Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Huw Gapper 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (9:00 - 9:10)

Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr

Cofnodion:

-          Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

-          Croesawodd y Cadeirydd Daniel Hurford fel sylwedydd i’r cyfarfod. Bydd Daniel yn ymuno ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd ddiwedd mis Mawrth fel Clerc y Bwrdd, yn dilyn proses recriwtio a gynhaliwyd yr hydref diwethaf.

-          Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu llythyr o gydymdeimlad at y Prif Weinidog.

-          Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad byr ar ei chyfarfod diweddar gyda Phrif Weithredwr Comisiwn y Senedd, lle buont yn trafod y materion cyfredol sy’n cael eu hystyried gan y Bwrdd.

-          Nododd y Bwrdd fod IPSA yn arwain ar drefnu cyfarfod rhwng cyrff taliadau pedair deddfwrfa y DU. Nododd holl aelodau'r Bwrdd eu dymuniad i fynychu'r cyfarfod hwn, yn amodol ar argaeledd.

-          Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr.

2.

Ffyrdd o Weithio (09:10-10:10)

Cyflwyniad ar ganfyddiadau ymarfer ymgysylltu'r Aelodau

 

Papur 2- Trafodaeth ar y camau nesaf ar gyfer cam 2 a cham 3 o'r adolygiad, gydag amserlen

 

Cofnodion:

-          Croesawodd y Bwrdd Joanna Adams, Pennaeth Cyswllt Aelodau, i'r cyfarfod a diolchodd iddi am ei gwaith yn trefnu'r cyfweliadau diweddar â’r Aelodau i drafod eu hoff ffyrdd o weithio. Rhoddodd Siwan Davies y newyddion diweddaraf i'r Bwrdd am ymateb y Comisiwn i'r themâu sy'n codi o'r gwaith hwn. Nodwyd bod y Comisiwn wedi cytuno i ymgysylltu a gweithio gyda’r Bwrdd, tra’n parchu’r cylchoedd gwaith priodol, i adolygu’r gefnogaeth i ffyrdd Aelodau o weithio yn y Seithfed Senedd, fel rhan o’i waith cynllunio ar gyfer Diwygio’r Senedd. Bydd ymateb ffurfiol gan y Comisiwn i lythyr y Bwrdd ynghylch sefydlu deialog yn ymwneud â chynllunio ar gyfer y Seithfed Senedd, yn dilyn.

-          Nododd y Bwrdd y cyflwyniad ar themâu a gododd o'r gwaith ymgysylltu â’r Aelodau. Bydd y Bwrdd nawr yn ystyried pa newidiadau i lwfansau sydd eu hangen i gael gwared ar rwystrau i gefnogi amrywiol ffyrdd yr Aelodau o weithio yn ystod gweddill tymor y Chweched Senedd. Ar yr un pryd, bydd y Bwrdd yn ymgysylltu â'r Comisiwn i ystyried sut y gall y Bwrdd a'r Comisiwn gefnogi ffyrdd yr Aelodau o weithio yn y Seithfed Senedd, o fewn eu cylchoedd gwaith priodol.

3.

Adolygiad symleiddio (10:10-10:40)

Diweddariad llafar ar syniadau cychwynnol ar gyfer yr adolygiad symleiddio.

 

Cofnodion:

-          Rhannodd Hugh Widdis, arweinydd y Bwrdd ar yr adolygiad hwn, syniadau cychwynnol gyda'r Bwrdd ar gwmpas yr adolygiad hwn.

-          Nododd y Bwrdd fod yr opsiynau dan ystyriaeth yn cynnwys symleiddio geiriad y Penderfyniad yn unig neu adolygiad ehangach o'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer gwariant Aelodau.

-          Cytunodd y Bwrdd i drafod cwmpas yr adolygiad ymhellach yn ei gyfarfod ar 16 Mawrth.

4.

Adolygiad Canol Tymor o Effeithiolrwydd y Bwrdd (11:00-12:00)

Papur 3 – Adroddiad drafft ar yr Adolygiad Canol Tymor

 

 

Cofnodion:

-          Croesawodd y Bwrdd Gareth Watts i'r cyfarfod. Cyflwynodd Gareth ei adroddiad ar yr adolygiad ac argymhellion ar gyfer gwella.

-          Trafododd y Bwrdd bob argymhelliad yn ei dro a chytunwyd i ystyried ei ymateb terfynol i'r argymhellion yn ei gyfarfod ar 16 Mawrth. Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi ei ymateb i'r argymhellion ochr yn ochr ag adroddiad yr adolygiad, ym mis Ebrill.

-          Cytunodd y Bwrdd i rannu’r adroddiad â Phrif Weithredwr Comisiwn y Senedd gan fod rhai o’r argymhellion sy’n deillio o’r adolygiad yn berthnasol i’r Comisiwn.

5.

Polisïau cyflogaeth gorfodol y Bwrdd (12:30 - 13:15)

Papur 4 - Polisi Recriwtio

Cofnodion:

-          Croesawodd y Bwrdd Lowri Weatherburn (Uwch-bartner Busnes y Tîm Cymorth Busnes i Aelodau) i drafod newidiadau arfaethedig i'r polisi recriwtio, y cyfeirir ato yn y Penderfyniad.

-          Cytunodd y Bwrdd y dylid gwneud unrhyw newidiadau i'r polisi recriwtio yn unol â nod strategol y Bwrdd o symleiddio'r rheolau sy'n ymwneud â lwfansau Aelodau.

-          Bydd Hugh Widdis, fel aelod arweiniol y Bwrdd ar symleiddio, yn gweithio gyda swyddogion i ystyried ymhellach sut y gellid diweddaru'r polisi recriwtio i adlewyrchu newidiadau diweddar i'r Penderfyniad, y llawlyfr cyflogaeth a'r contract safonol ar gyfer Staff Cymorth yr Aelodau.

6.

Cynllun Cerbydau Trydan a Chynllun Pensiwn yr Aelodau (13:15-13:30)

Papur 5 – Cynlluniau Pensiwn yr Aelodau a Cherbydau Trydan (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

-          Cytunodd y Bwrdd mewn egwyddor i wneud newidiadau i Reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau i sicrhau na fydd cyfraniadau a buddion pensiwn yr Aelodau yn cael eu lleihau o ganlyniad i brynu car drwy Gynllun Aberthu Cyflog Cerbydau Trydan y Comisiwn. Mae'r Bwrdd wedi ysgrifennu at y Bwrdd Pensiynau i ofyn am ei farn ar y newid arfaethedig hwn i Reolau'r Cynllun Pensiwn.

-          Caiff yr Aelodau wybod am y newidiadau drwy gyhoeddiadau ar gyflwyno'r Cynllun Cerbydau Trydan.

7.

Diweddariad a'r Flaenraglen (13:30-13:45)

Papur 6 - Diweddariad a’r flaenraglen waith

 

 

Cofnodion:

-          Nododd y Bwrdd y papur a’r flaenraglen waith wedi’u diweddaru.

-          Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio i swyddi newydd yn Nhîm Clercio'r Bwrdd.

-          Nododd y Bwrdd lythyr gan Aelod a gyfeiriwyd at y Bwrdd a Phrif Weithredwr Comisiwn y Senedd a chytunwyd ar ei ymateb i'r llythyr.