Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Dewisodd Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fod yn absennol o'r cyfarfod cyfan oherwydd roedd wedi bod yn bresennol yng nghyfarfod Grŵp y Blaid Lafur roedd y gŵyn a gyflwynwyd yn cyfeirio ato.

1.2 Andrew T Davies AC oedd yn y Gadair wedi i’r Pwyllgor gytuno ar 6 Tachwedd 2019 i’w ethol  yn Gadeirydd dros dro.

1.3 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09:30-11:00)

2.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

2.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(i)

 

2.2 Yn ystod y drafodaeth ar adroddiad y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i), cafodd yr Aelodau dystiolaeth lafar gan Vikki Howells AC, sef yr Aelod dan sylw. Roedd Anthony Cooper, Ysgrifennydd Grŵp Llafur y Cynulliad Cenedlaethol, yn bresennol gyda Ms Howells.