Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Cynhadledd Fideo Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod blaenorol i'w cyhoeddi. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod blaenorol i'w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cododd y Trefnydd y mater
o ddau Aelod yn methu â phleidleisio ar wahanol adegau yr wythnos diwethaf.
Esboniodd y Llywydd ei bod yn bosibl i'r Aelodau gael eu cynnwys yn y system yn
electronig gan glerc, pe bai un neu ddau ohonynt yn profi problem anorchfygol.
Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddatgan eu pleidlais ar lafar tra
bod y bleidlais yn agored. Bydd y Llywydd yn defnyddio hyn pan fydd hi'n
ystyried ei bod yn angenrheidiol, a phe bai problem ar raddfa fwy eang,
byddai'n troi at bleidleisio wedi'i bwysoli.
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y dylai'r Llywydd barhau â'r arfer cyfredol o beidio â chaniatáu
ymyriadau ac eithrio mewn slot penodol tuag at ddiwedd dadl. Aelodau Annibynnol Cytunodd y Pwyllgor
Busnes gan na all Neil Hamilton fod yn y Cyfarfod Llawn ei hun ddydd Mercher,
er ei fod wedi bod yn llwyddiannus yn y balot, y cynigir ei le i Neil McEvoy
(yr Aelod arall nad yw mewn grŵp, a oedd wedi mynegi yr hoffai fod yn
bresennol yn bersonol). Rheoliadau Dywedodd y Trefnydd wrth
y Rheolwyr Busnes fod y Llywodraeth wedi tynnu'r cynigion canlynol yn ôl:
Y rheswm am hyn yw bod
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 a
osodwyd ddydd Gwener yn eu diddymu. Amser dechrau ac egwyl Cytunodd y Rheolwyr
Busnes y dylid cael egwyl tua 12.30, ar ôl cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol.
Cytunwyd hefyd i gael egwyl byr ar ôl busnes y llywodraeth, tua 15.30. Mewn ymateb i gais gan y
Trefnydd, cytunodd y Llywydd y gellir cyfnewid Gweinidogion yn ystod y ddau
egwyl, fel y gall mwyafrif y Gweinidogion arweiniol, neu'r rhan fwyaf, gymryd
rhan yn y Siambr. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r
Rheolwyr Busnes at y ffaith bod y Llywodraeth wedi trefnu busnes ar gyfer dydd
Mawrth a dydd Mercher o fis Medi ymlaen. |
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes
i ddychwelyd at amserlen fusnes fwy arferol o fis Medi ymlaen, ac felly
trefnwyd y canlynol: Dydd Mercher 16 Medi 2020 Datganiadau 90 Eiliad (5
munud)
Dydd Mercher 23 Medi 2020
-
Dydd Mercher 30 Medi 2020
-
|
|
Busnes y Senedd |
|
Amserlen y Senedd Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i ddychwelyd i Gyfarfod Llawn ddwywaith yr wythnos ar brynhawn Mawrth a
phrynhawn Mercher, a chytunwyd ar amserlen ddrafft y pwyllgorau. Cadarnhaodd y Llywydd y
byddai'r Comisiwn yn ystyried materion fel faint o Aelodau a allai fod yn
bresennol yn yr adeilad, a defnydd posibl o ystafelloedd eraill, cyn tymor yr
hydref. Byddai hefyd yn ystyried a oedd modd darlledu mwy na dau bwyllgor ar yr
un pryd yn y dyfodol. |
|
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd y Pwyllgor
Busnes ddyddiadau toriad hanner tymor yr Hydref a'r Nadolig ar gyfer 2020 a
chytunodd ar ddyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a'r Pasg 2021. |
|
Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf 2020 Cofnodion: Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer
cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod cyfnod toriad yr haf a chytunwyd ar y
trefniadau ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig. |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i gais y pwyllgor am slot cyfarfod ychwanegol ar 20 Gorffennaf. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes hefyd ar yr amserlen ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer y Bil Rhentu
Cartrefi (Diwygio) (Cymru), gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar Gyfnod 1 ar 2
Hydref 2020 ac ar Gyfnod 2 ar 4 Rhagfyr 2020. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - y Bil Pysgodfeydd Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Pysgodfeydd at y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 24 Medi. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig - y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gyfeirio'r Memorandwm diwygiedig ar y
Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ond, gan fod y Bil yn
cael ei ddal yn ôl am gyfnod amhenodol yn San Steffan, ni osododd ddyddiad
terfynol ar gyfer adrodd. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes
hefyd i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau
a Dyfeisiau Meddygol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer
adrodd ar 22 Hydref. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i'r cais gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd i gwrdd yn ystod
yr wythnos yn cychwyn 3 Awst 2020. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Cyfarfodydd adalw'r Senedd ar 5 a 26 Awst Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y bydd y
cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhithwir gydag amser cychwyn o 1.30pm, ac y bydd
unrhyw bleidleisio yn digwydd ar yr ap pleidleisio o bell. Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau o
3 Awst i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adrodd ar y
rheoliadau, cyn y ddadl a ragwelir ar 5 Awst. Trafododd y Rheolwyr
Busnes ffyrdd o sicrhau bod y rheoliadau, yn achos rheoliadau cadarnhaol, yn
cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ôl iddynt gael eu gwneud, a
gofynnodd y Llywydd i swyddogion ystyried ffyrdd o alluogi hynny i ddigwydd. |