Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/02/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS 1.2 Dirprwyodd Mike
Hedges AS ar ran Joyce Watson AS Ni chafodd unrhyw
fuddiannau eu datgan |
|
(09.45-10.45) |
Cymorth a chyllid i weithredwyr bysiau Scott Pearson, Cadeirydd Cymdeithas Coetsus a Bysiau
Cymru Jane Reakes-Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru Buses
Ltd John Burch, Rheolwr Cymru a Gorllewin Lloegr,
Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cofnodion: 2.1 Atebodd Scott Pearson,
Cadeirydd Cymdeithas Coetsus a Bysiau Cymru; Jane Reakes-Davies, Rheolwr
Gyfarwyddwr First Cymru Buses Ltd; a John Burch, Rheolwr Cymru a Gorllewin
Lloegr, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor. 2.2 Cytunodd John Burch i gyflwyno rhagor o fanylion am yr addasiadau rhwng
nifer y teithwyr y cyllidwyd ar eu cyfer a’r niferoedd gwirioneddol ledled yr
ardal dan sylw. |
|
(10.55-11.55) |
Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidogion - Cymorth Busnes Covid-19 Ken Skates AS Gweinidog
yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Lee Waters AS, Dirprwy
Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau Duncan Hamer, Prif Swyddog Gweithredu Busnes a’r
Rhanbarthau Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd Cofnodion: 3.1 Atebodd Ken
Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru; Lee Waters AS,
Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth; Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes
a Rhanbarthau; Duncan Hamer, Prif Swyddog Gweithredu Busnes a’r Rhanbarthau; ac
Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd, gwestiynau gan
aelodau’r pwyllgor. 3.2 Cytunodd Ken Skates AS i anfon copi o’r tabl sy’n cael ei lunio i
gymharu’r cymorth busnes a gynigir yng Nghymru â’r cymorth a gynigir yng
ngweddill y Deyrnas Unedig. |
|
(11.55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig gan y pwyllgor. |
|
(11.55-12.10) |
Preifat Ystyried tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Trafododd yr
Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn. |