Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/02/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS

1.2 Dirprwyodd Mike Hedges AS ar ran Joyce Watson AS

Ni chafodd unrhyw fuddiannau eu datgan

(09.45-10.45)

2.

Cymorth a chyllid i weithredwyr bysiau

Scott Pearson, Cadeirydd Cymdeithas Coetsus a Bysiau Cymru

Jane Reakes-Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru Buses Ltd

John Burch, Rheolwr Cymru a Gorllewin Lloegr, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr

Cofnodion:

2.1 Atebodd Scott Pearson, Cadeirydd Cymdeithas Coetsus a Bysiau Cymru; Jane Reakes-Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru Buses Ltd; a John Burch, Rheolwr Cymru a Gorllewin Lloegr, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.

2.2 Cytunodd John Burch i gyflwyno rhagor o fanylion am yr addasiadau rhwng nifer y teithwyr y cyllidwyd ar eu cyfer a’r niferoedd gwirioneddol ledled yr ardal dan sylw.

(10.55-11.55)

3.

Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidogion - Cymorth Busnes Covid-19

Ken Skates AS Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau

Duncan Hamer, Prif Swyddog Gweithredu Busnes a’r Rhanbarthau

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd

Cofnodion:

3.1 Atebodd Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru; Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth; Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau; Duncan Hamer, Prif Swyddog Gweithredu Busnes a’r Rhanbarthau; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd, gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.

3.2 Cytunodd Ken Skates AS i anfon copi o’r tabl sy’n cael ei lunio i gymharu’r cymorth busnes a gynigir yng Nghymru â’r cymorth a gynigir yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

(11.55)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig gan y pwyllgor.

(11.55-12.10)

5.

Preifat

Ystyried tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn.