Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Busnes yr
Wythnos Hon Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y nifer o newidiadau i agenda dydd Mawrth, fel y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol. Egwyliau Cytunodd y
Pwyllgor Busnes nad oedd angen trefnu egwyliau ar gyfer yr wythnos hon, gan nad
oes angen newid Aelodau mewn Cyfarfod Llawn rhithiol. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol: Dydd Mawrth
10 Tachwedd ·
Datganiad gan y Gweinidog Addysg:
Ymdrin â chymwysterau yn 2021 (45 munud) ·
Dadl: Cyfnod 3 ar y Bil Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) ( Dydd Mawrth
17 Tachwedd 2020 ·
Datganiad gan Weinidog yr Economi,
Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Cynllun Adfer Economaidd (45 munud) – Gohiriwyd
o 3 Tachwedd ·
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid
a’r Trefnydd: Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (45 munud) ·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
a'r Prif Chwip: Nodi Wythnos Rhyng-ffydd (45 munud) ·
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) (15 munud) – Gohiriwyd o 3
Tachwedd ·
Memorandwm Cydsyniad Offeryn
Statudol ar Reoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol)
(Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud) - Gohiriwyd o 3 Tachwedd ·
Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd
Tribiwnlysoedd Cymru (30 munud) – Gohiriwyd o 3 Tachwedd ·
Dadl: Adroddiad y Grŵp Cynllunio Etholiadau
(45 munud) |
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen: Dydd
Mercher 11 Tachwedd 2020 – •
Dadl ar Ddeiseb P-05-1060
Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y
cyfyngiadau symud (30 munud) •
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau: Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol ( Dydd
Mercher 25 Tachwedd 2020 –
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddadl ar y ddeiseb ar gyfer dydd Mercher nesaf am 30
munud, a gofynnodd i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau leihau'r amser ar
gyfer eu dadl ar y diwrnod hwnnw i 30 munud i ddarparu ar gyfer hyn. |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes y bydd y rheoliadau'n cael eu hystyried gan y Senedd heddiw, a bod y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad eisoes wedi adrodd. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i barhau i adolygu'r broses. |
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 |
|
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar amserlen ddiwygiedig y gyllideb, gan gynnwys dyddiad
diwygiedig o 4 Chwefror i bwyllgorau gyflwyno adroddiad arni. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd ar gais y Pwyllgor Cyllid i gynnal cyfarfod ychwanegol yn
ystod y toriad ar 8 Ionawr, a
dywedodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd y byddai'n hapus i fod yn bresennol. |
|
Busnes y Senedd |
|
Pwyllgor y Rhanbarthau - Grŵp Cyswllt y DU Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai'r Llywydd enwebu David Rees a Russell George yn aelod a
dirprwy, yn eu drefn honno, o Grŵp Cyswllt Pwyllgor Rhanbarthau'r DU ar
gyfer gweddill y Senedd hon. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan y Llywydd Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr yn cadarnhau sefydlu grŵp newydd y Gynghrair
Annibynnol ar gyfer Diwygio, a nodi na fyddai'r grŵp yn cael ei alw yn
ystod cwestiynau arweinwyr na llefarwyr. |
|
Unrhyw Fater Arall Y Rheolau
Sefydlog Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu cyfarfodydd ar wahân i drafod newidiadau i'r Rheolau
Sefydlog cyn diwedd y Pumed Senedd. Aelodaeth
Pwyllgorau Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i ethol Caroline Jones i'r Pwyllgor Busnes,
a Mark Reckless i'r Pwyllgor Cyllid. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ofyn i grŵp y Gynghrair Annibynnol ar gyfer Diwygio
ystyried derbyn lle ar y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a
oedd gynt gan Mandy Jones, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach ynghylch
dyrannu lleoedd pwyllgor i'r grŵp hwnnw. Cyfarfodydd
Llawn yr Wythnos Nesaf Trafododd y
Rheolwyr Busnes y posibilrwydd o ddychwelyd i fformat hybrid ar gyfer
cyfarfodydd yr wythnos nesaf, a chytunwyd i drafod ymhellach gyda'u grwpiau cyn
i'r Llywydd wneud penderfyniad. |