Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Huw Gapper
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd (9.15 - 9.20) Papur 1 - Cofnodion o gyfarfod 10 Mawrth (yn cynnwys
materion yn codi) Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau
gan Hugh Widdis. 1.3
Nododd y Bwrdd fod
Llinos Madeley, Clerc y Bwrdd, wedi symud i swydd arall yng Nghomisiwn y
Senedd. Roedd y Bwrdd yn dymuno diolch i Llinos am ei gwaith caled ac am y
newidiadau cadarnhaol a wnaeth yn ystod ei chyfnod fel Clerc. Dymunodd y Bwrdd
y gorau i Llinos yn ei gyrfa at y dyfodol. 1.4
Soniodd y Bwrdd am gyfarfodydd
Grŵp y Cynrychiolwyr, ar gyfer Aelodau a Staff Cymorth, a gynhaliwyd y
diwrnod blaenorol. 1.5
Cytunodd y Bwrdd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth. Camau i’w cymryd: ·
Yr Ysgrifenyddiaeth i
baratoi llythyr diweddaru i’r Aelodau yn dilyn y cyfarfod a drafftio llythyr o
ddiolch i Llinos Madeley. ·
Cyhoeddi cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth. |
|
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Pensiynau (9.20 - 9.50) Papur 2 – Diweddariad ar Gynllun Pensiwn yr Aelodau Papur 2 (Atodiad) – Rheolau'r Cynllun fel y'u diwygiwyd Papur 3 – Cynllun pensiwn Staff Cymorth - cymariaethau Cofnodion: 2.1 Bu’r Bwrdd yn ystyried newidiadau i’r Rheolau ar Gynllun
Pensiwn yr Aelodau, a chytunwyd arnynt, i adlewyrchu dyfarniadau McCloud a Sargeant
ac i osgoi darpariaethau a allai fod yn wahaniaethol: 2.2
Cymeradwywyd y
newidiadau canlynol hefyd i adlewyrchu newidiadau i’r Rheolau y cytunwyd arnynt
yn flaenorol gan y Bwrdd: · diwygio Rheolau 30.3 a
30.4, sy’n ymwneud â chyfraniadau gan ddeiliaid swyddi sy’n cymryd rhan ac sy’n
aelodau o adran Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi’u Hailbrisio y Cynllun
(penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 15 Awst 2016); · nifer o newidiadau i
gydymffurfio â gofynion gwahaniaethu ar sail oedran mewn perthynas ag Aelodau
75 oed neu hŷn (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 19 Medi 2019); · diwygio’r Rheolau i
ganiatáu cyfnewid pensiwn afiechyd yn llawn am gyfandaliad arian parod mewn
achosion o ddisgwyliad oes byr o lai na 12 mis (penderfyniad y Bwrdd Taliadau
ar 21 Tachwedd 2019); · iaith wedi’i diweddaru
i adlewyrchu’r newidiadau enw a gyflwynwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau
(Cymru) 2020, er enghraifft Senedd Cymru yn hytrach na Chynulliad Cenedlaethol
Cymru (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 9 Gorffennaf 2020); · newid yr amserlen ar
gyfer prisiadau’r Cynllun o dan Reolau 19.2, i ganiatáu ar gyfer tarfu a
achosir gan COVID-19 (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 9 Gorffennaf 2020); a · diwygiadau i
adlewyrchu’r penderfyniad i newid y diffiniad o “partner” i gydymffurfio â
dyfarniad Brewster (penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar 30 Medi 2021). 2.3
Cytunodd y Bwrdd, yn
amodol ar wneud un cywiriad i ddileu iaith rhyw-benodol, y byddai'r rheolau
diwygiedig yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Pensiynau. 2.4
Ystyriodd y Bwrdd
gymhariaeth o gynllun pensiwn staff cymorth yr Aelodau â chynlluniau pensiwn
adrannau cyhoeddus a phreifat tebyg eraill, gan gynnwys cynllun pensiwn y
gwasanaeth sifil a’r cyfyngiadau cyfreithiol ynghylch pa weithwyr yn y sector
cyhoeddus a all ymuno â’r cynllun. 2.5
Cafodd y Bwrdd
wybodaeth am y cyfraniadau y mae’n ofynnol i gyflogeion eu gwneud, am y
cyfraniadau a wneir gan gyflogwyr, ac am y buddion a geir o dan wahanol
gynlluniau. 2.6
Cytunodd y Bwrdd fod y
cynllun pensiwn staff cymorth o werth tebyg i gynlluniau eraill a adolygwyd, ac
nid oedd yn ystyried bod angen gwneud newidiadau ar hyn o bryd. Camau i’w cymryd: Yr Ysgrifenyddiaeth i wneud y
canlynol: · Gwneud
trefniadau i’r newidiadau i Reolau Pensiynau yr Aelodau gael eu gwneud ac i'r
Cadeirydd gymeradwyo’r rheolau fel y’u diwygiwyd. · Cyflwyno
fersiwn derfynol o’r rheolau diwygiedig i’r Bwrdd Pensiynau. |
|
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o Effeithiolrwydd Canol Tymor y Bwrdd (9.50 - 10.20) Papur 4 - Papur cwmpasu Cofnodion: 3.1 Bu’r Bwrdd yn ystyried papur cwmpasu ar adolygiad canol
tymor o’i effeithiolrwydd fel y’i cyflwynwyd gan Bennaeth Llywodraethu a
Sicrwydd Comisiwn y Senedd, Gareth Watts. 3.2
Cymeradwywyd cwmpas
eang yr adolygiad fel y’i cynigiwyd. Cytunwyd y dylai cylch gorchwyl yr
adolygiad gynnwys cyfeiriad at y pandemig a’i effaith ar waith y Bwrdd. Dylai’r
adolygiad hefyd ystyried amlder ac effeithiolrwydd y cyfathrebu rhwng Cadeirydd
y Bwrdd a’r ysgrifenyddiaeth. Camau i’w cymryd: Y Pennaeth
Llywodraethu a Sicrwydd i: ·
Ddiwygio’r papur
cwmpasu i gynnwys yr ychwanegiadau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd a datblygu’r
papur yn gynllun ar gyfer yr adolygiad. ·
Cyflwyno’r cynllun
adolygu i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf i’w gymeradwyo. |
|
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Thematig - Ffyrdd o weithio (10.30 - 12.00) Cyflwyniad (Eitem lafar)- Rhaglen Comisiwn y Senedd - Ed Williams,
Cyfarwyddwr Adnoddau, Comisiwn y Senedd, Phil Boshier, Comisiwn y Senedd (45
munud); Papur 5 - Adolygiad Thematig y Bwrdd: papur paratoadol - cefndir, cwmpas a
chylch gorchwyl drafft (45 munud) Cofnodion: 4.1 Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan Ed Williams, Cyfarwyddwr
Adnoddau Comisiwn y Senedd, ar waith y Comisiwn mewn ymateb i newidiadau yn y
ffyrdd o weithio ymysg Aelodau a staff. 4.2
Darparodd y Bwrdd
adborth ar gwmpas adolygiad y Comisiwn o ffyrdd o weithio i’w ystyried gan y
Cyfarwyddwr Adnoddau a thrafodwyd goblygiadau’r newidiadau i ffyrdd o weithio
yr Aelodau a'u staff cymorth ar gyfer y Penderfyniad. 4.3
Cytunwyd y dylai’r
Bwrdd a Chomisiwn y Senedd gydweithio i ymgysylltu â’r Aelodau a’u staff er
mwyn deall yr hyn sydd orau ganddynt o ran ffyrdd o weithio yn y dyfodol, i
osgoi dyblygu, ac i wneud y defnydd gorau o adnoddau. Awgrymodd y Bwrdd y dylai
ymgysylltu o’r fath gynnwys yr hyn y mae Aelodau yn ei ffafrio o ran eu defnydd
o Dŷ Hywel yn ogystal â’r hyn maent yn ei ffafrio o ran gweithio yn eu
hetholaethau / rhanbarthau. 4.4
Awgrymodd y Bwrdd
newidiadau i bapur 5 - cylch gorchwyl ei adolygiad o ffyrdd o weithio, a
chytunwyd i dderbyn papur pellach ar yr adolygiad yn ei gyfarfod ym mis
Gorffennaf. |
|
Eitem i'w thrafod: Adolygiadau Senedd yr Alban (13:00 - 14:15) Cyflwyniad (eitem lafar) - Michelle Hegarty, Dirprwy Brif
Weithredwr, Mairi Pearson, Pennaeth Lwfansau a Lorna Foreman, Pennaeth Grŵp Pobl a
Diwylliant, Senedd yr Alban; Papur 6 - papur eglurhaol gyda chefndir i lywio'r sesiwn gyda'r Alban Cofnodion: 5.1 Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan swyddogion o Gorff
Corfforaethol Senedd yr Alban (SPCB) ar waith a wnaed ganddynt ar newidiadau i ffyrdd
o weithio ASAau a’u staff a hefyd ar y ddarpariaeth costau staff ar gyfer
ASAau. 5.2
Bu’r Bwrdd yn ystyried
pa agweddau ar y cymorth staffio i Aelodau o’r Senedd y gallai fod angen eu
hadolygu ar gyfer gweddill y Chweched Senedd a hefyd ar gyfer y Seithfed
Senedd. |
|
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Ystyried Treuliau Eithriadol (14.15 - 14.30) Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Bwrdd ar ei farn ar gais am Dreuliau
Eithriadol a bydd yn ysgrifennu at yr Aelod gyda chanlyniad penderfyniad y
Bwrdd. |
|
Eitem i'w thrafod: Papur diweddaru (14.30 - 15.15) Papur 7 - Papur diweddaru a'r flaenraglen waith Cofnodion: 7.1 Nododd y Bwrdd ddiweddariadau ar y canlynol: ·
yr adolygiad blynyddol
o’r Penderfyniad; ·
blaenraglen waith y
Bwrdd; ·
adnoddau'r Bwrdd; ·
rhaglen y Bwrdd ar gyfer
ymgysylltu ag Aelodau; ·
diwygio’r Senedd; ·
lwfans gweithio
gartref; ·
costau ynni; ·
gohebiaeth gan y Prif
Weithredwr a Chlerc (trefniadau diogelwch Aelodau a darpariaeth gofal plant); a ·
chyllid y Bwrdd. 7.2 Cytunodd y Bwrdd i drefnu ei gyfarfod ffurfiol nesaf
ar gyfer dydd Iau 7 Gorffennaf yng Nghaerdydd. |