Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martha Da Gamma Howells
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.10) Papur 1 – Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16
Mawrth Cofnodion: -
Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. -
Soniodd
y Cadeirydd yn fyr am gyfarfodydd cadarnhaol y Grŵp Cynrychiolwyr a’r
sesiynau galw heibio i'r Aelodau a gynhaliwyd ar 17 Mai. Dywedodd fod Grwpiau
Cynrychiolwyr yn gwerthfawrogi'r dull newydd o weithredu a'r wybodaeth
ychwanegol a gafwyd ymlaen llaw. -
Soniodd
y Cadeirydd am y cyfarfod rhwng cyrff taliadau’r pedair deddfwrfa yn y DU ar 26
Ebrill. Cytunodd y Bwrdd ei bod yn drafodaeth gychwynnol dda ac y byddai angen
trafodaethau ychwanegol, mwy strategol. Nododd y Cadeirydd ei bod yn bwysig i’r
timau Clercio hefyd rannu gwybodaeth â swyddogion cyfatebol. -
Estynnodd
y Cadeirydd longyfarchiadau i Craig Griffiths ar ei swydd newydd dros dro fel
Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau. -
Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth. -
Cyhoeddi
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai. |
|
Diweddariad ar Ddiwygio'r Senedd (9.10 - 9.40) Papur 2 – Diweddariad – Diwygio’r Senedd Cofnodion: -
Trafododd y Bwrdd y
wybodaeth ddiweddaraf a’r meysydd yr hoffai eu hystyried ymhellach fel rhan o’i
raglen waith strategol. -
Cytunodd y Cadeirydd i
ysgrifennu at y Llywydd i barhau â’r drafodaeth ar ddiwygio’r Senedd ac i rannu
rhestr o faterion a godwyd gan Aelodau sydd efallai’n gorgyffwrdd â
gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn Cam i’w gymryd: -
Yr Ysgrifenyddiaeth i ddrafftio llythyr gan y Bwrdd ar y
Llywydd. |
|
Rhaglen waith strategol (09.40 - 10.10) Papur 3 - Diweddariad ar y rhaglen waith strategol Papur 3a – Er gwybodaeth – Cyflwyniad Mawrth 2023 Cofnodion: -
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf a
chytunodd i rannu rhagor o wybodaeth am ei raglen waith ar wefan y Bwrdd
Taliadau. -
Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio Uwch
Ymchwilwyr, a byddai'r penodiad hwn yn helpu i sicrhau y gellid bwrw ymlaen â’r
rhaglen waith hon i gyd-fynd â'r amserlen arfaethedig. -
Roedd y Bwrdd yn
fodlon ar yr egwyddorion drafft a dull aelodau'r Bwrdd o arwain gwaith adolygu
thematig. -
Trafododd y Bwrdd y
dull o weithredu, y blaenoriaethau a'r amserlenni yng nghyd-destun y Rhaglen
Waith Strategol, gan nodi y byddai amseriad a natur yr ymgynghoriad yn bwysig. Camau i’w cymryd: -
Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio’r Rhaglen Waith Strategol
a’i chyhoeddi ar y wefan ar ôl i’r Bwrdd ei gymeradwyo. -
Cynnwys y cynlluniau ymgynghori arfaethedig ar gyfer y
rhaglen waith hon ym mhapur Cyfathrebu ac Ymgysylltu’r Bwrdd a gaiff ei
gyhoeddi fis Gorffennaf. |
|
Adolygiad staffio - Tâl a Graddio (10.10-11.10) Papur 4 – Papur blaen Papur 4a – Manyleb Drafft Cofnodion: -
Cytunodd y Bwrdd ar yr
amserlen adolygu. Bydd tystiolaeth gychwynnol yn cael ei rhannu â’r Bwrdd ym
mis Tachwedd 2023, i’w defnyddio i baratoi’r adolygiad blynyddol o’r
Penderfyniad ar gyfer 2024, ac yna cyhoeddir adroddiad terfynol ym mis Mawrth
2024. -
Trafodwyd rhan y Bwrdd
yn y broses o asesu a dyfarnu contractau a chytunwyd i Mike Redhouse neu'r
Cadeirydd ymgymryd â’r rôl hon. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud y tu allan
i’r cyfarfod. -
Cytunodd y Bwrdd ar
fanyleb y contract a'r meini prawf asesu, gyda phwysoliad perthnasol o 40% Cost
a 60% Ansawdd ac ar bwysoli ac is-feini prawf Ansawdd. -
Ystyriodd y Bwrdd y
trafodaethau a gynhaliwyd yng nghyfarfodydd Grŵp Cynrychiolwyr Staff
Cymorth ar 17 Mai. Trafodwyd sut roedd yn bwriadu ymgysylltu â’r Aelodau, staff
cymorth yr Aelodau a staff y grwpiau yn ystod y broses adolygu a chytunodd, fel
y trafodwyd yng nghyfarfodydd y grwpiau cynrychiolwyr, i gynnal cyfarfodydd
briffio anffurfiol dros yr haf ac ymgysylltu’n fwy manwl ym mis Medi. -
Yr Ysgrifenyddiaeth i ofyn am gadarnhad ynghylch yr aelod
o'r Bwrdd a fyddai’n rhan o'r broses o asesu a dyfarnu’r contract. -
Yr Ysgrifenyddiaeth i ymgysylltu â chynrychiolwyr yr
undebau llafur a rhoi’r wybodaeth berthnasol iddynt drwy gydol yr
adolygiad. |
|
Adolygiad symleiddio (11.20 - 11.40) Papur 5 – Diweddariad ar y gwaith symleiddio Cofnodion: -
Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf, yn enwedig y
gyd-ddibyniaeth ag adolygiadau thematig eraill a’r risgiau sy'n codi. Nododd y
Bwrdd mai mater i Gomisiwn y Senedd oedd system cyflogau a hawliadau’r tîm
Cymorth Busnes i’r Aelodau, ac y byddai’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau yn
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am unrhyw newidiadau arfaethedig i’r
system. -
Soniodd Hugh Widdis, arweinydd y Bwrdd mewn perthynas â’r
adolygiad hwn, am y trafodaethau adeiladol a gafodd gyda Phrif Weithredwr IPSA,
Ian Todd. -
Trafododd y Bwrdd yr
amserlen a awgrymwyd ar gyfer yr ymgynghoriad ynghylch yr adolygiad Symleiddio,
a chytunodd arni’n amodol ar fân newidiadau. Camau i’w cymryd: -
Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r amserlen i sicrhau na
fydd dim ymgynghori ym mis Awst, yn dilyn adborth gan y Grŵp
Cynrychiolwyr. -
Diwygio cylch gorchwyl yr adolygiad i ddangos cwmpas y
gwaith y cytunwyd arno’n glir. |
|
Recriwtio Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau (11.40 - 12.00) Papur 6 – Cynllun recriwtio arfaethedig Cofnodion: -
Trafododd y Bwrdd y dull y cytunwyd arno i recriwtio
Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau a chytunodd i fwrw ymlaen â’r broses
recriwtio. -
Cytunodd y Bwrdd y dylid gofyn
i ymgeiswyr gynnwys manylion eu ffi arfaethedig, a
dweud a fyddent yn dymuno gosod eu hamodau a’u telerau penodi eu hunain mewn
perthynas â’r rôl, ac y byddai hyn yn cael ei ystyried yng nghyd-destun y
gwerth am arian y byddai pob unigolyn yn ei gynnig yn y rôl o ran eu
gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad.
Cytunodd y Bwrdd y byddai cyfreithwyr y Bwrdd yn adolygu'r amodau a’r
telerau y byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn eu cynnig i sicrhau eu bod yn
dderbyniol. -
Cytunodd y Bwrdd i
enwebu naill ai’r Cadeirydd neu Mike Redhouse fel yr aelod o’r Bwrdd Taliadau a
fyddai’n ymuno â’r panel recriwtio.
Cytunodd y Bwrdd y dylai’r trydydd aelod o’r panel, ochr yn ochr â’r
Pennaeth Pensiynau, fod yn uwch aelod o staff yr adran Adnoddau Dynol, yn unol
â’r broses recriwtio flaenorol ar gyfer swydd y Cadeirydd. Camau i’w cymryd: -
Yr Ysgrifenyddiaeth i ofyn am gadarnhad ynghylch yr aelod
o'r Bwrdd a fyddai’n ymuno â’r panel recriwtio.
-
Y Pennaeth Pensiynau i gysylltu â'r Prif Swyddog Pobl
Dros Dro i enwebu Uwch Swyddog Adnoddau Dynol i ymuno â'r panel recriwtio a
chynghori'r ysgrifenyddiaeth. -
Y wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio aelodau o’r Bwrdd ym
mis Gorffennaf. |
|
Trafodaeth - Adroddiad Blynyddol 2022-23 (12.00-12.30) Papur 7 – Papur blaen Papur 7a – Drafft o naratif yr Adroddiad Blynyddol Cofnodion: -
Cytunodd y Bwrdd ar
gynnwys drafft yr adroddiad ac awgrymodd rhai eitemau ychwanegol i’w
cynnwys. Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo'r
adroddiad yn ffurfiol y tu allan i'r cyfarfod er mwyn ei gyhoeddi ym mis
Gorffennaf. -
Cytunodd y Bwrdd ar
ffurf newydd yr adroddiad - byddai’n cael ei drefnu o dan bob un o’r amcanion
strategol y cytunwyd arnynt ar gyfer y Chweched Senedd, gan adlewyrchu ei
ymrwymiad yn yr Adolygiad o Effeithiolrwydd Canol Tymor i gyflwyno adroddiad ar
sail ei raglen waith strategol. -
Cytunodd y Bwrdd ar ei
waith cyfathrebu ac ymgysylltu i hyrwyddo’r adroddiad, gan gytuno i gynnal
digwyddiad ar gyfer yr Aelodau a’u Staff Cymorth i roi cyfle iddynt roi
sylwadau ar adroddiad blynyddol y Bwrdd,
a chytunodd ar ei raglen waith strategol ac i ystyried gwaith y Bwrdd am
weddill ei dymor. Camau i’w cymryd: -
Yr Ysgrifenyddiaeth i gylchredeg drafft diwygiedig i'r
Bwrdd er mwyn iddo’i gymeradwyo cyn diwedd mis Mehefin i baratoi i'w gyhoeddi
cyn y digwyddiad ymgysylltu ym mis Gorffennaf. -
Yr Ysgrifenyddiaeth i gwrdd â Phenaethiaid Staff i dynnu
sylw at y digwyddiad cyhoeddi rhithwir arfaethedig. |
|
Cynllun Ymateb i'r Adolygiad o Effeithiolrwydd (12.50-13.20) Papur 8 – Papur Blaen a Chynllun Ymateb Drafft Cofnodion: -
Nododd y Bwrdd y cynllun gweithredu, gan gynnwys
ymrwymiad i’w adolygu a chyhoeddi diweddariad bob blwyddyn, a chytunodd arno.
Yr Ysgrifenyddiaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y cynllun gweithredu
yng nghyfarfodydd y Bwrdd. -
Awgrymodd y Bwrdd newidiadau i’w ‘siarter’ a chytunodd
i’w gymeradwyo'n ffurfiol yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf ochr yn ochr â phapur
yn amlinellu dulliau’r Bwrdd o reoli risg. -
Cytunodd y Bwrdd y dylid adolygu’r ‘siarter’ yn ffurfiol
a’i chyhoeddi ar ddechrau tymor pob Bwrdd newydd. -
Cytunodd y Bwrdd ar amserlen y cynllun gweithredu. Camau i’w cymryd: -
Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio ‘siarter’ y Bwrdd yn dilyn
adborth ac i baratoi nodyn ar y dulliau o reoli risg erbyn cyfarfod y Bwrdd ym
mis Gorffennaf. -
Yr Ysgrifenyddiaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt
y gwaith ym mhob un o adroddiadau blynyddol y Bwrdd. |
|
Papur diweddaru (13.20-13.30) Papur 9 - Papur diweddaru Cofnodion: -
Nododd y Bwrdd y papur diweddaru a’r flaenraglen waith. -
Cytunodd y Bwrdd fod angen rhagor o wybodaeth am gylch
gorchwyl y Pwyllgor cyn penderfynu ar gyflog Cadeirydd newydd Pwyllgor Diben
Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad Covid-19. -
Cytunodd y Bwrdd i gwrdd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf
a mis Hydref 2023 ac ymrwymodd i ymweld â swyddfeydd yr Aelodau yn y
rhanbarthau yn ystod y flwyddyn nesaf. -
Yr Ysgrifenyddiaeth i ofyn am ragor o wybodaeth am y
Pwyllgor. -
Yr Ysgrifenyddiaeth i gynnwys cynlluniau ar gyfer
ymweliadau rhanbarthol yn y papur Cyfathrebu ac Ymgysylltu a gaiff ei gyhoeddi
fis Gorffennaf. 10 Unrhyw fater
arall -
Gofynnodd y Cadeirydd am y wybodaeth ddiweddaraf am yr
adolygiad o’r polisi Urddas a Pharch, gan nodi y bydd y Comisiwn yn ystyried yr
adolygiad yn ei gyfarfod nesaf ar 19 Mehefin. -
Nododd y Bwrdd fod y gallu i hawlio costau Treuliau
Eithriadol a gyflwynwyd yn ddiweddar wedi dod i ben ar 8 Mai. Camau i’w cymryd: -
Yr Ysgrifenyddiaeth i anfon dogfennaeth Urddas a Pharch
at y Cadeirydd fel aide memoire. - Y gwasanaeth
Ymchwil i ddiweddaru’r rhagolwg economaidd erbyn cyfarfod y Bwrdd ym mis
Gorffennaf. |