Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Pierhead Building, Pierhead Street, CF99 1SN. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30-13.35)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Croesawodd y Cadeirydd Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru, a'i ddau Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Owen Evans (y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus) a James Price, (Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol).

1.3       Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru a staff allweddol o Swyddfa Archwilio Cymru.

1.4       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(13.35- 14.05)

2.

Trafod busnes cynnar: Staff Comisiwn y Cynulliad

PAC(5)-02-16 Papur 1: Hysbysiad Hwylus ar gyfer yr Aelodau am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Rhoddodd y Tîm Clercio gyflwyniad ar ffyrdd y Pwyllgor o weithio.

 

(14.05-14.50)

3.

Trafod busnes cynnar: Swyddfa Archwilio Cymru/ Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cofnodion:

3.1 Cafwyd cyflwyniad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

 

 

(15.00-15.45)

4.

Trafod busnes cynnar: Cynnal Ymchwiliadau Pwyllgor

Cofnodion:

4.1 Rhoddodd y Tîm Clercio gyflwyniad ar y modd y mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliadau. Cafodd y sesiwn ei hwyluso gan Kate Faragher o Bespokeskills.

 

 

(15.55-16.45)

5.

Trafod busnes cynnar: Y Gwasanaeth Ymchwil

Cofnodion:

5.1 Rhoddodd Martin Jennings o Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad gyflwyniad ar ddull y Pwyllgor blaenorol o ymdrin â'r gwaith craffu ar gyfrifon blynyddol.

 

 

(16.45-17.00)

6.

Trafod busnes cynnar: Casgliad

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau yr amrywiol gyflwyniadau a gafwyd.