Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y
cyfarfodydd ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd y wybodaeth ddiweddraf i'r Pwyllgor Busnes ynghylch ychwanegu dau
ddatganiad ar gyfer y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, a bod yr holl ddatganiadau
wedi'u hymestyn i 45 munud yr un.
Dywedodd y
Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi'u gohirio tan 29 Ebrill fel y
gellir eu trafod ochr yn ochr â'r rheoliadau a fydd yn eu diwygio. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher yr wythnos nesaf,
ac y dylai ddechrau am 1.30pm. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd na fydd unrhyw
doriad yn y trafodion. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â rhoi unrhyw gwestiynau ar y
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes. Nifer yr
Aelodau'n bresennol: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i barhau gyda dyrannu Aelodau ar gyfer pob grŵp o'r
Cyfarfod Llawn diwethaf: 12 Llafur a'r llywodraeth, 6 Ceidwadwyr, 4 Plaid Cymru
a 2 Brexit, gan roi uchafswm o 28 yn bresennol pe bai pob Aelod annibynnol yn
bresennol. Cytunwyd
hefyd i ganiatáu i aelod arall o'r pleidiau gymryd lle eu harweinwyr pleidiau
(gan gynnwys y Prif Weinidog) ar ôl yr eitem gyntaf. Gofynnodd
y Llywydd i swyddogion anfon nodyn at yr holl Aelodau yn eu hatgoffa o
ymddygiad yn ystod cyfarfodydd Zoom. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Dywedodd y
Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i Fusnes y Llywodraeth ar
gyfer y 3 wythnos nesaf: Dydd
Mercher 29 Ebrill 2020 ·
Datganiad
gan y Gweinidog Addysg: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud) ·
Datganiad
gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud) ·
Cynnig o
dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i gynnal dadl ar y ddwy eitem a ganlyn gyda'i
gilydd ac y byddant yn destun un bleidlais (30 munud) o
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 o
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Diwygio) (Cymru) 2020 Dydd
Mercher 6 Mai 2020 ·
Datganiad
gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) ( ·
Datganiad
gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws
(COVID-19) (45 Munud) ·
Datganiad
gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Coronafeirws (COVID-19) (45
munud) ·
Datganiad
gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Coronafeirws
(COVID-19) (45 munud) Esboniodd
y Trefnydd y byddai datganiadau gan y Gweinidog Iechyd a Gweinidog yr Economi
bob pythefnos am yn ail â'i gilydd ar ôl yr wythnos nesaf. Gofynnodd
y Rheolwyr Busnes i'r Trefnydd am ragor o wybodaeth am y datganiad gan y
Cwnsler Cyffredinol sydd wedi'i drefnu ar gyfer 6 Mai. Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith nad oedd Cynigion Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Biliau Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yn ymddangos ar yr
amserlen tair wythnos fel y rhagwelwyd yn flaenorol oherwydd oedi o ran cynnydd
seneddol y Biliau hyn. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Masnach Cofnodion: Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd mewn egwyddor i gyfeirio'r Memorandwm at
y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar
gyfer adrodd yn ôl ddydd Iau 4 Mehefin. Mae hyn yn amodol ar gytundeb y
Pwyllgor Busnes o ran amserlen ar gyfer busnes pwyllgorau. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a
chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf, unwaith y bydd y Cabinet
wedi trafod y rhaglen ddeddfwriaethol yr wythnos nesaf. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes hefyd i swyddogion
ymchwilio i sut y gallai trafodion Cyfnod 2 weithio yn yr amgylchiadau
presennol, naill ai'n rhithiol neu'n bersonol gan barchu rheolau ymbellhau
cymdeithasol yr un pryd. |
|
Pwyllgorau |
|
Ailddechrau Gweithgareddau Pwyllgorau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ailddechrau gweithgareddau pwyllgorau ar gyfer busnes yn
ymwneud â materion Covid-19, rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a
busnes arall sy'n hanfodol o ran amser. Byddai amserlen pwyllgor pedair
wythnos dreigl yn cael ei datblygu, mewn ymgynghoriad â chadeiryddion
pwyllgorau. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
ailafael yn ei gyfrifoldebau o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Cytunwyd hefyd
y gallai'r Pwyllgor, ynghyd â Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau; y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; a'r
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ddechrau gwneud
trefniadau i gwrdd yn ystod yr wythnos yn cychwyn 27 Ebrill. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y bydd y Llywydd yn galw cyfarfod Fforwm y Cadeiryddion yr
wythnos nesaf. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes a gaiff y Cadeiryddion drafodaeth
gydag aelodau'r pwyllgor cyn y cyfarfod er mwyn sicrhau'r mewnbwn a'r
ymgysylltiad ehangaf posibl. Cafodd y Rheolwyr Busnes hefyd eu hannog gan y
Llywydd i fynd i gyfarfod Fforwm y Cadeiryddion. Cyfeiriodd
y Rheolwyr Busnes at y cyfyngiadau capasiti sy'n gysylltiedig â chefnogi
cyfarfodydd cyhoeddus rhithwir y pwyllgorau cyhoeddus, gan gyfyngu gweithgaredd
i un cyfarfod pwyllgor ar unrhyw adeg.
|
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Memoranda
Cydsyniad Deddfwriaethol Esboniodd
y Trefnydd nad yw'r Memoranda ar y Biliau Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yn
ymddangos ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes oherwydd oedi yn yr amserlen
Seneddol, ac nid yw'n glir pryd y bydd angen trafod y Memoranda. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiadau cau i'r pwyllgorau ar gyfer adrodd yn ôl
i 14 Mai ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth a 21 Mai ar gyfer y Bil Pysgodfeydd. Dywedodd y
Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod y gwaith craffu Seneddol ar Fil yr
Amgylchedd wedi cael ei oedi, felly cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y
dyddiadau cau i'r pwyllgorau ar gyfer adrodd yn ôl i 4 Mehefin. Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes
hefyd bod y broses o osod Memoranda ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)
2020, y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) 2020 a'r Bil Diogelwch Tân
wedi cael ei gohirio oherwydd bod gwaith ymateb i COVID-19 yn cael ei
flaenoriaethu. Gobaith y Llywodraeth yw gosod y Memoranda ar y rhain yr
wythnos nesaf. Cwestiynau
Ysgrifenedig Cododd rheolwyr busnes yr wrthblaid faterion sy’n ymwneud ag
amseroldeb a chynnwys atebion ysgrifenedig, ac roedd gan y Trefnydd bryderon
ynghylch nifer a chynnwys y cwestiynau, gyda rhai ohonynt am
wybodaeth a oedd eisoes ar gael i'r cyhoedd. Roedd rheolwyr busnes yr wrthblaid
o'r farn nad oedd y wybodaeth ar gael i'r cyhoedd ar yr adeg y gofynnwyd y
cwestiwn. Gofynnodd y Llywydd i swyddogion roi rhagor o wybodaeth iddi er
mwyn llywio trafodaeth y Pwyllgor Busnes yn y dyfodol. Cyfarfodydd
y Pwyllgor Busnes yn y Dyfodol Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drefnu cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn y dyfodol ar
ddechrau'r wythnos, gyda'r diwrnod a'r amser i'w cytuno y tu allan i'r
pwyllgor. |