Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol (17.03.20)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

2.1

Cofnodion y cyfarfod blaenorol (18.03.20)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y cynnig i atal Rheolau Sefydlog ar ddechrau’r cyfarfod yn caniatau i gwestiynau Gweinidogol beidio â chael eu gofyn – mae Gweinidogion, yn hytrach, wedi cytuno i ddarparu atebion ysgrifenedig. Bydd y cynnig hefyd yn caniatau i fusnes a amserlenwyd ar gyfer dydd Mercher gael ei drafod dydd Mawrth.

 

Dywedodd y Trefnydd hefyd wrth y Rheolwyr Busnes fod angen i’r Gweinidog Addysg fynd i gyfarfod pedairochrog, felly mae’r llywodraeth wedi cyfnewid ei Datganiad hi â Datganiad y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Awgrymodd hefyd y dylid cynnwys egwyl i gael cinio yn ystod busnes dydd Mawrth.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd seddi penodol ar gyfer cyfarfod dydd Mawrth, er mwyn caniatáu ymbellhau cymdeithasol yn y Siambr. Dywedodd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd nad oedd am gael mwy na hanner cant y cant o’r Aelodau yn y Siambr ar unrhyw un adeg. Caiff yr Aelodau eu hannog i ganfod sedd yn agos at eu sedd benodedig o fewn eu grŵp plaid os yn bosibl. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn darwahanu’r cyfnod pleidleisio fel nad oedd angen i’r holl Aelodau fod yn y Siambr ar yr un pryd.

 

Cytunodd y Llywydd i gynnig y caiff cynigion Cyfnod 1 a Phenderfyniad Ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) eu grwpio ar gyfer y ddadl a’r bleidlais.

 

Dyweodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd na fydd yn derbyn unrhyw Gwestiynau Amserol, gan ei bod o’r farn y gellir codi’r holl faterion naill ai o dan y Cwestiynau i’r Prif Weinidog neu ddatganiadau perthnasol.

 

Dydd Mawrth

 

·         Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 10am.

 

·         Ni fydd y Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 18.10pm.

 

Dydd Mercher

 

Nid oes unrhyw fusnes dydd Mercher.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Mae’r Trefnydd wedi tynnu popeth oddi ar amserlen busnes y llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf, ac eithrio Cwestiynau i’r Prif Weinidog, Cwestiynau i’r Gweinidogion a’r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes er mwyn canolbwyntio ar eitemau’n ymwneud â COVID-19.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Cynulliad am y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes hyn o dan eitem 4. 

 

4.

Busnes y Cynulliad

4.1

Busnes y Cynulliad

Cofnodion:

Er mwyn hwyluso busnes hanfodol yn ystod yr achosion o COVID-19, roedd y mwyafrif o Reolwyr Busnes o blaid Senedd frys lai ar gyfer cyfarfodydd y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bwysoli pleidleisiau, ar fodel y Pwyllgor Busnes. Cytunodd y Rheolwyr Busnes  i weithio gyda’u grwpiau er mwyn lleihau niferoedd ymhellach (6 llywodraeth, 3 Ceidwadwyr, 2 Plaid Cymru, 1 Brexit), a lleihau’r cworwm ar gyfer y Cyfarfod Llawn i 4. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i argymell bod angen diwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn hwyluso’r holl benderfyniadau hyn, a chrynhoi’r holl Reolau Sefydlog newydd a brys cyfredol mewn un Rheol Sefydlog newydd Rhif 34.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai’r Llywydd ysgrifennu at aelodau annibynnol yn eu hysbysu bod y grwpiau gwleidyddol bellach yn dogni ar bresenoldeb yn y Cyfarfod Llawn, a’u hanog i ddilyn y drefn honno. Bydd y Llywydd hefyd yn nodi y bydd yn galw Aelodau annibynnol yn gymesur â’u cynrychiolaeth.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ganslo toriad y Pasg, a threfnu Cyfarfod Llawn bob dydd Mawrth am y dyfodol agos; y Pwyllgor Busnes fydd yn penderfynu bob dydd Gwener cyn hynny a fydd pob Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i argymell atal y rhannau hynny o’r Rheolau Sefydlog sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gwestiynau i’r Prif Weinidog, Cwestiynau Llafar i’r holl Weinidogion a Chwestiynau i’r Comisiwn gael eu cynnal bob wythnos / pedair wythnos. Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar y Cwestiynau Ysgrifenedig, ond bydd hyn yn cael ei adolygu.

 

Gofynnodd y Llywydd i swyddogion ganfod a fyddai’n bosibl cynnal cyfarfod brys o’r Senedd o bell.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i argymell newidiadau i’r Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu’r Llywydd i alw’r Senedd yn ôl gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i argymell newidiadau i’r Rheolau Sefydlog er mwyn dileu’r gofyniad i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ystyried offerynnau statudol a chyflwyno adroddiad arnynt. Gallai’r Senedd frys drafod unrhyw wybodaeth y byddai’r Pwyllgor wedi’i gael fel arfer gan swyddogion. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd na ddylai’r pwyllgorau gwrdd bellach.

 

 

4.2

Trefniadau Cyflwyno dros Doriad y Pasg

Cofnodion:

Gan fod y Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ganslo Toriad y Pasg, ni thrafodwyd y papur.

 

 

5.

Deddfwriaeth

5.1

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Coronafeirws

Cofnodion:

Ni chyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Cynnig i gael ei graffu gan bwyllgor, oherwydd y cyflymder y disgwylir i’r Bil gael ei gyflwyno drwy’r cyfnodau yn Senedd y DU. Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno i’w ystyried yn y Cyfarfod Llawn yfory.

 

 

5.

Unrhyw Fusnes arall

Cofnodion:

Deddfwriaeth y llywodraeth

 

Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Rheolwyr Bunses am raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth.

 

Y ddwy brif flaenoriaeth yw’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

 

Bydd y llywodraeth yn ystyried yr amserlenni ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru); bydd yr olaf yn cael ei anfon i gael penderfyniad y Llywydd fel y bwriadwyd.

 

Efallai mai lle’r llywodraeth nesaf fydd cyflwyno’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol – bydd y llywodraeth yn ceisio ymgynghori ar Fil drafft. Caiff y gwaith craffu ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau a’r Bil Gwasanaethau Bysiau eu hatal dros dro a bydd y llywodraeth yn ailystyried yn y dyfodol.

 

Bydd y llywodraeth yn blaenoriaethu is-ddeddfwriaeth i ymateb i COVID-19 a phontio Ewropeaidd, yn ogystal ag unrhyw rai sy’n gyfreithiol angenrheidiol.

 

Bydd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol yn parhau i gael eu hystyried os yn bosibl.