Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Amseriad disgwyliedig: Preifat
Rhif | Eitem |
---|---|
Minutes of the meeting of the Expert Reference Group on Climate Change Cofnodion: Y Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar Newid yn yr
Hinsawdd Cofnodion y cyfarfod ar
22 Mai 2017 - Tŷ Hywel, Bae Caerdydd Camau gweithredu Tîm clercio’r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ddrafftio llythyr at Lywodraeth
Cymru, ar ran y Grŵp, i ofyn beth mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud
ynghylch newid hinsawdd. Tîm clercio’r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am friff technegol gan Bwyllgor Newid
Hinsawdd y DU ac i wahodd cynrychiolwyr i gyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio
Arbenigol ar Newid yn yr Hinsawdd (y Grŵp) yn y dyfodol. Tîm clercio’r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn i Lywodraeth Cymru pryd y mae’n
bwriadu cyhoeddi’r cyngor a gafwyd gan Bwyllgor y DU ar y newid hinsawdd. Tîm clercio’r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn i Lywodraeth Cymru am wybodaeth
am dargedau ansoddol. Aelodau’r grŵp i ddweud wrth y
Cadeirydd os ydynt am fod yn rhan o’r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer
data. Tîm clercio’r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ddosbarthu fframwaith/profforma i
helpu aelodau’r Grŵp i lunio cwestiynau. Aelodau’r
grŵp i gysylltu â’r Cadeirydd gyda phynciau a awgrymwyd a chwestiynau i’r
Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet yn sesiwn graffu’r Pwyllgor yn ddiweddarach eleni. Cyflwyniad ac ymddiheuriadau 1.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Martin Bishop, Mari Arthur, Steve Brooks, yr Athro
Gareth Wyn-Jones a’r Athro Calvin Jones Ethol y Cadeirydd 2.
Etholwyd Keith Jones (KJ) yn Gadeirydd y Grŵp. Cyflwynodd KJ ei hun
i’r Grŵp. Y wybodaeth
ddiweddaraf gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol 3.
Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan Eurgain Powell (EP) am waith Swyddfa’r
Comisiynydd. Canolbwyntiodd ar bedwar maes: - Pwrpas a blaenoriaethau
polisi Swyddfa’r Comisiynydd. - Gweithio gyda thîm
datgarboneiddio Llywodraeth Cymru. - Gwaith ar drafnidiaeth
a’r amgylchedd. - Gwaith ar asesiadau
llesiant. 4.
Cytunodd EP i ddarparu gwybodaeth bellach i’r Grŵp am nifer o
faterion. Darparwyd papur ar wahân i’r Grŵp. Trafod papur ar linellau amser a thargedau 5.
Cyflwynodd Jess McQuade (JM) a Haf Elgar (HE) bapur trafod. 6.
Soniodd JM am yr angen am gyd-ddealltwriaeth o bolisi Llywodraeth Cymru ac
ymrwymiadau ar y newid hinsawdd. Awgrymodd y gallai’r grŵp ddefnyddio’r
targedau a’r cerrig milltir yn y papur fel sail wrth gynllunio’r ffordd orau o
gefnogi’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig o ran craffu
ar Lywodraeth Cymru. 7.
Nodwyd bod cryn dipyn o’r polisi perthnasol heb gael ei ddatganoli a’i fod
yn gyfnewidiol ar lefel y DU. Dywedodd HE ei bod yn ymwneud â sut y mae Cymru
yn elwa yn y meysydd nas datganolwyd. Soniodd JM am y ffaith i gyhoeddiadau
gael eu gwneud am bolisïau/rhaglenni a chanddynt ddimensiwn newid hinsawdd, ond
nid oes pwynt canolog i gydgysylltu’r wybodaeth honno. 8.
Yn ystod y drafodaeth, awgrymwyd y dylai’r Grŵp greu rhestr o gamau
gweithredu, yn seiliedig naill ai ar gyfleoedd i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru
neu gan y fframwaith cyfreithiol a’r hyn y mae angen ei wneud i ddal
Llywodraeth Cymru i gyfrif. 9.
Codwyd sawl mater arall yn ystod y trafodaethau, gan gynnwys: - Dylid seilio craffu ar
Lywodraeth Cymru ar y pum ffordd o weithio. - Mae angen gwell
dealltwriaeth o’r metrigau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio ac o’r
ffigurau llinell sylfaen a ddefnyddir. Cododd nifer o aelodau’r grŵp gwestiynau
am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio fel sail ar gyfer ei
pholisïau, gan gynnwys rhagamcanion hyd at 2050. - Byddai cyfle i
randdeiliaid ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei chynllun cyflenwi
lleihau carbon. - Dylai’r Grŵp gytuno
ar fethodoleg glir ar gyfer ei waith monitro. - Gallai’r Grŵp
geisio gwirio a yw targedau yn cael eu cyflawni a hefyd geisio dylanwadu ar y
gwaith o osod targedau. Bydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn cynghori
Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn yr hydref; felly bydd hynny’n gyfle i’r
Grŵp gymryd rhan. - Cafodd y targed 2050 ei
osod yn Neddf yr Amgylchedd, sy’n cynnwys darpariaeth i’r targed hwnnw gael ei
adolygu. - Awgrymwyd y gellid
defnyddio nodau datblygu byd-eang Mission 2020 fel adnodd. - Nodwyd i Bwyllgor Newid
Hinsawdd y DU gynnal adolygiad o effaith newid hinsawdd ar draws y DU ac y bydd
Llywodraeth Cymru’n integreiddio hyn yn ei gwaith. Cytunodd y Grŵp i
glywed yn uniongyrchol gan Bwyllgor y DU. Trafod y gwaith y dyfodol 10.
Atgoffodd y Clerc y Grŵp fod modd iddo gael data gan
Lywodraeth Cymru drwy’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
Soniodd hefyd y bydd sesiwn graffu flynyddol y Pwyllgor ar newid hinsawdd yn
cael ei chynnal ddiwedd mis Hydref neu ddechrau mis Tachwedd ac y dylai gwaith
y Grŵp lywio’r broses honno. Cytunodd y Grŵp i baratoi adroddiad i’r
Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, gan awgrymu meysydd
iddo ganolbwyntio arnynt o bosibl yn ei sesiwn gyda’r Ysgrifennydd Cabinet
(Lesley Griffiths AM). 11.
Cytunodd y grŵp i baratoi cynigion ar gyfer cwestiynau i’r sesiwn
graffu flynyddol cyn ei gyfarfod nesaf, a’r rheini yn seiliedig ar dempled a
ddarperir gan yr ysgrifenyddiaeth. 12.
Cytunodd y Grŵp i wahodd cynrychiolydd o Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU
i’w gyfarfod nesaf. 13.
Cytunwyd y byddai aelodau’r Grŵp yn ffurfio is-grŵp i ystyried
data. Dyddiad y cyfarfod nesaf 14.
Awgrymwyd y dylid cynnal y cyfarfod nesaf ym mis Medi. Byddai’r dyddiad yn
cael ei gadarnhau yn fuan wedyn. |