Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2    Dywedodd Llyr Gruffydd AC nad oedd wedi cymryd rhan yn nhrafodaeth Grŵp Plaid Cymru ynglŷn â'r ymateb a gyflwynwyd i ymgynghoriad y Pwyllgor ar lobïo.

 

(09.30 - 10.00)

2.

Y Comisiynydd Safonau: sesiwn gyflwyniadol gyda'r Comisiynydd Safonau

Syr Roderick Evans QC

 

Cofnodion:

2.1 Amlinellodd Syr Roderick Evans QC, Comisiynydd Safonau, ei flaenoriaethau ar gyfer ei dymor yn y swydd.

 

(10.00 -11.00)

3.

Lobïo: Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad

SoC(5)-01-17 Papur 1 – Llythyr gan y Prif Weinidog i Weinidogion y Cynulliad (20 Ionawr 2017)

Brîff cyfreithiol ar God Gweinidogion Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor ar lobïo a'r llythyr gan y Prif Weinidog ynghylch cyhoeddi dyddiaduron Gweinidogion.

3.2 Gofynnodd yr Aelodau am gael paratoi matrics o'r themâu cyffredin sy'n dod i'r amlwg o'r ymatebion.

3.3 Cytunodd yr Aelodau i gymryd tystiolaeth lafar fel rhan o'r ymchwiliad hwn.