Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Rhif | Eitem |
---|---|
Ystyriaeth gychwynnol o'r Cytundeb Cydweithio a'i oblygiadau Papur Briffio yn
Cynghori ar y Cytundeb Cydweithio - Papur 1; Cofnodion: 1.1 Ystyriodd y Bwrdd y Cytundeb Cydweithio rhwng
Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fel y’i cyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr 2021. 1.2 Nododd
y Bwrdd y datganiad a wnaed gan y Llywydd a’r farn gyfreithiol ar y cyd a
fynegwyd gan yr Arglwydd Pannick QC a Marlena Valles – barn a gyhoeddwyd gan y
Llywydd ar 7 Rhagfyr 2021. 1.3 Nododd
y Bwrdd, at ddibenion y Penderfyniad, nad yw Plaid Cymru yn cael ei hystyried
yn blaid sydd â chynrychiolaeth yn y Llywodraeth, ac felly nid oes angen gwneud
unrhyw newidiadau ar unwaith o ran arweinydd Plaid Cymru a’r cymorth sydd ar
gael i'r blaid drwy'r Penderfyniad. 1.4 Fodd
bynnag, nododd y Bwrdd y pwyntiau a ganlyn: -
mae'r Cytundeb Cydweithio yn drefniant gwleidyddol
newydd i'r Senedd; ac -
mae'r Bwrdd yn
parhau i feddu ar yr hawl i gynnig diwygiadau i'r Penderfyniad (yn
amodol ar broses ymgynghori) i newid lwfansau os bydd angen gwneud hynny yn
sgil y dystiolaeth. 1.5 Cytunodd
y Bwrdd y bydd angen rhagor o amser a gwybodaeth arno cyn y bydd yn gallu dod i
unrhyw gasgliadau ynghylch effaith y Cytundeb Cydweithio ar y darpariaethau yn
y Penderfyniad. 1.6 Ailadroddodd
y Bwrdd ei fwriad i adolygu’r lwfans cymorth i bleidiau gwleidyddol yn ystod
cyfnod y Senedd hon, a nododd y bydd ei drafodaethau ar oblygiadau'r Cytundeb
Cydweithio yn helpu i lywio'r gwaith hwnnw. 1.7 Ymrwymodd
y Bwrdd i ymgysylltu â phleidiau’r Senedd i lywio ei farn, ac i ysgrifennu at
Brif Swyddog Cyfrifo Llywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth mewn
perthynas â’r trefniadau sy’n cael eu rhoi ar waith ar gyfer y Cytundeb
Cydweithio. Camau i’w cymryd: Yr Ysgrifenyddiaeth i wneud y canlynol: -
rhaglennu amser i ystyried rhagor ar y Cytundeb
Cydweithio yn y flwyddyn newydd, gan gynnwys ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol
y Senedd; -
paratoi llythyr at Brif Swyddog Cyfrifo Llywodraeth
Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth o ran y trefniadau sy’n cael eu rhoi ar waith
ar gyfer y Cytundeb Cydweithio. |