Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Rhif | Eitem |
---|---|
Ystyried gohebiaeth mewn perthynas â dehongli adran 6.8.1 o'r Penderfyniad (prydlesu, is-osod a rhannu) ac adran 2.5 o'r Penderfyniad (cymorth o gronfeydd canolog yn ymwneud â'r pandemig Covid-19) Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 1.2
Nododd y Bwrdd ymddiheuriadau gan Jane
Roberts. 1.3
Ystyriodd y Bwrdd yr ohebiaeth gan y Prif Weithredwr
a'r Clerc yn gofyn am eglurhad gan y Bwrdd am ei ddisgwyliadau mewn perthynas â
dehongli adran 6.8.1, a materion cysylltiedig o dan adran 2.5 o'r Penderfyniad.
1.4
Trafododd y Bwrdd ei ddisgwyliadau a chytunodd
i ymateb i'r Prif Weithredwr a'r Clerc a rhoi amlinelliad ysgrifenedig fel y
nodir isod. 1.5
Cadarnhaodd y Bwrdd ei fwriad bod y gofynion
ym mharagraff 6.8.1 o'r Penderfyniad yn gymwys i bob cytundeb rhentu newydd a
phob cytundeb rhentu sy’n cael ei adnewyddu (ond nid adolygiadau rhent arferol
sy’n cael eu cynnal yn unol â chytundeb presennol). Nod y Bwrdd yw, gyda
threigl amser, y bydd yr holl gytundebau prydles/rhent sydd ar waith wedi bod
yn destun prisiad ac y bydd yr Aelodau wedi cael cyngor cyfreithiol ar
addasrwydd eu cytundeb. 1.6
Mewn perthynas â'r senarios ar gyfer Aelodau
sy'n dychwelyd a restrir yn llythyr y Prif Weithredwr, byddai'r Bwrdd yn
disgwyl i’r gofynion yn 6.8.1. (a) - (d) fod yn gymwys. 1.7
Roedd y Bwrdd yn fodlon ar ddehongliad y Prif
Weithredwr o'r darpariaethau a wnaed drwy’r Gronfa Covid, yn amodol ar yr
ystyriaethau a ganlyn: ·
Cytunodd y
Bwrdd, pan mae asesiad risg Covid yn dod i'r casgliad bod angen cymryd gofod
swyddfa ychwanegol: o
byddai'r
costau cyfreithiol a phrisio cysylltiedig o dan 6.8.1 yn cael eu talu o'r
Gronfa Covid (hynny yw, cronfeydd canolog o dan adran 2.5 o'r Penderfyniad); o
byddai angen
i'r asesiad risg hwn gael ei gynnal gan weithiwr proffesiynol iechyd a
diogelwch cymwys (y byddai'r gost hefyd yn cael ei thalu o'r Gronfa Covid) a
rhaid darparu copi o'r asesiad risg i’r gwasanaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau; o
byddai unrhyw
gostau rhent ychwanegol sy’n deillio o hynny hefyd yn cael eu talu o'r Gronfa
Covid am uchafswm o 2 flynedd o'r dyddiad y gwnaed y cytundeb rhentu (byddai
angen hawlio costau wedi hynny o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag
Etholwyr).
o
byddai angen
i'r asesiad risg gael ei gynnal gan weithiwr proffesiynol iechyd a diogelwch
cymwys (y byddai'r gost hon hefyd yn cael ei thalu o'r Gronfa Covid); o
bydd angen
darparu copi o’r asesiad risg i’r gwasanaeth Cymorth i’r Aelodau; o
bydd angen i’r
Aelod ddarparu datganiadau o’r canlynol i’r gwasanaeth Cymorth Busnes i’r
Aelodau;
bod y
newidiadau y maent yn bwriadu eu gwneud i'r swyddfa yn cael eu caniatáu o fewn
telerau'r brydles ac nad oes unrhyw gostau gwneud iawn (neu ddatganiad ynghylch
beth allai'r costau hynny fod yn y dyfodol);
bod y
newidiadau yn angenrheidiol ac mai dyna'r opsiwn rhesymol gorau i fynd i'r
afael â'r risg a darparu gwerth am arian, yn seiliedig ar yr asesiad risg.
|