'r Bwrdd mewn perthynas â'r adolygiad thematig hwn.

Penderfyniad

§    Cytunodd y Bwrdd ar y materion allweddol i'w harchwilio fel cam nesaf yr adolygiad thematig.

7.

Papur diweddaru (14.45 - 15.00)

Papur 9 – Papur diweddaru

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i'w waith a’i flaenraglen waith.

§    Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth a ddaeth i law ac a anfonwyd ers y cyfarfod diwethaf.

§    Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gyfarfodydd diweddar a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid.