Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at
ychwanegu datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar Ddigartrefedd at
gyfarfod dydd Mercher. Dywedodd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y byddai datganiad
gan y Gweinidog Addysg yn cael ei ychwanegu at yr agenda brynhawn
heddiw. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cytunodd y Rheolwyr Busnes i barhau â'r arfer
o beidio â chael unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes. Ymyriadau Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y
bydd, fel y digwyddodd yn nadl y llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn diwethaf, yn
ymdrin ag ymyriadau yn wahanol i'r ffordd y byddai mewn cyfarfod arferol. Yn
hytrach nag ymyriadau, cyn i'r siaradwr olaf ymateb i ddadl, bydd y Llywydd yn
cymryd cyfraniadau un funud gan Aelodau sy'n ymateb i rywbeth a ddywedwyd yn
ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau a oedd eisoes wedi siarad. Sut i Ymuno Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes, er
y bydd hawl i'r holl 60 o Aelodau fod yn bresennol, bod angen i grwpiau ac
aelodau annibynnol hysbysu Ysgrifenyddiaeth y Siambr o hyd o bwy fydd yn
bresennol. Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes annog Aelodau i gyflwyno
eu ceisiadau i siarad erbyn diwedd dydd Mawrth os yn bosibl. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes hefyd
sicrhau bod Aelodau yn ymwybodol fod angen iddynt ymuno â'r cyfarfod am 10.30
(neu hanner awr cyn yr amser dechrau os ydynt yn ymuno â sesiwn y prynhawn yn
unig), ar yr hwyraf, er mwyn caniatáu amser ar gyfer gwiriadau TG. Bydd angen i
Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl 10.50am (neu 10 munud cyn dechrau sesiwn y
prynhawn) aros nes y bydd y cyfarfod wedi dechrau. Egwyl Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnal yr
egwyl ar ôl y Cwestiynau Amserol, am tua 12.20. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y 3
Wythnos Nesaf Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at
yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer y 3 wythnos nesaf a ddosbarthwyd fore
heddiw: Dydd Mercher 17 Mehefin 2020 ·
Cynnig o
dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân: (30 munud) o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 |
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr gan
Suzy Davies a chytunwyd i amserlennu'r cynnig heb ddyddiad trafod sy'n cynnig
dirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafierws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru)
2020, dydd Mercher 10 Mehefin. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a
chytunwyd i barhau â'r arfer o amserlennu dim ond busnes yn ymwneud â Covid-19
am y tro, ac i hysbysu'r Pwyllgor o hynny. Cytunwyd hefyd y dylai'r Pwyllgor
Deisebau ysgrifennu eto pe bai am amserlennu dadl yn ymwneud â deiseb yn
ymwneud â Covid. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a
chytunwyd mewn egwyddor i amserlennu dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau
gwariant Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos olaf cyn toriad yr haf. |
|
Papur i'w nodi - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr. |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar derfyn amser cyflwyno
adroddiad o ddydd Iau 12 Mehefin ar gyfer y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a'r Cyfansoddiad ar gyfer Rheoliadau Rhif 4 a Rheoliadau Rhif 5. Cytunodd y
Trefnydd i ystyried a allai unrhyw reoliadau yn y dyfodol gael eu hamserlennu
i'w trafod yn gynt, a chaniatáu ychydig o amser i'r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad. |
|
Pwyllgorau |
|
Cais i sefydlu Pwyllgor y Senedd ar Covid-19 Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur. Roedd
Darren Millar a Siân Gwenllian o blaid ac roedd y Trefnydd a Caroline Jones yn
erbyn, felly barn y mwyafrif oedd yn erbyn y cais i gyflwyno cynnig i sefydlu'r
pwyllgor. Roedd y Rheolwyr Busnes yn cytuno ei bod yn
bwysig ystyried Covid-19 mewn ffordd drawsbynciol a chytunwyd i ofyn i'r
Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gwrdd yn fuan ar ddechrau'r hanner
tymor hwn. Gwnaeth Caroline Jones gais i bob grŵp gael ei gynrychioli ar
unrhyw bwyllgor sy'n cynnal gwaith craffu trawsbynciol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd ei bod yn
bwysig craffu ar y gwaith adfer ar ôl Covid-19, a gaiff ei arwain gan y Cwnsler
Cyffredinol. Gofynnwyd i'r swyddogion ystyried ble o fewn cylch gwaith
presennol y pwyllgorau roedd y cyfrifoldeb hwn, ac i ymgynghori ar y mater â
Fforwm y Cadeiryddion. |
|
Amserlen y Pwyllgorau Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen
ddiwygiedig ar gyfer y pwyllgorau a chytuno arni, gan ganiatáu i'r Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon gwrdd yn wythnosol. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Y wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda
Cydsyniad Deddfwriaethol Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf
i'r pwyllgor am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a ganlyn: Y Bil Pysgodfeydd - Mae hwn wedi cael ei ddal
yn ôl ymhellach am resymau technegol ac mae'n debygol o gael ei gyflwyno ar ôl
toriad yr haf. Felly mae'r ddadl a oedd wedi cael ei hamserlennu dros dro ar
gyfer 8 Gorffennaf wedi cael ei gohirio. Y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) a'r Bil
Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) - Cafodd y Biliau hyn eu cyflwyno ar
gyfer gwaith craffu gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ond ni osodwyd terfynau amser ar
gyfer adroddiadau gan fod y llywodraeth yn aros am
wybodaeth ychwanegol am amserlenni'r Senedd. Gan fod y rhain yn parhau i fod yn
ansicr, cynigiodd y llywodraeth bod y pwyllgorau yn cael terfyn amser o 2
Gorffennaf ar gyfer cyflwyno adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r terfyn
amser arfaethedig. Y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol
- Mae'r llywodraeth yn ystyried a oes angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd
ar gyfer y Bil hwn ac, os felly, mae'n rhagweld gosod y Memorandwm yr wythnos
hon ac yn awgrymu cynnal dadl ar 10 Mehefin. Cwestiynau ysgrifenedig Cododd Rheolwyr Busnes y Gwrthbleidiau
bryderon pellach ynghylch amseru a chynnwys atebion ysgrifenedig. Cytunodd y
Trefnydd i drafod hyn gyda chyd-Weinidogion a chododd y mater fod Aelodau yn
gofyn am wybodaeth a oedd eisoes ar gael yn gyhoeddus. Gofynnodd y Llywydd i'r
swyddogion ddarparu rhagor o wybodaeth iddi ynghylch pryd roedd cwestiynau yn
cael eu hateb. |