Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Rhun ap Iorwerth; dirprwyodd Llyr Gruffydd ar ei ran. |
|
Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) Cofnodion: 2.1 Nododd y
Pwyllgor yr adroddiad gan y Comisiynydd Safonau Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i). 2.2 Gofynnodd Andrew
RT Davies iddi gael ei nodi y byddai am i’r holl wybodaeth yn atodiad y
Comisiynydd gael ei chyhoeddi yn hytrach na’i golygu. Fodd bynnag, barn y
mwyafrif yn y Pwyllgor oedd y dylid golygu’r wybodaeth yn ymwneud â’r cyfarfod, gan ei fod o’r farn bod y crynodeb o’r materion a drafodwyd
yn y cyfarfod, fel y’i nodir ym mharagraff 6.4 o adroddiad y Comisiynydd, yn
ddigonol ar gyfer dealltwriaeth eglur o’r gŵyn a chanfyddiadau’r Comisiynydd yn
yr achos hwn. |