Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/11/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Sayed AC

1.2 Ni chafwyd unrhyw ddirprwyon na datganiadau o fuddiannau.

(09.30-10.45)

2.

Datgarboneiddio Trafnidiaeth - Newid moddol, cynllunio a llywodraeth leol

Craig Mitchell, Pennaeth Cefnogi Gwastraff, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaeth: Gwasanaethau Rheng Flaen, Cyngor Rhondda Cynon Taf

Rhiannon Hardiman, Penaeth Cymru, Living Streets Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Craig Mitchell, Roger Waters a Rhiannon Hardiman gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor

2.2 Cytunodd Roger Waters i ddarparu manylion pellach ar ystadegau, data ac adroddiadau mewn perthynas â Datgarboneiddio Trafnidiaeth

(11.00-12.00)

3.

Datgarboneiddio Trafnidiaeth - Rheilffyrdd

Matthew Prosser, Cyfarwyddwr Technegol, Angel Trains

Andrew Kluth, Arbenigwr Carbon Arweiniol, Bwrdd Diogelwch a Safonau’r Rheilffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Matthew Prosser ac Andrew Kluth gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 5 ac o'r eitem gyntaf yn ei gyfarfod ar 21 Tachwedd 2019

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

4.2 Nododd yr aelodau, yn dilyn cytundeb y Pwyllgor Busnes o amserlen ddiwygiedig ar y gyllideb, y gohiriwyd y sesiwn graffu ar waith y Gweinidog ar y Gyllideb Ddrafft. O ganlyniad, ni fyddai cyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 11 Rhagfyr yn mynd yn ei flaen yn awr

5.

Blaenraglen Waith Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau 2020

Cofnodion:

5.1 Trafododd Aelodau’r Pwyllgor y Flaenraglen Waith ar gyfer 2020