Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Huw Gapper
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd (9.30 - 9.35) Cofnodion: -
Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. -
Rhoddodd y Cadeirydd y
wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiad posibl ar gyfer cyfarfod rhwng y cyrff sy'n
gyfrifol am bennu tâl yr Aelodau ar gyfer pedair deddfwrfa'r DU. Dywedodd pob
aelod o’r Bwrdd, ac eithrio un, y byddent ar gael i ddod i’r cyfarfod hwn. -
Dywedodd y Cadeirydd
fod llythyr wedi’i anfon at y Bwrdd Pensiynau i geisio’i farn am newidiadau
posibl i Reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau, i sicrhau na fydd cyfraniadau a
buddion pensiwn yr Aelodau yn gostwng os byddant yn prynu car drwy Gynllun
Aberthu Cyflog Cerbydau Trydan y Comisiwn. -
Cafodd aelodau’r Bwrdd
eu hatgoffa hefyd fod angen adolygiad cyffredinol o'r Rheolau i sicrhau eu bod
yn gyfredol, er enghraifft i sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir yn niwtral o ran
rhywedd. Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal yr adolygiad hwn ar yr un pryd ag y
caiff y Rheolau eu hadolygu mewn perthynas â'r Cynllun Cerbydau Trydan. -
Clywodd y Bwrdd y bydd
angen newid Rheolau'r Cynllun Pensiwn hefyd, o bosibl, mewn perthynas ag ymddeol yn hwyr. Bydd y
Bwrdd Pensiynau’n rhoi gwybodaeth i’r Bwrdd yn y cyswllt hwn. -
Cytunodd y Bwrdd mewn
egwyddor i roi cyfarwyddyd i’r Cyfreithwyr Allanol, Eversheds, wneud y
newidiadau perthnasol i Reolau'r Cynllun Pensiwn, gan ddibynnu ar y gost a
chyhyd ag y byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol. -
Cytunodd y Bwrdd i
ddirprwyo’r cyfrifoldeb am gytuno ar y newidiadau perthnasol i Reolau’r Cynllun
Pensiwn i Mike Redhouse (sef yr aelod arweiniol ar faterion pensiwn) a'r
Cadeirydd. -
Cytunwyd ar gofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror. |
|
Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023-24 - Trafodaeth gychwynnol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad (09.35 - 11.00) Cofnodion: -
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’r
ymgynghoriad ynghylch yr Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad, i lywio
penderfyniadau ynghylch y Penderfyniad ar gyfer 2023/23 a gaiff eu gwneud yng
nghyfarfod y Bwrdd ar 16 Mawrth. |
|
Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023-24 - Trafodaeth gychwynnol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad (11.15 - 12.00) |
|
Gohebiaeth i'w nodi (12.15 - 12.30) Cofnodion: |