Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Adolygiad o'r Cod Ymddygiad: Ymatebion i'r Ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar yr adolygiad o'r Cod Ymddygiad.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymatebion gan Aelodau a oedd wedi cymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor o'r blaen, ac Aelodau sydd wedi eistedd ar y pwyllgor yn y gorffennol.

 

2.3 Nododd y pwyllgor y byddai cod a gweithdrefn gwynion ddiwygiedig sy’n seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd hyd yma yn cael eu trafod gan y pwyllgor cyn eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori’n ehangach.

 

3.

Adolygiad o'r Cod Ymddygiad: Llythyr gan y Comisiynydd Safonau Dros Dro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor lythyr y Comisiynydd dros dro yn tynnu sylw at anghysondeb posibl mewn perthynas ag a ddylai Aelodau ddatgan buddiant wrth gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig.

 

4.

Comisiynydd Safonau: Tâl i'r Comisiynydd Safonau Dros Dro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor gynigion i adolygu’r tâl y mae’r Comisiynydd Safonau Dros Dro yn ei gael.

 

4.2 Cytunodd y pwyllgor i argymell y dylai tâl y Comisiynydd Dros Dro gael ei ddiwygio er mwyn sicrhau ei fod yn gyson â chyflog deiliad blaenorol y swydd o 7 Hydref 2020.

 

4.3 Nododd y pwyllgor bod angen i’r Senedd gymeradwyo unrhyw benderfyniad i amrywio telerau penodiad y Comisiynydd Safonau Dros Dro, o dan Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.