Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Huw Gapper
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.15) Papur 1 –
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth Cofnodion:
Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Soniodd
y Cadeirydd yn gryno am gyfarfodydd cadarnhaol Grŵp y Cynrychiolwyr a gynhaliwyd ar 14
Mawrth.
Cytunodd
y Bwrdd i gynnal cyfarfodydd hybrid ym mis Mai a Gorffennaf.
Cadarnhaodd
y Cadeirydd ddyddiad ar gyfer cyfarfod rhwng cyrff taliadau pedair deddfwrfa'r
DU.
Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod ar 2 Mawrth.
Cyhoeddi
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth. |
|
Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad 2023-24 - ar ôl ymgynghori(9.15 - 10.00) Papur 2 –
Llythyr y penderfyniad drafft Papur 3 – Y
Penderfyniad Diwygiedig Cofnodion:
Cytunodd
y Bwrdd ar Benderfyniad diwygiedig 2023-24 a'r llythyr sy’n cyd-fynd ag ef, ar
yr amod y gwneir ychydig o newidiadau fel y’u nodwyd yn y cyfarfod.
Nododd
y Bwrdd yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r Penderfyniad a chytunodd i gyhoeddi
datganiad i'r wasg.
Diolchodd
y Bwrdd i'r swyddogion am eu gwaith ar yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad. Cam i’w gymryd:
Nodi
yn yr ymateb i Brif Weithredwr y Senedd mai mater i'r Comisiwn yn hytrach na'r
Bwrdd yw’r ymholiad a wnaed i’r Bwrdd gan Aelodau am gynyddu’r dyraniad o ran
darpariaeth TGCh.
Yr
ysgrifenyddiaeth i drefnu datganiad i'r wasg ynghyd â’r tîm cyfathrebu.
Yr
ysgrifenyddiaeth i drefnu bod llythyrau at bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar
yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad yn cael eu clirio gan y Cadeirydd. |
|
Adolygiad staffio (10.10 - 11.40) Gwahoddwyd Dr
Rebecca Mckee i siarad am ei gwaith ymchwil ar fframweithiau staffio mewn
deddfwrfeydd Papur 4 – Trafodaeth
ar y camau nesaf ar gyfer cam 2 a cham 3 o’r adolygiad, gydag amserlen. Cofnodion: Croesawodd y Bwrdd Dr Rebecca McKee i'r
cyfarfod. Cyflwynodd Rebecca ganfyddiadau ei hymchwil ar fframweithiau staffio
mewn gwahanol ddeddfwrfeydd. Roedd y prif feysydd trafod yn ymwneud â
strwythur staffio, swyddi cysylltiedig, trosiant staff, recriwtio a chadw. Cyflwynodd Mike Redhouse, sy’n arwain yr
adolygiad hwn ar ran y Bwrdd, bapur yn ystyried camau nesaf yr adolygiad
thematig o gymorth staffio.
Cytunodd
y Bwrdd ar gwmpas ac amcanion yr adolygiad o gyflog a graddfeydd a chytunodd i
gynnwys Staff Cymorth Grwpiau’r Pleidiau yn yr adolygiad. Un o flaenoriaethau
cychwynnol yr adolygiad yw sefydlu’r sefyllfa o ran y farchnad a’i chymharu â
deddfwrfeydd eraill a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.
Nododd
y Bwrdd wybodaeth ychwanegol a fyddai’n helpu i lywio’r adolygiad, megis
cyfraddau trosiant, cyfweliadau ymadael fel yr awgrymwyd yng nghyfarfodydd Grŵp y Cynrychiolwyr, a lefelau gwariant yr
Aelodau o’u
lwfans staffio.
Cytunodd
y Bwrdd i swyddogion baratoi manyleb ar gyfer y gwaith ochr yn ochr â Thîm
Caffael y Comisiwn.
Roedd
y Bwrdd yn cwestiynu’r ffigur a roddwyd fel sail ar gyfer Lwfans Cymorth Staffio’r
Aelodau yng ngwaith ymchwil Rebecca, sef 3.5 cyfwerth ag amser llawn. Y
swyddogion i holi Rebecca am hyn a chywiro’r ffigur os bydd angen.
Rhoi'r
wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani neu gyngor pellach i'r Bwrdd.
Diwygio’r
cwmpas, yr amcanion a'r wybodaeth sydd ei hangen, yn unol â’r hyn a nodwyd
uchod.
Cytunodd
y Bwrdd i rannu rhagor o wybodaeth â Grwpiau’r Cynrychiolwyr am yr adolygiad
sy'n cael ei gynnal. |
|
Adolygiad symleiddio (11.50 -12.20) Papur 5 – Camau nesaf gyda’r
adolygiad symleiddio Atodiad Papur 5 – Adroddiad Addas i’r
Diben, 2011 Cofnodion:
Cyflwynodd Hugh Widdis, sy’n arwain
yr adolygiad hwn ar ran y Bwrdd, y prif opsiynau strategol i'r Bwrdd.
Cytunodd y Bwrdd i fwrw ymlaen i flaenoriaethu lleihau
rheolaethau segur a chynnal adolygiad o’r ffordd y mae’r Penderfyniad wedi cael
ei ddrafftio.
Cytunodd y Bwrdd hefyd i ystyried unrhyw agweddau ar y
system hawliadau cyfan ehangach y mae angen ei hadolygu mewn dull cydweithredol
gyda'r Comisiwn.
Cytunodd y Bwrdd y byddai swyddogion yn llunio rhaglen o
weithgarwch ac ymgysylltu ar gyfer yr adolygiad, ac yn rhannu gwybodaeth â Bwrdd
Gweithredol Comisiwn y Senedd yn nodi'r amcanion ar gyfer yr adolygiad. |
|
Rhaglen waith strategol (13.40 - 15.00) Papur 6 – Rhaglen
waith strategol a chytunwyd ym mis Mawrth 2022 Trafodaeth – Diweddariad
ar raglen waith strategol, amserlenni a llwybrau critigol ar gyfer adolygiadau
y Bwrdd Cofnodion: Croesawodd y Bwrdd Dr Rebecca McKee i'r
cyfarfod. Cyflwynodd Rebecca ganfyddiadau ei hymchwil ar fframweithiau staffio
mewn gwahanol ddeddfwrfeydd. Roedd y prif feysydd trafod yn ymwneud â
strwythur staffio, swyddi cysylltiedig, trosiant staff, recriwtio a chadw. Cyflwynodd Mike Redhouse, sy’n arwain yr
adolygiad hwn ar ran y Bwrdd, bapur yn ystyried camau nesaf yr adolygiad
thematig o gymorth staffio.
Cytunodd
y Bwrdd ar gwmpas ac amcanion yr adolygiad o gyflog a graddfeydd a chytunodd i
gynnwys Staff Cymorth Grwpiau’r Pleidiau yn yr adolygiad. Un o flaenoriaethau
cychwynnol yr adolygiad yw sefydlu’r sefyllfa o ran y farchnad a’i chymharu â
deddfwrfeydd eraill a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.
Nododd
y Bwrdd wybodaeth ychwanegol a fyddai’n helpu i lywio’r adolygiad, megis
cyfraddau trosiant, cyfweliadau ymadael fel yr awgrymwyd yng nghyfarfodydd Grŵp y Cynrychiolwyr, a lefelau gwariant yr
Aelodau o’u lwfans staffio.
Cytunodd
y Bwrdd i swyddogion baratoi manyleb ar gyfer y gwaith ochr yn ochr â Thîm
Caffael y Comisiwn.
Roedd
y Bwrdd yn cwestiynu’r ffigur a roddwyd fel sail ar gyfer Lwfans Cymorth
Staffio’r Aelodau yng ngwaith ymchwil Rebecca, sef 3.5 cyfwerth ag amser llawn.
Y swyddogion i holi Rebecca am hyn a chywiro’r ffigur os bydd angen.
Rhoi'r
wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani neu gyngor pellach i'r Bwrdd.
Diwygio’r
cwmpas, yr amcanion a'r wybodaeth sydd ei hangen, yn unol â’r hyn a nodwyd
uchod.
Cytunodd
y Bwrdd i rannu rhagor o wybodaeth â Grwpiau’r Cynrychiolwyr am yr adolygiad
sy'n cael ei gynnal. |
|
Polisi recriwtio (15.00 - 15.15) Papur 7 – Papur
i’w nodi Cofnodion:
Cytunodd
y Bwrdd i newid y ddogfen o 'Bolisi Recriwtio' i 'Ganllawiau Recriwtio'. Nododd
y Bwrdd y Canllawiau Recriwtio Staff Cymorth diwygiedig.
Nododd
y Bwrdd newidiadau i'r canllawiau i adlewyrchu newidiadau diweddar i'r
Penderfyniad, y Llawlyfr Cyflogaeth a'r Contract Safonedig. Cam i’w
gymryd:
Gofynnodd
y Bwrdd am ddiweddariad unwaith y bydd y canllawiau diwygiedig wedi eu
cyhoeddi. |
|
Adolygiad effeithiolrwydd (15.25 - 15.45) Papur 8 – Ymateb
y Bwrdd i argymhelliadau yr adolygiad Atodiad Papur 8 –
Adroddiad Terfynol ar Effeithiolrwydd y Bwrdd, 2023 Cofnodion:
Cytunodd
y Bwrdd ar ei ymateb i'r adroddiad ar yr Adolygiad Canol Tymor o
Effeithiolrwydd, yn amodol ar y newidiadau terfynol.
Trafododd
y Bwrdd y drefn o ran cyflwyno a chyhoeddi'r adroddiad a'r ymateb iddo, a
chytunodd i gyhoeddi'r ddau, ar wahân, ond ar yr un pryd ym mis Ebrill. Cam i’w
gymryd:
Yr
ysgrifenyddiaeth i wneud newidiadau terfynol i'w cymeradwyo gan y Cadeirydd.
Cytunodd
y Bwrdd i e-bostio grwpiau cynrychioliadol i'w hysbysu yn fuan cyn cyhoeddi’r
adroddiad. |
|
Papur diweddaru (15.45 - 16.00) Papur 9 – Papur diweddariad Papur 10 – Llythyr gan y Pwyllgor
Safonau Ymddygiad Cofnodion:
Nododd
y Bwrdd y papur diweddaru a’r flaenraglen waith.
Nododd
y Bwrdd y diweddariad staffio a’r ffaith y byddai ymarfer recriwtio allanol yn
dechrau cyn bo hir i ganfod Uwch-ymchwilydd ar gyfer yr ysgrifenyddiaeth.
Nododd
y Bwrdd y diweddariad ar ddau Hawliad Treuliau Eithriadol a gyflwynwyd i'r
Bwrdd yn flaenorol. Roedd un wedi dod i ben erbyn hyn a chytunodd y Bwrdd i
adolygu'r llall ym mis Mehefin.
Nododd
y Bwrdd lythyr oddi wrth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch
y Rheolau ar gyfer Grwpiau Trawsbleidiol a chytunodd ar ymateb. Cam i’w gymryd:
Yr
ysgrifenyddiaeth i wirio a yw'r taliad untro o £600 wedi'i gynnwys yn rhagolwg
y Diweddariad Cyllid.
Yr
ysgrifenyddiaeth i gyfarfod â'r Cadeirydd i drafod yr agenda ar gyfer cyfarfod
mis Mai.
Cyhoeddi
ymateb i lythyr y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. |