Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes benderfyniad y Llywydd i barhau
â Chyfarfodydd Llawn hybrid yr wythnos hon, yn dilyn ymgynghoriad anffurfiol
â’r Rheolwyr Busnes. Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai
Aelodau meinciau cefn Llafur ac aelodau'r llywodraeth yn cymryd rhan yn y
cyfarfodydd hybrid o bell yr wythnos hon. Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y tri newid
i fusnes dydd Mawrth yn y copi diwygiedig o Fusnes yr Wythnos Hon a
ddosbarthwyd ddoe:
Dywedodd y Trefnydd hefyd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd
newid pellach i symud y rheoliadau iechyd cyhoeddus i ddod yn gynharach yn y
dydd. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr amserlen ddiwygiedig, a ddosbarthwyd
ddoe: Dydd Mawrth
6 Hydref 2020 - ·
·
·
Datganiad
gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Cynllun Adferiad Coronafeirws (45 munud) ·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau cyllidol
COVID-19 a rhagolygon cyllideb y dyfodol (45 munud) ·
Cynnig o
dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân (30 munud): o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020 o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020 o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)
(Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd, Port Talbot
a Tor-faen 2020 ·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd (30 munud) Dydd Mawrth
13 Hydref 2020 - ·
Datganiad
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am
Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm
Taf Morgannwg (45 munud) - gohiriwyd o 29 Medi. ·
Cynnig o
dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân (60 munud): o Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu
Cartrefi (Diwygio) (Cymru). Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio)
(Cymru) |
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen: Dydd Mercher 7 Hydref 2020 – ·
·
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
– Adroddiad 01-20 (15 munud) ·
Cynnig i ddirprwyo awdurdod i wneud
y trefniadau ar gyfer recriwtio Comisiynydd Safonau newydd i'r Prif Weithredwr
a'r Clerc (5 munud) ·
Adroddiad y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad – Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro (15 munud) Dydd Mercher 14 Hydref 2020 – ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Cyllid: - Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb (60 munud) - gohiriwyd o 7 Hydref ·
Dydd Mercher 21 Hydref 2020 – ·
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan
Aelod (30 munud) ·
Dadl ar Ddeiseb P-05-1003: Mynnu
Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n
radiolegol yn nyfroedd Cymru (30 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru
(60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5
Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno
adroddiad ar y rheoliadau. |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5
Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno
adroddiad ar y rheoliadau. |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5
Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno
adroddiad ar y rheoliadau. |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd, Port Talbot a Torfaen 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 5
Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno
adroddiad ar y rheoliadau. Yn dilyn
trafodaeth yn y ddadl yr wythnos diwethaf, gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r
ysgrifenyddiaeth am bapur ar gyfer cyfarfod yr wythnos nesaf ar y broses
gadarnhaol gwnaed. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol, a
dyddiad y ddadl arfaethedig yn y Cyfarfod Llawn o 3 Tachwedd ar gyfer y Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) a 6
Hydref ar gyfer y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd. Cyfeiriodd
y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU at
y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda terfyn amser ar
gyfer cyflwyno adroddiad ar 19 Tachwedd 2020.
Cytunodd y
Pwyllgor i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y
Bil Amaethyddiaeth i graffu arno. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Rheoli amser y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher Cofnodion: Trafododd y
Rheolwyr Busnes y papur, a chytunwyd i drefnu llai o ddadleuon eraill pan fydd
eitemau 30 munud fel cwestiynau'r Comisiwn wedi'u trefnu. |
|
Pwyllgorau |
|
Amserlen y Pwyllgorau Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr. Dywedodd y Trefnydd fod Gweinidogion yn blaenoriaethu
bod yn bresennol mewn cyfarfodydd pwyllgor, ond gofynnodd i bwyllgorau roi
cymaint o rybudd â phosibl, yn enwedig ar ddyddiau pan gynhelir cyfarfodydd y
Cabinet. |