Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/02/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AC.

 

(09.30-10.45)

2.

Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli Cyllidebau a Pholisi Ariannol, Llywodraeth Cymru

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru

 

Papur 1 - Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2019-20

Papur 2 - Nodyn Esboniadol

Briff Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli Cyllidebau a Pholisi Ariannol, Llywodraeth Cymru; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru.

 

(10.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.45-11.05)

4.

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.05-11.25)

5.

Trafod y flaenraglen waith

Papur 3 - Blaenraglen waith y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.