Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Preifat
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Adolygiad o'r Cod Ymddygiad: Ymatebion i'r Ymgynghoriad Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar
yr adolygiad o'r Cod Ymddygiad. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymatebion gan Aelodau a
oedd wedi cymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor o'r blaen, ac Aelodau sydd wedi
eistedd ar y pwyllgor yn y gorffennol. 2.3 Nododd y pwyllgor y byddai cod a gweithdrefn gwynion
ddiwygiedig sy’n seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd hyd yma yn cael eu
trafod gan y pwyllgor cyn eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori’n ehangach. |
|
Adolygiad o'r Cod Ymddygiad: Llythyr gan y Comisiynydd Safonau Dros Dro Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor lythyr y Comisiynydd dros dro yn tynnu sylw at
anghysondeb posibl mewn perthynas ag a ddylai Aelodau ddatgan buddiant wrth
gyflwyno cwestiynau ysgrifenedig. |
|
Comisiynydd Safonau: Tâl i'r Comisiynydd Safonau Dros Dro Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Trafododd y
Pwyllgor gynigion i adolygu’r tâl y mae’r Comisiynydd Safonau Dros Dro yn ei
gael. 4.2 Cytunodd y
pwyllgor i argymell y dylai tâl y Comisiynydd Dros Dro gael ei ddiwygio er mwyn
sicrhau ei fod yn gyson â chyflog deiliad blaenorol y swydd o 7 Hydref 2020. 4.3 Nododd y
pwyllgor bod angen i’r Senedd gymeradwyo unrhyw benderfyniad i amrywio telerau
penodiad y Comisiynydd Safonau Dros Dro, o dan Fesur Comisiynydd Safonau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009. |