Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y tri newid i fusnes dydd Mawrth: ychwanegu datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; gohirio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020; a thynnu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 yn ôl.

 

Egwyl / newid

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gael un egwyl dydd Mawrth a dau egwyl dydd Mercher.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y gloch yn cael ei chanu ar ddiwedd pob egwyl, i roi rhybudd y gall Aelodau ddod i mewn i'r Siambr a bod busnes ar fin ailddechrau.

 

Terfyn amser Datganiadau 90 Eiliad

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau 90 eiliad fydd 10am – yr un peth â chwestiynau amserol. Os nad yw pob slot ar gyfer y diwrnod hwnnw yn cael eu llenwi, gall y Llywydd ddefnyddio ei disgresiwn i dderbyn cais hwyr.

 

Gwelliannau i gynigion

 

Yn y sefyllfa bresennol ac o ystyried hyd y dyddiau busnes, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn defnyddio ei phŵer i ddad-ddethol gwelliannau pan fydd o’r farn bod hynny’n briodol at ddibenion cynnal busnes y Senedd yn gywir.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr amserlen ddiwygiedig, a ddosbarthwyd y bore yma, a oedd yn ychwanegu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronfeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd ac ati) 2020 i 29 Medi.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Gofynnodd y Llywydd i'r Ysgrifenyddiaeth am bapur ar sut y gellid defnyddio'r amser sydd ar gael ar gyfer busnes dydd Mercher yn fwy effeithlon. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r busnes ar gyfer 7 Hydref er mwyn lleihau hyd cyffredinol y cyfarfod.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:

 

Dydd Mercher 14 Hydref 2020 –

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i'w drafod ar 30 Medi:

 

NNDM7384 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) y niwed y mae tlodi'n ei wneud i gyfleoedd bywyd ac nad yw gwaith bellach yn llwybr gwarantedig allan o dlodi;

b) bod y pandemig wedi gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn gorfod troi at gymorth elusennol fel banciau bwyd;

c) yr oedd twf y DU, hyd yn oed cyn y pandemig, yn wael a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o awtomeiddio, sy'n gosod niferoedd cynyddol o swyddi mewn perygl;

d) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac, yn ogystal, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl;

e) y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi; 

f) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu cymdogion.

 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i sefydlu treial incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru;

b) i lobïo Llywodraeth y DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru.

 

Cefnogwyr:

 

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Alun Davies (Blaenau Gwent)

Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru

Huw Irranca–Davies (Ogwr)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Leanne Wood (Rhondda)

Mick Antoniw (Pontypridd)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Rhianon Passmore (Islwyn)

Sian Gwenllian (Arfon)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 14 Hydref:

NNDM7304

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod effaith ddinistriol endometriosis sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru.

2. Yn nodi ei bod yn cymryd, ar gyfartaledd, wyth mlynedd a 26 apwyntiad meddyg teulu i gael atgyfeiriad at arbenigwr endometriosis.

3. Yn galw am fwy o ymchwil i achosion endometriosis a thriniaethau posibl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif arferol a phryd i ofyn am gyngor meddygol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o arbenigwyr endometriosis yn cael eu hyfforddi fel y gall pob menyw gael triniaeth arbenigol yng Nghymru.

Cefnogwyr:

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) ( Rhondda Cynon Taf) 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 28 Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

 

4.2

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 28 Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 28 Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

 

4.3

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a dyddiad arfaethedig yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tân a Diogelwch.

 

Cytunodd y Pwyllgor i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Pysgodfeydd i graffu arno.

 

 

5.

Pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddwy ddadl yn nhymor yr hydref ac i gael ei arwain gan y Pwyllgor Deisebau ar amseriad y dadleuon. Awgrymodd y Rheolwyr Busnes y gallai'r Pwyllgor Deisebau ystyried adolygu nifer y llofnodion sy'n ofynnol ar gyfer dadl.

 

 

6.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl a arweinir gan bwyllgor ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ym mis Tachwedd.

 

 

6.3

Ceisiadau o ran amserlen pwyllgorau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ceisiadau canlynol gan bwyllgorau am slotiau cyfarfod yn ystod wythnos olaf yr hanner tymor:

·         Cyfarfod bore dydd Mercher 21 Hydref i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer sesiwn Weinidogol olaf gyda'r Gweinidog Addysg mewn perthynas â'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

·        Cadw slot i’r Pwyllgor Cyllid os bydd ei angen i gynnal cyfarfod y mae'n ceisio ei drefnu gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys.

·        Cynnal cyfarfod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a drefnwyd yn wythnos 10 ddydd Gwener 27 Tachwedd yn hytrach na dydd Llun 23 Tachwedd, gan fod y pwyllgor yn cynnal trafodion Cyfnod Dau ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i adolygu amseriad slot prynhawn Llun i 13:30 – 17:00.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r dull arfaethedig o’r modd y mae’r ysgrifenyddiaeth yn casglu ceisiadau pwyllgorau i newidiadau i'r amserlen a chyfarfodydd wythnos gwarchodedig, a chyflwyno'r rhain mewn un papur.

 

 

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Llythyr gan y Trefnydd a’r Cwnsler Cyffredinol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

7.2

Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

Unrhyw Fater Arall

Aelodaeth Pwyllgorau

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i ethol Caroline Jones yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau  ddydd Mercher, ac i gyflwyno cynnig i ethol aelodau i bwyllgor y Llywydd.