Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09.30 - 10.00) |
Ystyried Bil Cymru Llywodraeth y DU Papur Preifat 1 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr effaith ar y rhai hynny o gymwyseddau
deddfwriaethol y Cynulliad sy'n dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. |
|
(10.00 - 10.30) |
Ymchwiliad i Waith Ieuenctid - trafodaeth ar grynodeb o'r dystiolaeth Papur Preifat 2 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd ar y dull ar gyfer
yr ymchwiliad. |
|
(10.30 - 11.00) |
Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor - trafodaethau cychwynnol am yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar flaenoriaethau Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y rhanddeiliaid. Cytunodd y
Pwyllgor y byddai papur cwmpasu ar waith y pwyllgor yn y dyfodol yn cael ei
ystyried mewn cyfarfod diweddarach. |